Mae’r cyllid rydyn ni’n ei ddosbarthu yn dod oddi wrth Lywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol. Mae’r rhan fwyaf o’n cyllid yn mynd i artistiaid a sefydliadau celfyddydol sy’n gwneud rhaglenni o waith ledled Cymru.
Weithiau rydyn ni hefyd yn cynnal ein prosiectau ein hunain, yn arbennig lle mae’r rhain yn archwilio meysydd newydd o weithgarwch celfyddydol neu’n ein helpu i ddwyn perswâd ar sefydliadau eraill i ddangos diddordeb yn y celfyddydau.
Fel corff cyhoeddus, mae’n bwysig iawn bod popeth rydyn ni’n gwneud yn agored a hygyrch i bawb. Wrth glicio ar yr adrannau gwahanol yn yr is-fwydlen ar y llaw chwith, gallwch chi ddarllen mwy am y cyngor, y pwyllgorau sy'n eu cynghori ar faterion penodol, ac am ein staff gwerthfawr sy'n ymgorffori ein cenhadaeth fel Cyngor Celfyddydau Cymru: sef sicrhau bod y celfyddydau'n ganolog i fywyd a llesiant y genedl.