Trwy ein rhaglenni arian Loteri ry'n ni'n rhoi arian i brosiectau sy'n datblygu celf newydd ac yn cefnogi unigolion, cymunedau a sefydliadau.  

Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae Cyngor y Celfyddydau wedi defnyddio arian gan Y Loteri Genedlaethol i gefnogi artistiaid a sefydliadau i greu gwaith cyffrous o Fôn i Fynwy. Rydym hefyd wedi cefnogi codi rhai o adeiladau enwocaf Cymru, megis Canolfan Mileniwm Cymru yn y brifddinas; Galeri, Caernarfon a Tŷ Pawb yn Wrecsam. 

Mae rhai o'n cwmniau portffolio yn dosbarthu arian Loteri ar ein rhan: 
 

spending infographic icon
£287m
o arian Loteri wedi ei ddosabrthu ers 1995

Ar 24 Mawrth 1995 fe wnaeth Cyngor y Celfyddyau Cymru roi ei grant Loteri Cenedlaethol cyntaf un.

Fe gafodd Seindorf Pontarddulais £37,350 i godi neuadd ymarfer newydd. Mae'r band wedi mynd o nerth-i-nerth, yn ennill sawl cystadleuaeth o fri.

I lawer o bobl ifanc, y Neuadd Ymarfer yw'r cyfle cyntaf iddynt gael mwynhau chwarae cerddoriaeth; defnyddir Y Neuadd ddeuddydd yr wythnos ar gyfer ymarferion cychwynwyr ac uwch.

Mae llawer o newid wedi bod ers y dyddiau cynnar hynny. Erbyn hyn ry'n ni wedi ariannu:  
 

13,502 o brosiectau

A dosbarthu £287m o arian Y Loteri Genedlaethol