Paratoi eich hun

Cwestiwn: Beth yw’ch perthynas gyda’r iaith Gymraeg?

Cyn dechrau, mae’n fuddiol i chi greu asesiad anffurfiol / creadigol o’ch perthynas gyda’r Gymraeg gan ofyn cwestiynau tebyg i:

  • Pa lefel sgil ydw i arni? Lefelau dysgu | Dysgu Cymraeg
  • Pa mor hyderus ydw i wrth siarad Cymraeg?
  • Faint o Gymraeg ydw i’n defnyddio o ddydd i ddydd – ble?
  • Pa eiriau Cymraeg ydw i’n eu hadnabod / defnyddio?
  • Beth ydw i’n wybod am y Gymraeg?
  • Pwy sy’n gweithio’n greadigol yn Gymraeg yn fy ardal?

Cadwch mewn cof – nid ymarfer beirniadol yw hwn ond un personol a gonest. Ni yw ein beirniaid mwyaf chwyrn ac felly ry’n ni’n debygol o feiriandu ein hunain yn fwy negyddol na fyddai eraill yn ei wneud.

Wedi cwblhau’r hunan asesiad creadigol, gallwch roi cynnig ar rai pethau er mwyn cefnogi eich perthynas gyda’r Gymraeg:

Cymerwch bob cynnig a chyfle i ddysgu a datblygu sgiliau Cymraeg. Er bod yr adnodd yn cefnogi pob lefel o sgil, y mwya’i gyd o Gymraeg sydd gennych y gorau fydd eich profiad chi ag eraill. Cysylltwch gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg er mwyn cynyddu eich sgil a’ch defnydd https://dysgucymraeg.cymru/cymraeg-gwaith/gwasanaethau-cymraeg-gwaith-2023/  

Darganfyddwch rywfaint o hanes a chydestun y Gymraeg. Mae Menter Iaith ym mhob ardal yng Nghymru https://mentrauiaith.cymru/ all eich cefnogi a’ch cyfeirio at yr holl adnoddau a rhwydweithiau sydd ar gael. Mae gwefan Comisiynydd y Gymraeg yn cyflwyno’r hawliau cyfreithiol https://www.comisiynyddygymraeg.cymru/

Chwiliwch am bobl i gefnogi’ch defnydd o’r Gymraeg. Gall hyn olygu cyfaill (neu bicsi!) Cymraeg yn y gofod, cefnogaeth sefydliadol neu rhywun sy’n fodlon siarad a thrafod gyda chi.

Dewch o hyd i grwpiau a gweithwyr creadigol Cymraeg er mwyn cydweithio  i ddatblygu gweithgareddau Cymraeg. Neu, crewch un eich hun os nad oes un yn bodoli.

Chwiliwch rywfaint o’ch hanes lleol. Mae Cymru yn frith o chwedlau, stareon, barddoniaeth a cherddoriaeth. Gall enwau llefydd neu enwau byd natur er engraifft fod yn sbardun gweithgaredd arbennig.

Paratoi at sesiwn gyfranogol

Cwestiwn: Beth yw perthynas y cyfranogwyr gyda’r iaith Gymraeg?

Mae’r Gymraeg yn iaith leiafrifol felly mae angen hyder ieithyddol ar berson i siarad Cymraeg o flaen eraill. Dyma rai awgrymiadau i’ch cynorthwyo i greu awyrgylch fydd yn annog pobl i fod yn hyderus, chwareus ac agored wrth ddefnyddio’r Gymraeg.

Cynlluniwch ddefnydd iaith fel rhan o sesiwn greadigol.

Cyn dechrau beth am gynllunio ar gyfer cynnwys y Gymraeg a chreu awyrgylch gefnogol. Os ydych chi’n cynnal gweithgaredd unigol, yn dechrau cyfres o weithgareddau neu’n parhau gyda gweithgareddau hir dymor mae dulliau creu awyrgylch gadarnhaol yn debyg.

Os oes modd darganfod atebion i’r cwestiynau yma, bydd hynny’n gymorth i chi ar gyfer cynllunio a pharatoi:

  • Beth yw gallu ieithyddol y cyfranogwyr?
  • Beth yw perthynas y cyfranogwyr â’r Gymraeg?
  • Beth yw defnydd iaith / hyder ieithyddol y cyfranogwyr?

Cyfunwch weithredoedd gydag ymwybyddiaeth ddiwylliannol.

Wrth gynllunio, casglwch eiriau / brawddegau / straeon Cymraeg i’w defnyddio yn ystod y sesiwn. Os yn berthnasol gellid gosod rhai o’r geiriau ar hyd y lle o flaen llaw.

Paratowch y gofod trwy osod geiriau / gwrthrychau o flaen llaw.

Crëwch awyrgylch agored o gyd-rannu a dysgu gyda’r cyfranogwyr.

Mae dulliau gweithredu y rhaglen dysgu creadigol wertyth eu Dilyn beth bynnag fo’r weithgaredd. Mae’n gosod pwysigrwydd ar 5 arfer meddwl creadigol sef Dyfalbarhad, Cydweithredol, Chwilfrydig, Dychmygus, Disgybledig. I ddarganfod mwy, ewch i: https://creativelearning.arts.wales/cy/dysgu-creadigol/amdanom/cynllun-ysgolion-creadigol-arweiniol

Paratowch gwestiynau i chi ofyn i’r cyfranogwyr er mwyn i chi ddarganfod a dysgu gyda’ch gilydd. Gall y cwestiynau fod yn syml neu gymhleth, mai hyn yn dibynnu ar y cyfranogwyr. Engraifftiau fyddai:

  • Beth yw enw’r lliw yma yn Gymraeg? Oes rhywun yn gwybod?
  • Oes gan rywun stori / hanes lleol difyr?

Gofynnwch i’r cyfranogwyr ddod a rhywbeth / tri pheth gyda nhw i’r sesiwn. Gallai hyn fod yn wrthrychau , lluniau, stori, chwedl, cân, symudiad ac yn y blaen.

Addaswch weithgareddau ar gyfer sefyllfaoedd / gelfyddydau amrywiol ac ychwanegwch atynt pan yn bosib.