Nod y gronfa hon yw datblygu'r defnydd creadigol o'r Gymraeg o fewn cymunedau. Bwriad Llais y Lle yw annog hyn drwy gefnogi unigolion creadigol i weithio’n ddwys o fewn cymuned a chyd ddarganfod ffyrdd o ddatblygu defnydd a pherchnogaeth y Gymraeg trwy ddulliau creadigol.
Bwriad y gronfa yw mynd i’r afael a’r cwestiwn canlynol:
Sut gallwn osod y Gymraeg a diwylliant Cymraeg yng nghanol creadigrwydd cymunedol gan annog perchnogaeth a defnydd o’r Gymraeg yn y presennol a’r dyfodol?
Dyma ail flwyddyn y gronfa.
Nid oes disgwyl i chi wybod beth bydd penllanw’r gwaith wrth geisio ond rhaid bod gennych gynllun gweithredu creadigol clir fydd yn caniatau llais canolog i’r Gymraeg ac i’r gymuned. Chi a’r gymuned sydd i benderfynu ar y dulliau mwyaf perthnasol i’w defnyddio er mwyn mynd i’r afael a’r gofyn.
Pwy all ymgeisio?
Mae'r gronfa yn agored i unigolion creadigol (neu griw o unigolion) sy'n frwd dros ddatblygu perthynas cymunedau gyda’r Gymraeg. Rhaid i bob syniad fod yn greadigol a dylai'r celfyddydau fod yn ganolog i'r syniadau creadigol hynny.
Rydym yn croesawu partneriaeth gyda mudiadau cymunedol a/neu sefydliadau celfyddydol ond rhaid i’r gwaith gael ei arwain gan yr unigolyn/ion creadigol.
Mae modd ymgeisio am hyda at £30,000 ar gyfer gweithredu cynllun cymunedol creadigol cynhwysafwr dros gyfnod o flwyddyn neu am hyd at £7,500 ar gyfer datblygu eich perthynas gyda’r gymuned dros gyfnod o flwyddyn.
Pryd i ymgeisio a dyddiadau pwysig
Mae’r gronfa ar agor o’r 5ed o Chwefror 2024 ac yn cau am 12yp ar ddydd Gwener, Mawrth y 1af 2024.
Bydd Ysgogydd y Gymraeg yn cynnal sesiynau gwybodaeth ynglyn a’r gronfa ar Chwefror y 6ed am 6yh ac ar Chwefror yr 8ed am 5yp.
Ymuno â sesiwn 6pm Chwefror 6ed yma.
Ymuno â sesiwn 5pm Chwefror 8fed yma.
Bydd pob cynllun yn dechrau erbyn diwedd mis Mai 2024.
Na. Rydym yn chwilio am unigolion creadigol sydd â phrofiad a gallu o weithio'n greadigol gyda chymunedau a'r Gymraeg yn ogystal ag artistiaid sefydledig. Rhaid i bob syniad a dulliau gweithredu fod yn greadigol. Dylai'r celfyddydau fod yn ganolog i'r syniadau creadigol hynny.
Bydd angen i chi ddefnyddio ein 'porth' ar-lein i wneud cais. Os nad ydych wedi gwneud hynny'n barod, bydd angen i chi gofrestru i gael mynediad i'r porth. Gallwch ddarganfod sut i wneud hyn yma.
Os nad ydych chi'n gallu cael gafael ar y ffurflen ar-lein neu angen rhagor o gymorth, cysylltwch â ni ar grantiau@celf.cymru neu drwy ffonio 03301 242733 (llinell gymorth) mae pob galwad yn codi tâl ar gyfraddau lleol.
Na, mae'r gronfa hon wedi'i chynllunio'n benodol ar gyfer unigolion. Rydym yn annog cefnogaeth a chytundeb gyda sefydliadau ond rhaid i’r gwaith gael ei arwain gan unigolyn/ion.
Oes. Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion creadigol (neu grŵp o unigolion) o bob cefndir sy'n byw yng Nghymru. Mae'n rhaid i un unigolyn gymryd yr awenau a bod yn gyfrifol am y cais, y cyllid a'r adrodd.
Na, ond byddai’n fanteisiol. Gall ymgeiswyr fod unrhyw le ar y llwybr dysgu Cymraeg ond rhaid dangos sut y bydd ymgeiswyr di-Gymraeg yn galluogi cyfathrebu creadigol Cymraeg. Pwrpas y gronfa yw datblygu a chynnyddu defnydd a pherchnogaeth o’r Gymraeg yn greadigol.
Na, ond mae'n rhaid bod yn bresennol yn y gymuned a bod â chysylltiad gyda hi. Rydyn ni eisiau osgoi dull hedfan mewn a hedfan allan. Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau ar gyfer gweithio rhithiol neu ymgysylltu o bell er y gellir defnyddio rhai technegau rhithiol o fewn y gweithgaredd os yw'n fuddiol.
Ydyn. Rydym ni'n cydnabod bod angen datblygu neu atgyfnerthu defnydd a pherchnogaeth y Gymraeg ym mhob cymuned yng Nghymru. Byddwn ni'n derbyn ceisiadau sy'n cynnig syniadau creadigol am ddatblygiad y Gymraeg o fewn unrhyw gymuned yng Nghymru, beth bynnag fo'u perthynas bresennol gyda'r Gymraeg.
Na. Mae'r diffiniad o leoliad yn cynnwys cymunedau sy'n benodol yn ddaearyddol yn ogystal â chymunedau diwylliannol. Y bobl yn y lle sy'n bwysig. Gwahoddwn chi i gyflwyno syniadau creadigol am ddatblygu defnydd, perchnogaeth, a balchder yn yr iaith Gymraeg gyda'r bobl o fewn cymuned arbennig.
Mae pobl o fewn pob cymuned yn amrywiol a gall un gymuned gynnwys nifer o gymunedau llai. Gellir cyflwyno cais ar gyfer gweithio gydag un o'r cymunedau llai hynny er y byddwn yn chwilio am syniadau sy'n datblygu eu hymgysylltiad gyda'r gymuned ehangach. Nid oes ffin benodol i faint na phoblogaeth y gymuned ond nid ydym yn disgwyl ceisiadau am weithio rhanbarthol na chenedlaethol ar y pwynt hwn.
Bydd pawb yn gweithio tuag at yr un nôd o gynyddu defnydd a pherchnogaeth o’r Gymraeg. Bydd y dulliau o gyrraedd y nôd hwn yn amrywio ym mhob cymuned a bydd y canlyniad yn ddibynol ar fan cychwyn y gymuned honno. Yr hyn sy'n bwysig yw'r dulliau creadigol a gynigir i fynd i'r afael â'r cwestiwn a’r llais canolog a roddir i’r gymuned wrth gynllunio a chynnal y gweithgareddau. Mae'r dulliau mwyaf perthnasol i fyny i chi a'r gymuned.
Bydd y gwaith hwn yn gofyn am weithio am flwyddyn (nid yn llawn amser) ac ymuno mewn sesiynau rhannu a thrafod yn ystod y project gyda'r ymarferwyr eraill, aelodau o gonsortiwm celf y Gymraeg ac Ysgogydd y Gymraeg. Byddwch yn casglu, rhannu, asesu ac addasu yn ôl gofynion y gymuned ac yn trafod datblygiadau gyda ni yn ystod y sesiynau rhannu a phedwar dyddiad adrodd. Bydd disgwyl i chi ddilyn fframwaith atebolrwydd sy'n seiliedig ar Ganlyniadau wrth adrodd. Byddwn ni yn cefnogi’r dull hwn gydag adnoddau a hyfforddiant.
Byddwn ni'n asesu'r holl syniadau llwyddiannus drwy gydol y flwyddyn ac yn cynllunio cyfleoedd perthnasol yn y dyfodol yn seiliedig ar y canfyddiadau. Rydym yn gobeithio rhyddhau gwybodaeth am unrhyw gyfleoedd yn y dyfodol cyn diwedd oes y gronfa gyfredol hon.
Gallwn gefnogi rhai costau gofal plant sy'n eich helpu i gymryd rhan yn y rhaglen yn enwedig os na fyddwch yn gallu cymryd rhan os nad ydych yn derbyn cefnogaeth. Bydd angen i chi egluro pam mae angen y cymorth hwn yn eich cyllideb. Byddai'r costau hyn yn ychwanegol at gyfanswm y grant.
Os byddwch chi'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a/neu oedolion sy'n agored i niwed, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth bod mesurau diogelu priodol a digonol wedi'u rhoi ar waith. Mae hyn yn cynnwys cael unrhyw archwiliadau diogelu angenrheidiol a gynhaliwyd gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Na, un neu’r llall yw’r cynnig. Gallwch geisio am hyd at £7,500 neu am hyd at £30,000. Mae’r swm byddwch yn ofyn amdano angen adlewyrchu eich cynnig am y flwyddyn.
Gallwch. Rydym yn ymrwymo i wneud ein proses grantiau a'r prosiectau rydym yn eu hariannu yn hygyrch i bawb.
Cliciwch yma i weld y nifer o ffyrdd y gallwn gefnogi.