Rydym wedi ymrwymo i adeiladu sector y celfyddydau ac iechyd sy’n:
• Cydlynus
Wedi’i ategu gan gydraddoldeb ac sy’n gweithio mewn partneriaeth rhwng y sectorau celfyddydol ac iechyd/gofal cymdeithasol.
• Sefydlog
Mae’r Celfyddydau ac Iechyd yn brif ffrwd, wedi’i ariannu’n iawn ac yn rhan hanfodol o’r ddarpariaeth iechyd.
• Dysgu’n barhaus
Rhannu a dysgu o brofiad ac arferion da yw’r norm.
• Arloesol
Mae lle i arloesi, profi syniadau a ffyrdd newydd o weithio.
• Hygyrch
Ceir nifer o lwybrau i bobl gael mynediad at ymyriadau celfyddydol ac iechyd.
• Ffocws
Rydym yn cydweithio ar draws Cymru ar gydflaenoriaethau.
• Cynrychioliadol
Mae'r sector yn gynhwysol ac mae pobl sydd â phrofiadau bywyd wastad yn ganolog.
Ein blaenoriaethau yw:
• Cefnogi gwell iechyd meddwl
Prosiectau creadigol sydd o fudd i bobl sy'n byw gyda chyflyrau iechyd meddwl gyda’r nod o atal unigrwydd neu atgyfeirio pobl at weithgareddau creadigol i gefnogi lles (y celfyddydau ar bresgripsiwn).
• Gwella cysylltiadau gyda natur
Prosiectau creadigol sy’n ceisio gwella iechyd a lles pobl drwy gynyddu eu cysylltiad â byd natur drwy’r celfyddydau.
• Gweithio i leihau anghydraddoldebau iechyd
Prosiectau creadigol a gynlluniwyd i ddod â manteision iechyd a lles i gymunedau ac unigolion sydd wedi'u heffeithio'n andwyol gan dlodi, ymyleiddio neu amddifadedd.
• Gwella iechyd a lles corfforol
Hyrwyddo prosiectau celfyddydol sy'n cefnogi gwell iechyd corfforol.
• Buddsoddi yn lles y gweithlu
Cefnogi lles artistiaid a gweithlu ehangach y Celfyddydau yn ogystal â chydweithwyr sy'n gweithio yn y GIG ac ym maes gofal cymdeithasol.
Ein hegwyddorion a’n blaenoriaethau
Ein hegwyddorion celfyddydau, iechyd a lles
Mae ein hegwyddorion a’n blaenoriaethau yn llywio ein gwaith ym maes y celfyddydau ac iechyd yng Nghymru.
