Mae’r pecyn cymorth hwn i leoliadau a chwmnïau ar draws Cymru ddatblygu a darparu ar gyfer cynulleidfaoedd â nam ar eu golwg. Yma fe gewch amrywiaeth o wybodaeth ynghylch sut i wneud eich gwaith neu’ch lleoliad yn fwy croesawgar a hygyrch a sut i feithrin a chadw cynulleidfa â nam ar eu golwg.
Mae wedi cael ei lunio gan yr ymarferydd theatr ac ymgynghorydd â nam ar ei golwg, Chloë Clarke, a Chelfyddydau Anabledd Cymru i Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae’r wybodaeth a roddir yn ffrwyth ymchwil ofalus a thrafodaethau gyda phobl â nam ar eu golwg ar draws Cymru, yn ogystal â chanfyddiadau o arolygon ac astudiaethau achos. Rydym hefyd wedi siarad yn helaeth â gweithwyr proffesiynol, cwmnïau a lleoliadau o wahanol feintiau ym maes y celfyddydau i ganfod y rhwystrau rydych yn eu hwynebu wrth ddarparu mynediad. Ein nod yw mynd i’r afael â’r rhwystrau hyn a’ch helpu i ganfod atebion fel y gall mynediad i’r theatr yng Nghymru ddod yn fwy cyffredin ac fel y gallwch feithrin cynulleidfa ehangach a mwy amrywiol.
Mae celfyddydau a diwylliant ar gyfer pawb. Ond os oes gennych nam neu ofyniad mynediad penodol, nid yw bob amser yn hawdd cael profiad ohono.
Mae Hynt yn fenter Cyngor Celfyddydau Cymru a reolir gan Greu Cymru mewn partneriaeth â Diverse Cymru.
Cynllun mynediad cenedlaethol yw Hynt, sy'n gweithio gyda theatrau a chanolfannau celfyddydau yng Nghymru i sicrhau bod cynnig cyson ar gael i ymwelwyr â nam neu ofynion mynediad penodol ac i’w Gofalwyr a’u Cynorthwywyr Personol.