Gŵyl Ymylol Caeredin yw gŵyl gelfyddydol fwyaf y byd. Arddangosfa wedi'i churadu yw Cymru yng Nghaeredin sy'n hyrwyddo'r safon uchaf mewn theatr, dawns, cerddoriaeth a syrcas o Gymru. Gweledigaeth y rhaglen yw defnyddio’r Ŵyl nid fel cyrchfan yn unig ond fel llwyfan i'n sefydliadau celfyddydol a'n gweithwyr creadigol wireddu eu huchelgais o ran teithio gwaith yn rhyngwladol.
Cynulleidfaoedd, rhaglenwyr, hyrwyddwyr a chynhyrchwyr o bob cwr o'r DU a'r byd sy’n mynd i’r Ŵyl. Rydym yn grediniol bod gan ein cwmnïau perfformio a’n gweithwyr creadigol y dalent i gyflwyno eu gwaith ar lwyfan byd-eang.
1pm ar 12 Ionawr 2026 yw’r dyddiad cau ymgeisio.
- Eich cynnig
Rydym am weld cynigion gan ymgeiswyr sydd â hanes o greu gwaith diddorol a pherthnasol a/neu sy'n gallu dangos safon, apêl ac effaith eu cynhyrchiad. Rhaid i’ch gwaith fod yn barod i’w deithio a’ch bod yn ceisio cyfleoedd i’w wneud.
Rhaid ichi ddangos sut y bydd y cynhyrchiad o safon, yn unigryw a chyffrous, at bwy mae wedi’i anelu a sut rydych yn bwriadu denu cynulleidfa. Hoffwn ddeall pam rydych wedi dewis lleoliad penodol. Rydym am weld dull credadwy ac argyhoeddiadol o farchnata a datblygu cynulleidfa, lle mae pob partner yn cydweithio i wneud y mwyaf o gyfle Caeredin.
Rhaid dangos eich potensial i deithio a'ch uchelgais am waith y dyfodol a'ch gallu i fanteisio ar gyfleoedd Caeredin.
- Pwy sy’n gallu ymgeisio?
Dim ond sefydliadau a gweithwyr creadigol yng Nghymru neu sydd â hanes helaeth o weithio yma.
- Am faint mae modd ymgeisio?
Byddwn yn ariannu (hyd at £30,000 yr un) 3 neu 4 ymgeisydd â chynnig cryf sy'n dangos potensial i’w deithio yn y dyfodol ac sy'n barod yn awr i’w ddangos.
Oherwydd nifer yr ymgeiswyr posibl, hoffem ichi ystyried y gronfa’n gyfraniad yn unig tuag at gost eich gwaith yn yr Ŵyl. Bydd y costau’n cynnwys lleoliadau, llogi technegol, hygyrchedd, marchnata, llety a ffioedd perfformio. Bydd modd ystyried costau hygyrchedd personol y rhai sy'n creu’r prosiect ar ben y grant.
- Pryd i ymgeisio
1pm ar 12 Ionawr 2026 yw’r dyddiad cau
Erbyn 23 Chwefror 2026 y byddwn yn penderfynu
- Asesu
Panel o arbenigwyr fydd yn asesu’r ceisiadau. Ar y panel bydd arbenigwyr allanol ac aelodau o'n tîm. Ein gobaith yw ariannu’r cynigion sy’n mynd i gael y mwyaf o ymddangos yng Nghaeredin.
- Pa gwestiynau sydd i’w hateb?
Rhaid cyflwyno ffurflen gais drwy'r porth
Atodwch eich cynnig (5 ochr A4 ar y mwyaf). Rhaid iddo fod mewn un ffeil (Word neu pdf) gyda’r ffont yn 12 pwynt neu’n fwy
Atodwch gyllideb ar ein templed
Atodwch ddogfennau ategol ychwanegol: fel cynllun marchnata, cytundebau lleoliad a llythyrau cefnogi. Bydd modd cynnwys adolygiadau neu ddolenni i'r gwaith. Rhaid darparu deunydd fideo a sain yn ddolenni gwefan hawdd eu cyrraedd. Cynhwyswch unrhyw gyfrinair i fynd at y gwaith, os oes eisiau
Rhaid i'ch cynnig drafod y materion isod:
Safon artistig
Disgrifiwch eich gwaith. Ble mae wedi'i berfformio o'r blaen? Pa ymateb oedd? Pa dystiolaeth o'r galw sydd am ei gyflwyno yn yr Ŵyl neu am gyfleoedd teithio pellach? Pam mai nawr yw amser da yn eich gyrfa/hynt y cwmni i gyflwyno yn yr Ŵyl?
Uchelgais i deithio
Pa waith paratoi sydd wedi’i wneud hyd yma i gyflawni eich uchelgais teithio? Pa gefnogaeth rydych wedi’i geisio? Beth yw eich uchelgais teithio? I ble hoffech fynd â'ch gwaith? Oes uchelgais i’w deithio yn y DU a/neu dramor?
Cynllunio a rheoli prosiect llwyddiannus
Ym mha leoliad y byddwch yn cyflwyno eich gwaith? Manylwch ar unrhyw gytundebau neu fargeinion ariannol gyda'r lleoliad. Sut byddwch yn hyrwyddo a rhannu eich gwaith i ddarpar bartneriaid teithio a gwyliau? Beth fydd y manteision artistig ac ariannol hirdymor i chi o berfformio yn yr Ŵyl?
O fudd i'r cyhoedd
Sut byddwch yn hyrwyddo celfyddydau perfformio Cymru a’n diwylliant dwyieithog wrth gyflwyno yn yr Ŵyl? Sut bydd mynd i’r Ŵyl yn cyfrannu at sector ein celfyddydau yn yr hirdymor?
Ariannu prosiect llwyddiannus
Sut byddwch yn cyflawni'r prosiect yn llwyddiannus? Pa ragdybiaethau sydd y tu ôl i’ch cyllideb? Pa mor realistig a chyflawnadwy yw rhagamcanion eich incwm a fydd yn cael ei ennill? Sut byddwch yn codi unrhyw arian partneriaeth arall?
Ôl troed carbon
Rydym am gael economi gref, wyrddach a symud at ddatgarboneiddio. Pa gynnydd a mesurau rydych wedi'u gwneud ac yn eu hystyried yn eich cynnig i leihau eich ôl troed carbon a gwella cynaliadwyedd amgylcheddol?
- Ein blaenoriaethau a'ch cynnig
Bydd eich cynnig yn dangos yn gryf sut y bydd yn cefnogi un neu ragor o'r egwyddorion sydd yn ein cynllun corfforaethol.
- Creadigrwydd – mae ym mhopeth a phawb rydym yn eu cefnogi. Rydym eisiau gweld amrywiaeth o gelfyddydau ac ymarferion creadigol sydd wedi'u datblygu gyda chynulleidfaoedd a chymunedau mewn golwg gan annog arloesedd artistig o safon
Cydraddoldeb ac ymgysylltu - cyrraedd cymunedau sydd wedi'u tangynrychioli, yn ddiwylliannol, yn ddaearyddol, yn gymdeithasol ac yn economaidd. Cael gwared ar y rhwystrau sy'n wynebu pobl wrth brofi'r celfyddydau. Sicrhau bod pobl o gymunedau amrywiol yn cael eu cynrychioli'n llawn yn y gweithlu, fel arweinwyr, penderfynwyr, crewyr, ymwelwyr, cyfranogwyr ac aelodau o'r gynulleidfa
Y Gymraeg - datblygu cyfleoedd creadigol sy'n cyfrannu at dwf yn y defnydd a'r berchnogaeth o'r Gymraeg a chefnogi sector y celfyddydau i osod y Gymraeg wrth wraidd creadigrwydd a chymunedau
Cyfiawnder hinsawdd - cefnogi sector y celfyddydau i ddatblygu creadigrwydd sy'n ysbrydoli pobl i weithredu dros gyfiawnder hinsawdd gan weithio tuag at sector celfyddydau sy’n amgylcheddol gynaliadwy a chyfrifol yn fyd-eang
Datblygu talent - cynnig llwybrau sy'n caniatáu i bobl o bob cefndir ddatblygu gyrfa greadigol, sgiliau ac arweinyddiaeth gynaliadwy. Cydweithio i ddosbarthu'n deg y cyfleoedd i artistiaid a sicrhau gwaith teg a gwell canlyniadau i’n pobl
Trawsnewid - cryfhau gallu'r celfyddydau i fod yn ddeinamig a chynaliadwy. Bod yn ystwyth a digon hyderus i fentro, magu gwytnwch ac ymateb i newid wrth barhau’n berthnasol i’n pobl a’n cymunedau
Bydd disgwyl ichi ddangos ymrwymiad i egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
- Hygyrchedd
Rydym yn cynnig gwybodaeth mewn print bras, Braille, sain, Hawdd ei Ddarllen ac Arwyddeg. Byddwn hefyd yn ceisio cynnig gwybodaeth mewn ieithoedd heblaw'r Gymraeg a’r Saesneg ar gais.
Os oes angen cymorth hygyrchedd arnoch, mae rhagor am hyn a sut i'w drefnu yma.
- Angen cysylltu â ni?
I gael cyngor am ddatblygu eich cynnig, cysylltwch â: datblygu@celf.cymru
Os bydd problem gyda'r ffurflen gais neu'ch cyfrif yn y porth, cysylltwch â'n tîm Grantiau a Gwybodaeth: grantiau@celf.cymru
Ffoniwch ni ar 03301 242733 (yr un pris â galwadau lleol), 10am-5pm Llun–Gwener
Mae rhagor o wybodaeth am sut i gysylltu â ni yma