Disgwyliwn, i raddau helaeth, fod modd i gynulleidfaoedd, gyfranogwyr ac artistiaid ymwneud â'r celfyddydau yn eu dewis iaith.
Wrth dderbyn grant gan Gyngor y Celfyddydau rydych chi fel sefydliad neu unigolyn yn ymrwymo i wneud rhai pethau yn Gymraeg neu’n ddwyieithog.
Os ydych yn Aelod o Bortffolio Celfyddydol Cymru rydych hefyd wedi ymrwymo i wneud rhai pethau drwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog.
I ddarllen mwy am yr amodau grant o ran gweithredu'n ddwyieithog, dewiswch yr opsiwn sy'n berthnasol i chi: