Comisiynwyd y teclyn gan Gyngor Celfyddydau Cymru a'i ddatblygu gan Lisa Baxter, The Experience Business. Cyhoeddwyd yn Tachwedd 2021.
Cymerodd tua 40 unigolyn a 3 lleoliad ran yn y prosiect peilot, yn eu plith cynrychiolwyr o awdurdodau lleol, cynghorwyr, cymunedau (busnesau, grwpiau a phobl ifanc), aelodau bwrdd, artistiaid a gweithwyr diwylliannol. Y 3 lleoliad oedd:
- Theatr Felin-fach, Sir Gâr
- Theatrau Rhondda Cynon Taf
- Canolfan Ucheldre, Caergybi
Credwn yng ngallu'r celfyddydau i rymuso pobl a chyfoethogi eu bywyd, dathlu amrywiaeth a hyrwyddo cydlyniant cymunedol fel y dywed ein Cynllun Corfforaethol 5 mlynedd, Er Budd Pawb. Bydd y rhaglen yn gweithio gyda lleoliadau, y sector celfyddydol a chymunedau i ddatblygu dealltwriaeth newydd a dyfnach o'u hardal leol a phosibiliadau’r celfyddydau i gefnogi:
- iechyd a lles
- cydlyniant
- twf amrywiaeth a chynhwysiant
Dyma dri pheth pwysig iawn yn sgil y pandemig a heriodd y sector a’n cymdeithas ehangach.
Roedd y rhaglen yn her i bawb a gymerodd ran, ond yn llwyddiant ysgubol, gan beri i lawer esgor yn sydyn ar syniadau newydd am eu swyddogaeth gymunedol. Gobeithio y cewch y teclyn yn ddefnyddiol a gweld sut y bydd modd ei addasu i’ch lleoliad, eich gwaith a'ch cymuned, er budd pawb.
Mae fersiynau BSL ar gael yma.
Lisa Baxter, The Experience Business: Webinar
(Amser gwylio: 34 mun 33)
Holi ag Ateb gan y 3 lleoliad
(Amser gwylio: 5 mun 34)
Astudiaeth achos: Caroline O'Neill a Wendy Edwards, Cyngor Bwrdeistref Rhondda Cynon Taf
(Amser gwylio: 9mun 48)