Mae ein Strategaeth 2024-2034 yn fframwaith sy'n nodi ein gweledigaeth, cenhadaeth, gwerthoedd ac egwyddorion ac yn nodi ymrwymiadau byr dymor a rhai tymor hir.

Bydd y Strategaeth hon a'r ffordd yr ydym yn cyflawni'r ymrwymiadau strategol allweddol ynddi yn cael eu hadolygu'n rheolaidd, a byddwn yn mesur ei chynnydd drwy ein Cynllun Blynyddol.

Sgroliwch i lawr i lawrlwytho'r ddogfen lawn, neu cliciwch ar y dolenni am grynodeb o bob adran.

Ein Gweledigaeth

Mae'r celfyddydau yn rhan o fywyd beunyddiol pobl Cymru. Maent yn ein cysylltu â'n gilydd, yn rhan annatod o'n lles ac yn ein hysbrydoli am genedlaethau i ddod.

Ein Cenhadaeth

Swyddogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru yw creu sefyllfa lle gall gwybodaeth, dealltwriaeth ac ymarfer yn y celfyddydau ffynnu a lle gall pawb ymgysylltu â'r celfyddydau. Rydym am weld Cymru o uchelgais a thegwch sy’n creu Celfyddydau cyffrous, yn rhan annatod o’n hiechyd a’n lles ac yn berthnasol i bob cymuned. Bydd ein lleisiau’n ysbrydoli’r byd a byddwn yn cael ein hysbrydoli gan y byd o'n cwmpas.

Ein Gwerthoedd

Mae gennym dri phrif werth:

Uchelgais – sicrhau bod y celfyddydau rydym yn eu hariannu yn diwallu anghenion a chwrdd â dyheadau’r Gymru gyfoes gan esgor ar bethau gwych ar bob lefel, yn lleol a byd-eang.

Parch – trin pawb (cleientiaid, rhanddeiliaid, gweithwyr, y sector creadigol a'r cyhoedd) ag urddas gan eu gwerthfawrogi, ni waeth beth yw eu cefndir, eu statws, eu hoed neu eu credoau a chydnabod eu cyfraniad unigryw at y celfyddydau a diwylliant, yn lleol a byd-eang.

Cyfrifoldeb – gweithio'n foesegol a thryloyw, bod yn atebol am ein penderfyniadau a'u canlyniadau, gwerthuso a dysgu o'n gwaith i greu canlyniadau da a meithrin diwylliant o ymddiried a gwell cyfleoedd i bawb.

Ein Hegwyddorion

Mae'r Fframwaith Strategol hwn wedi'i lunio gan y chwe egwyddor a ddatblygwyd yn ystod ymgynghoriad yr Adolygiad Buddsoddi. Y chwe egwyddor hefyd yw ein Hamcanion Llesiant gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn sail iddynt. Maent hefyd yn cyd-fynd â Rhaglen Lywodraethu ac ymrwymiadau Llywodraeth Cymru yn y raft o’i Strategaeth Ddiwylliant.

Y chwe egwyddor yw:

  1. Creadigwrydd
    Mae gan bob celfyddyd y grym i'n cysylltu â'n gilydd ac yn fodd inni ddeall ein gilydd a'r byd o'n cwmpas. Mae creadigrwydd yn herio a thanio ein dychymyg. Mae'n dod â llawenydd a gobaith i’n cynulleidfa a’n cyfranogwyr.
    Mae creadigrwydd yn yr holl waith a’r holl bobl rydym yn eu cefnogi. Rydym am weld ystod eang o gelfyddydau, arloesi artistig o safon ac arferion creadigol sydd wedi’u datblygu gyda golwg ar y gynulleidfa a'r gymuned.
  2. Cydraddoldeb ac Ymgysylltu
    Mae gan bawb yr hawl i fwynhau eindiwylliant, ein hiaith, ein tirwedd a’n celf a chymryd rhan ynddynt.
    Mae’n celfyddydau a’n diwylliant yn perthyn i bawb a rhaid iddynt adlewyrchu bywyd pob un ohonom.
    Byddwn yn cael gwared ar y rhwystrau sydd i brofi'r celfyddydau. Byddwn yn sicrhau cynrychiolaeth lawn i bobl amrywiol yn ein gweithlu, yn arweinwyr, penderfynwyr, crewyr, ymwelwyr, cyfranogwyr ac aelodau o’r gynulleidfa.
  3. Y Gymraeg
    Ein nod yw i'r Gymraeg a'i diwylliant fod wrth wraidd ein creadigrwydd. Mae'r iaith yn perthyn i bawb ac yn fodd i ddathlu’r cysylltiad rhwng cymunedau.
    Byddwn yn rhannu cyfleoedd sy'n cyfrannu at dwf yn nefnydd y Gymraeg a nifer y bobl sy’n ei pherchnogi. Byddwn yn cefnogi'r sector i osod y Gymraeg wrth wraidd ei greadigrwydd a’i gymunedau drwy wrando ar bobl a dysgu am yr angen. Byddwn yn cydweithio i ledu gwasanaethau a chyfleoedd creadigol Cymraeg.
  4. Cyfiawnder Hinsawdd
    Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo swyddogaeth bwysig y celfyddydau i drawsnewid ein cymdeithas a'n heconomi i ddatrys yr argyfwng hinsawdd a natur. Nid yr ôl-effeithiau amgylcheddol yn unig yw’r broblem gyda’r hinsawdd. Mae hefyd angen cyflawni cyfiawnder cymdeithasol a datrys anghydraddoldeb fel rhan o’r ateb.
    Byddwn yn cefnogi’r sector i ysbrydoli pobl i weithio dros gyfiawnder hinsawdd a chreu sector sy’n amgylcheddol gynaliadwy ar sail cyfiawnder cymdeithasol.
  5. Datblygu Talent
    Byddwn yn sicrhau ein bod yn creu amgylchedd sy'n help artistiaid ffynnu.
    Rhaid creu llwybrau i bobl o bob cefndir allu datblygu sgiliau, gyrfa gynaliadwy a’r gallu i arwain.
    Gan gydweithio, byddwn yn sicrhau dosbarthu'n deg y cyfleoedd i artistiaid a chynnig gwaith teg a gwell canlyniadau i’n pobl, nawr ac yn y dyfodol.
  6. Trawsnewid
    Byddwn yn manteisio ar gyfleoedd newydd ac ymateb yn hyderus i'r holl newidiada sy'n digwydd o'n cwmpas. Byddwn yn mentro, yn meithrin gwytnwch, yn ymateb i newid ac yn parhau i fod yn berthnasol i’n pobl a’n cymunedau. Rydym am gael y cyfleoedd gorau i'r celfyddydau, dysgu gwersi o’r gorffennol a rhannu beth sy'n
    gweithio orau.
Ein Hamcanion

Ein Siarter Frenhinol, ein gweledigaeth gelfyddydol a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) yw’r sail i’n hamcanion a’n hymrwymiadau.

Datblygu
Datblygu a gwella gwybodaeth, dealltwriaeth ac arferion cynaliadwy ym maes y celfyddydau. 

Cysylltu
Cydweithio i wella'r cyfle i’n pobl brofi a mwynhau'r celfyddydau. 

Hyrwyddo
Cydweithio â phartneriaid i hyrwyddo Cymru o ddiwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. 

Ein Hymrwymiadau

Amcan 1: Datblygu

Ymrwymiadau allweddol:

Blaenoriaethau
Rydym yn gwybod nad oes modd inni wneud popeth ar unwaith. Felly byddwn yn canolbwyntio ar y pethau pwysig i’w gwneud yn gyntaf.

Nodi
Drwy ddefnyddio’r dystiolaeth sydd gennym a’n profiad, byddwn yn nodi lle y gallwn gael yr effaith fwyaf. Byddwn hefyd yn dysgu oddi wrth eraill a rhannu ein gwybodaeth â nhw.

Gweithredu
Byddwn yn gweithredu i sicrhau bod rhagor o bobl yn mwynhau profiadau celfyddydol o safon. Byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn unigolion a sefydliadau i ddatblygu cynaliadwyedd y sector. Byddwn yn datblygu rhaglenni mewn partneriaeth ag eraill.

Symleiddio
Bydd ein ffordd o gyfathrebu â'r sector a'r cyhoedd yn gliriach. Rydym hefyd am i'n ffyrdd o ariannu fod yn fwy tryloyw a hygyrch.

Datblygu Gyrfa
Byddwn yn cydweithio i ddatblygu llwybrau gyrfa cynaliadwy yn y celfyddydau gan aros yn effro i anghenion cyfnewidiol ein hartistiaid a'r sector. 

Amcan 2: Cysylltu

Ymrwymiadau allweddol:

Gweithio Mewn Partneriaeth
Byddwn yn cydweithio i wireddu ein huchelgais yma ac yn y byd. Byddwn hefyd yn cydweithio y tu hwnt i sector y celfyddydau i wella ein cyrhaeddiad a'n heffaith.

Cymuned
Byddwn yn grymuso cymunedau i lunio a llywio eu profiadau artistig i ddatblygu’r celfyddydau mewn cymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym am sicrhau bod cyfleoedd i bobl Cymru brofi'r celfyddydau’n gyfranogwyr ac aelodau o'r gynulleidfa.

Plant a Phobl Ifanc
Rydym eisiau rhagor o gyfleoedd i blant a phobl ifanc fwynhau'r celfyddydau a chymryd rhan ynddynt. Byddwn yn sicrhau bod gan bobl ifanc - cenedlaethau'r dyfodol - lais yn ein trefniadau a’n penderfyniadau.

Dysgu
Byddwn yn defnyddio offer i gael adborth a gwerthusiadau gan y gynulleidfa, y cyfranogwyr a’r artistiaid i lywio datblygiadau’r dyfodol a rhannu arferion da.

Amcan 3: Hyrwyddo

Ymrwymiadau allweddol:

Partneriaethau
Byddwn yn magu a chynnal cysylltiadau yma a thramor.

Lles
Byddwn yn hyrwyddo pwysigrwydd y celfyddydau i les ein pobl.

Adnoddau
Byddwn yn neilltuo adnoddau i godi proffil y sector.

Dathlu
Byddwn yn defnyddio straeon i rannu, hyrwyddo a dathlu'r celfyddydau.

Ein Hymrwymiadau Strategol

Rydym wedi nodi wyth ymrwymiad strategol hirdymor i sicrhau model cynaliadwy a sefyllfa sy’n gefnogol a chyforiog yn ddiwylliannol i genedlaethau'r dyfodol.

Meithrin 
Adnabod talent ddiwylliannol a chefnogi dilyniant drwy gyfleoedd a llwybrau.

Cyfleoedd
Datblygu prentisiaethau, secondiadau a llwybrau â mentora i'r sector ac i ni fel sefydliad.

Rhwydweithio
Cysylltu â gwahanol bartneriaid a chreu cysylltiadau newydd gan gynnwys y tu allan i'r sector a nodi cysylltwyr a hyrwyddwyr lleol, cenedlaethol a byd-eang.

Cyflymder
Sicrhau bod ein datblygiad a'n cymorth yn parhau’n briodol i'r sefyllfa gan wneud y mwyaf o’r cyfleoedd ac ymateb i alwadau.

Cydgyfrifoldeb 
Creu sefyllfa sy'n annog unigolion a grwpiau i berchnogi eu gwaith cyhoeddus a mawrygu eraill ar yr un platfformau.

Tegwch
Gwneud cyfiawnder yn ganolog i'n gwaith a dymchwel rhwystrau iddo drwy fesurau a chymorth targedol.

Gwerthuso
Defnyddio gwerthusiadau a dysgu oddi wrth adborth gan y gynulleidfa i ysbrydoli a llywio datblygiad ac arfer da’r dyfodol.

Gwaddol
Dangos effaith hirdymor ein gwaith ni a gwaith y sector gan sicrhau cyfleoedd y dyfodol i ystyried hefyd y celfyddydau newydd sy'n dod i'r amlwg.