Pam mynd ati i ddatblygu gweithle dwyieithog?  

  • Mae’n rhoi cyfle ardderchog i staff ymarfer, datblygu a gwella eu sgiliau Cymraeg 
  • Bydd hyder staff yn codi wrth ddefnyddio’r iaith.  
  • Bydd y cyflogwr yn cael ei ystyried fel un sy’n trin staff â pharch a chwrteisi beth bynnag fo’u dewis iaith  
  • Mae’n cryfhau’r cyswllt rhwng iaith y gweithle a iaith y gymuned  
  • Mae defnyddio mwy o’r Gymraeg yn arwain at wasanaeth dwyieithog gwell i’r cyhoedd  

Mae'n ofynnol i unrhyw un a benodir i swydd PAYE yn y Ganolfan fedru'r Gymraeg.

Meinir Llwyd Roberts, Canolfan Gerdd William Mathias

Newidiadau bach  

Cofnodi sgiliau eich gweithlu: Ydych chi’n gwybod pwy sydd â sgiliau iaith Gymraeg? Ewch ati i siarad gyda’ch gweithwyr er mwyn canfod a chofnodi beth yw lefel eu sgiliau presennol a gweld pwy sy’n hyderus i ddefnyddio’r sgiliau rheini. 

Gosod meddalwedd gramadeg a sillafu Cymraeg ar gyfrifiaduron: Gall hyn fod o gymorth mawr i siaradwyr ac ysgrifenwyr a’u helpu i deimlo’n hyderus wrth ysgrifennu yn Gymraeg. Dyma grynodeb o'r holl feddalwedd a'r adnoddau sydd ar gael i'ch helpu chi gyda’r iaith.  

Codi ymwybyddiaeth: Ydy'r staff yn gwybod eich bod yn sefydliad sy'n cefnogi'r Gymraeg? Rhowch wybod i'ch gweithwyr bod cyfleoedd ar gael i’w cefnogi i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.  

  • Gwnewch yn siŵr fod eich staff yn ymwybodol bod rhai agweddau o'ch gwaith yn digwydd neu ar gael yn Gymraeg.  
  • Rhowch wybod i bawb  pwy yw'r siaradwyr Cymraeg o fewn eich tîm.  
  • Dathlwch ac anogwch eich staff sy'n dysgu'r Gymraeg.  
  • Rhowch wybod i staff newydd yn ystod eu proses anwytho fod y Gymraeg yn bwysig i'ch sefydliad chi.  
  • Gwnewch hi’n hawdd i bawb adnabod siaradwyr a dysgwyr Cymraeg. Archebwch fathodyn Iaith Gwaith i’ch staff sydd â sgiliau Cymraeg eu gwisgo drwy ebostio: post@cyg-wlc.cymru.  

 

Newidiadau tymor canol 

Beth am ddysgu ychydig o Gymraeg neu annog eich staff i wneud?  

Mae llond trol o gyrsiau gwych ar gael ar-lein ar gyfer pob lefel gallu. 

Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol sy'n gyfrifol am y sector dysgu Cymraeg. Mae'r Ganolfan yn cefnogi ac yn annog pawb sydd am ddysgu'r iaith. Mae pob math o opsiynau gwahanol ar gael i gyflogwyr a’u gweithluoedd sydd am ddysgu Cymraeg.

Mae llawer ohonom ni yn y cwmni bellach yn dysgu Cymraeg. Mae'r rhan fwyaf o'n staff yn defnyddio apiau fel Duolingo ac mae'n eithaf cystadleuol rhyngom ni! Rydym hefyd yn cael hyfforddiant Cymraeg rheolaidd a chefnogaeth un i un.

Kathryn Williams, Cyfarwyddwr Rubicon Dance

Gwneud yr iaith yn amlwg yn eich lle gwaith

  • Gosodwch arwyddion dwyieithog yn eich swyddfa / oriel / gweithdy. Gall cyfieithydd eich cynorthwyo gyda’r gwaith os oes angen. 
  • Rhowch restr o dermau allweddol yn y Gymraeg am eich gwaith gyda sillafiadau ffonetig.  
  • Prynwch eiriadur Cymraeg ar gyfer y swyddfa a beth am danysgrifio i gylchgrawn Cymraeg neu drefnu sesiwn sgwrsio i staff sy'n dysgu'r Gymraeg? 

Gwnewch yn siŵr fod rhai o’ch prif ddogfennau ar gael yn y Gymraeg; eich pecyn cynefino i staff newydd, cytundebau ac ati. Mae’n hawdd dod o hyd i gyfieithydd proffesiynol i'ch helpu gyda hyn.
 

Hysbysebu swyddi

  • Pan ddaw cyfle i recriwtio gwirfoddolwyr neu weithwyr newydd gallwch ofyn am sgiliau Cymraeg. Efallai y byddwch am nodi fod sgiliau Cymraeg yn ddymunol, neu hyd yn oed yn hanfodol. 
  •  Pan fyddwch yn recriwtio mae hi’n bwysig iawn meddwl am iaith yr hysbyseb ond gallwch greu hysbysebion dwyieithog ar gyfer pob cyfle. 
  • Mae mwy o gyngor am recriwtio staff ar gael yma yng Nghanllaw Recriwtio Comisiynydd y Gymraeg.  
  • Cofiwch hysbysebu eich swyddi yn y wasg Gymreig. Dyma grynodeb o'r cyhoeddiadau sydd ar gael

 

Newidiadau hir dymor 

Siaradwyr Cymraeg yn Aelodau o’ch Bwrdd 

Os oes gennych Fwrdd ystyriwch geisio sicrhau fod sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol neu'n hanfodol ar gyfer o leiaf un aelod. Gall hynny fod yn ffordd effeithiol o helpu newid ethos sefydliad a sicrhau fod materion ieithyddol yn cael eu hystyried ar lefel strategol. Eto, wrth recriwtio am aelod mae’n bwysig cofio sicrhau fod eich hysbyseb yn ddwyieithog a chofiwch hysbysebu cyfleoedd yn y wasg Gymraeg.