Cefndir

Mae’n gyfle datblygu proffesiynol gwych gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae'n rhan allweddol o bresenoldeb Cymru yn yr Arddangosfa Gelf Ryngwladol rhif 61 – La Biennale di Venezia - sy’n digwydd 9 Mai-22 Tachwedd 2026. Mae'n gyfle â grant teithio i ymarferwyr yn gynnar yn eu gyrfa i:

- cael profiad rhyngwladol

- magu rhwydweithiau proffesiynol

- datblygu eu hymarfer creadigol mewn cyd-destun byd-enwog

Mae'n cyfle i:

  • artistiaid   
  • curaduron
  • ysgrifenwyr
  • cynhyrchwyr creadigol ym maes y celfyddydau gweledol

Byddwch yn treulio mis o leiaf yn Fenis yn llysgennad i arddangosfa Cymru yn Fenis. Byddwch yn siarad ag ymwelwyr, cefnogi effaith yr arddangosfa a phrofi awyrgylch y Biennale.

Rydym yn chwilio am unigolion sydd ag ymrwymiad cryf i’n celfyddydau gweledol ac sy’n gallu siarad yn hyderus â chynulleidfa amrywiol a chynrychioli'r arddangosfa’n broffesiynol.

Dyddiad Cau: 10 Rhagfyr canol dydd

Cymorth
Dogfen03.11.2025

Dogfennau Canllaw: Goruchwylwyr + 2026

Dechrau