Cefndir

Gŵyl gelfyddydol fwyaf y byd yw Gŵyl Ymylol Caeredin. Mae'n gyfle i ddatblygu a chyflwyno gwaith i wahanol gynulleidfaoedd ac arddangos i raglenwyr Prydain a thramor.

Mae hefyd yn blatfform a marchnad bwysig i rwydweithio a chysylltu â gweithwyr creadigol o bob cwr o Brydain a'r byd drwy ddigwyddiadau, cyfarfodydd a gweithdai.

Gyda golwg ar Ŵyl Ymylol Caeredin 2025, bydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn cefnogi’r sector gyda’r rhwydweithiau sydd wedi’u hen sefydlu ym Mhrydain a thramor sy'n mynd i’r Ŵyl, â'r bwriad o greu rhagor o gysylltiadau a chyfleoedd arddangos, cydweithio a chyflwyno yn y dyfodol.

Nod Bwrsariaeth Caeredin 2025 yw cysylltu â chyfleoedd rhwydweithio ym Mhrydain a thramor yn yr Ŵyl. Byddwn yn ceisio cefnogi cyfuniad o unigolion a sefydliadau sy'n dod i'r amlwg ac sydd wedi'u sefydlu.

Bydd y rhaglen yn rhoi cyfle ichi fynd i ddigwyddiadau rhwydweithio a Fringe Connect gyda’r cyfle i weld gwaith o safon. 

Er mwyn gwneud y mwyaf o'r effaith a'r gwerth, byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid yng Nghymdeithas Ymylol Gŵyl Caeredin, y Cyngor Prydeinig a phartneriaid eraill ym Mhrydain a thramor i nodi cyfleoedd rhwydweithio. 

Rydym yn disgwyl cynnig hyd at 15 bwrsariaeth i unigolion a grwpiau. 

Pwy sy’n gallu ymgeisio?

Byddwch yn gwmni cynhyrchu proffesiynol neu'n weithiwr creadigol sy’n byw a datblygu gwaith yng Nghymru.

Dim ond 15 bwrsariaeth sydd ar gael, felly nid ydym yn gallu cefnogi rhagor nag un cynrychiolydd o’r un cwmni. 

Os yw’ch cwmni yn cael arian amlflwyddyn gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac yn mynd i’r ŵyl yn rheolaidd, byddwch yn gallu ymgeisio am fwrsariaeth i gefnogi aelod o'r tîm na fyddai fel arfer yn mynd ond a fyddai'n cael budd o'r cyfle. 

Darllenwch ein canllawiau cymhwysedd am ragor o wybodaeth. 

Unigolion

Sefydliadau

Os ydych mewn sefyllfa o ddiffygdalu unrhyw gytundeb ariannol â Chyngor Celfyddydau Cymru, ni fyddwch yn gallu ymgeisio.

Am beth bydd modd imi ymgeisio?

Bwrsariaeth unigol 

Bwrsariaeth o hyd at £1,500 i dalu treuliau, fel cludiant, per diems, tocynnau perfformiad a chyfraniad tuag at eich amser. Byddwn hefyd yn darparu llety ichi. 

I'r rhai sy'n gweithio i sefydliad sy'n cael ein harian amlflwyddyn: bwrsariaeth o £1,000 i dalu treuliau, fel cludiant, per diems a thocynnau perfformiad. Byddwn  hefyd yn darparu llety ichi. 

Neu: 

Bwrsariaeth grŵp

Byddwn yn ystyried ceisiadau ar ran grŵp bach lle mae rhesymeg glir am y budd o fynd fel grŵp. (Uchafswm o 6 o bobl). Byddai’n cynnig o hyd £1,500 fesul person ond bydd hefyd yn gallu cynnwys amser gweinyddu a chydlynu'r ymgeisydd arweiniol i gefnogi'r grŵp. Byddwn hefyd yn darparu llety ichi.

Bydd y prif ymgeisydd yn gwmni cynhyrchu neu weithiwr creadigol sydd â phrofiad o gyflwyno a rhwydweithio yn yr Ŵyl a bydd yn cefnogi carfan fechan o weithwyr creadigol sy'n dod i'r amlwg heb fawr o brofiad blaenorol o gymryd rhan yn yr Ŵyl. 

Rhaid i chi (ac aelodau'r grŵp) fod ar gael i fynd rhwng 15 Awst 2025 a 21 Awst 2025 i gysylltu â digwyddiadau ein partneriaid ym Mhrydain a thramor.

Costau hygyrchedd personol

Os oes angen cymorth hygyrchedd personol arnoch i'ch helpu i fynd, bydd modd inni eu hystyried yn ychwanegol at y fwrsariaeth. Rhowch amcangyfrif o’r costau. 

Yr hyn y byddwn yn ei roi
  • cyfleoedd anffurfiol i ddod at eich gilydd fel dirprwyaeth o Gymru
  • gwybodaeth am gyfleoedd a digwyddiadau rhwydweithio ym Mhrydain a thramor. Byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid yng Nghymdeithas Ymylol Gŵyl Caeredin, y Cyngor Prydeinig, partneriaid eraill yng ngwledydd eraill Prydain a’n rhwydwaith rhyngwladol i ddod â chyfleoedd at ei gilydd i gysylltu â Phrydain a thramor. 
Beth rydym yn ei ddisgwyl oddi wrthych?
  • ichi ymgysylltu â pherfformiadau, cyfleoedd a digwyddiadau rhwydweithio perthnasol yn yr Ŵyl
  • cydnabod ein harian gan gynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol pan fyddwch yno
  • adroddiad gwerthuso byr ar ôl eich ymweliad
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau

1pm ddydd Mercher 4 Mehefin 2025 yw’r dyddiad cau.

Erbyn dydd Gwener 20 Mehefin 2025 y byddwch yn cael ein penderfyniad.

Beth yw meini prawf y gronfa? 

Rydym am gefnogi ymgeiswyr sy’n gallu elwa fwyaf o fynd i’r Ŵyl. Byddwn yn ceisio rhagweld yr effaith arnoch chi, eich gyrfa a/neu’ch cwmni. 

Disgrifiwch: 

  • chi a'ch ymarfer creadigol
  • pam mae gennych ddiddordeb mynd i’r Ŵyl eleni a beth rydych yn gobeithio ei gyflawni yno
  • pa effaith bosibl fydd ichi o gysylltu â rhwydweithiau/partneriaid Prydain a thramor
  • os ydych yn ymgeisio am fwrsariaeth grŵp, nodwch y nifer sy'n mynd, y rhesymeg dros fynd fel grŵp, sut y byddwch yn dewis a chefnogi'r grŵp o weithwyr creadigol sy'n dod i'r amlwg ac unrhyw gostau ychwanegol y byddwch yn eu cael

Cyflwynwch gynnig â 500 gair ar y mwyaf sy’n ymateb i'r meini prawf uchod. Rhaid hefyd atodi CV diweddar a dolenni i wefannau neu ddeunydd ar-lein perthnasol yn yr adran Dogfennau Ategol o'r ffurflen ar-lein. 

Gyda chais am fwrsariaeth grŵp mae modd cyflwyno dogfen ategol ychwanegol (hyd at 5 tudalen A4) gyda rhagor o wybodaeth am y grŵp a'r rhesymeg dros fynd. 

Pa gwestiynau fydd?

Mae templed o'r ffurflen gais yn yr adran Gymorth.

Yn yr adran Cynnig Prosiect:

  • rhowch ‘Bwrsariaeth Caeredin 2025’ yn y blwch testun cyntaf
  • yn yr ail flwch testun, ymatebwch i'r meini prawf (500 gair ar y mwyaf)
  • yn yr ail flwch testun, sy'n gofyn i chi ddarparu gwybodaeth am eich prosiect, dylech ymateb i'r meini prawf a nodir ar gyfer y cynllun hwn. Mae gan y blwch testun hwn gyfyngiad o 500 gair.

Gyda chais am fwrsariaeth grŵp mae modd cyflwyno dogfen ategol ychwanegol (hyd at 5 tudalen A4) gyda rhagor o wybodaeth am y grŵp a'r rhesymeg dros fynd. 

Cynhwyswch y Dogfennau Ategol canlynol: 

  • CV diweddar
  • dolenni i wefannau perthnasol neu ddeunydd ar-lein
  • dogfen fwrsariaeth grŵp (os yw'n berthnasol)
Cymorth hygyrchedd

Mae’r Cyngor yn darparu gwybodaeth mewn print bras, Braille, sain, Hawdd ei Ddarllen ac Arwyddeg. Byddwn hefyd yn ceisio cynnig gwybodaeth mewn ieithoedd heblaw am y Gymraeg a’r Saesneg ar gais.

Os oes angen cymorth hygyrchedd arnoch, mae rhagor am beth byddwn yn gallu ei gynnig yma

Dolenni cyflym

Cymhwysedd - Unigolion

Cymhwysedd - Sefydliadau

Cymorth hygyrchedd

Diffiniadau o’r celfyddydau

Y broses ymgeisio

Cwestiynau 

Os ydych wedi darllen y wybodaeth ond mae gennych gwestiynau o hyd, darllenwch y Cwestiynau Cyffredin yn gyntaf. 

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, e-bostiwch eich cwestiwn at elin.roberts@celf.cymru

 

Fideo BSL/Cymraeg ar y ffordd:

Cymorth
Dogfen30.04.2025

Bwrsariaeth Caeredin - Enghraifft o’r ffurflen gais ar-lein 2025

Cwestiynau mynych

Rhaid defnyddio ein porth ar-lein i ymgeisio a chofrestru i fynd ato. Mae esboniad  yma.

Os nad ydych yn gallu mynd at y ffurflen ar-lein neu os oes angen cymorth pellach arnoch, cysylltwch â: grantiau@celf.cymru neu ffoniwch 03301 242733 (bydd pob galwad yn costio’r un peth ag un leol).

Os nad ydych am unrhyw reswm yn gallu derbyn arian y Loteri, llwythwch lythyr gyda'ch cais ar-lein sy’n esbonio pam. Os bydd eich cais yn llwyddo, byddwn yn ceisio ariannu eich prosiect o arian sy’n dod o ffynhonnell arall.

Nac oes. Rhaid i bob ymgeisydd fod yng Nghymru.

Mae modd ichi ymgeisio os ydych yn sefydliad neu'n unigolyn gyda grant 'byw' arall sydd ar agor gydag arian y Loteri Genedlaethol gennym. 

Mae llety yn ddrud iawn ac anodd ei gael yng Nghaeredin yn ystod yr Ŵyl. Rydym wedi cadw fflatiau mewn neuaddau myfyrwyr i’r rhai sy’n cael bwrsariaeth. Dim ond derbynwyr bwrsariaeth sy’n gallu aros yno. Bydd pob ystafell wely ag ystafell ymolchi gyda defnydd o gegin ar y cyd. 

Rhowch wybod inni am unrhyw anghenion hygyrchedd. 

Os nad yw'n bosibl inni ddarparu llety addas ar eich cyfer, byddwn yn cynyddu eich bwrsariaeth i dalu am lety arall. 

Dechrau