Cefndir

Mae manylion llawn y rhaglen ar gael yn y canllawiau Celfyddydau, Iechyd a Lles

Prosiectau celfyddydol sy'n gwella iechyd a lles pobl drwy eu cysylltu â byd natur yw blaenoriaeth ychwanegol newydd i arian loteri’r Celfyddydau, Iechyd a Lles gan Gyngor Celfyddydau Cymru o'r hydref yma.

Mae partneriaethau rhwng sefydliadau celfyddydol, iechyd a natur Cymru ymhlith y rhai sy'n cael eu hannog i wneud cais am un o dair lefel o arian loteri’r Celfyddydau, Iechyd a Llesiant fel rhan o'r Rhaglen Natur Greadigol, cytundeb rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru sy'n anelu at feithrin y berthynas rhwng y celfyddydau a'r amgylchedd naturiol.

Pwy sy'n gallu ymgeisio?

Mae Cronfa’r Celfyddydau, Iechyd a Lles yn agored i geisiadau partneriaeth o bob rhan o'r celfyddydau, iechyd, gofal cymdeithasol, natur, sefydliadau amgylcheddol a'r trydydd sector. Mae prosiectau yn gymwys i ymgeisio o fynd i'r afael ag un neu fwy o'r problemau a'r blaenoriaethau iechyd canlynol:

  • Natur - prosiectau sy'n anelu at wella iechyd a lles pobl drwy gynyddu eu cysylltiad â byd natur drwy'r celfyddydau
  • Iechyd meddwl - gan gynnwys mynd i'r afael ag unigrwydd, ynysu cymdeithasol a phresgripsiynu cymdeithasol sy'n anelu at adeiladu gwytnwch a chefnogi gwell iechyd meddwl
  • Anghydraddoldeb iechyd - prosiectau celfyddydol sydd â’r nod o fynd i'r afael â hwn drwy ddod â manteision iechyd a lles i bobl o gefndiroedd mwy amrywiol a heb gynrychiolaeth ddigonol
  • Iechyd a lles corfforol – prosiectau celfyddydol sy'n cefnogi gwell iechyd corfforol neu sy’n cadw pobl yn gorfforol weithgar
  • Lles staff - yn y gweithlu gofal iechyd a/neu'r celfyddydau

Dylid datblygu ceisiadau gan bartneriaeth/consortiwm o sefydliadau ac artistiaid a rhaid iddynt gynnwys partner iechyd a chelfyddydol (yn ogystal â phartner natur os yw eich prosiect yn canolbwyntio ar y Celfyddydau, Iechyd a Natur). Bydd angen i un o'r partneriaid gymryd yr awenau, cyflwyno'r cais a bod yn gorff atebol o ran y cais.

Pryd y gallaf ymgeisio?

Bydd y gronfa'n agor ar 20 Tachwedd 2024 a bydd yn cau am 5pm ar 22 Ionawr 2025.

Os gwnewch gais am £50,000 neu lai (gan gynnwys costau hygyrchedd ychwanegol), ceisiwn gael y penderfyniad ichi mewn 8 wythnos o'r dyddiad cau.

Os gwnewch gais am £50,000 neu ragor (gan gynnwys costau hygyrchedd ychwanegol) cewch benderfyniad mewn 12 wythnos o'r dyddiad cau.

Cymorth

Rydym ni’n hapus i drafod eich prosiect a'ch helpu i'w ddatblygu. E-bostiwch ni: ycelfyddydauaciechyd@celf.cymru  i gael rhagor o wybodaeth neu i gael sgwrs.

Gallwch hefyd gysylltu â'n tîm Grantiau a Gwybodaeth drwy e-bost: grantiau@celf.cymru

Nodiadau cymorth gyda chyllid07.04.2021

Canllawiau Ariannu’r Loteri Genedlaethol

Nodiadau cymorth gyda chyllid15.08.2023

Canllawiau: Celfyddydau, Iechyd a Lles Rhaglen y Loteri

Nodiadau cymorth gyda chyllid13.04.2021

Templed Cyllideb Prosiect Celfyddydau, Iechyd a Lles

Dogfen19.11.2024

Celfyddydau, Iechyd a Lles - Pecyn Cymorth Natur

Nodiadau cymorth gyda chyllid17.01.2025

Celfyddydau, Iechyd a Lles: Enghraifft o Ffurflen Gais Ar-lein

Cwestiynau mynych

Fel arfer byddai’r partner iechyd yn sefydliad a darparwr gwasanaeth elusennol neu a ariennir yn gyhoeddus neu sydd wedi'i sefydlu a'i gofrestru i ddarparu gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol yn benodol gan weithlu cymwys/arbenigol. Felly, gallai partner iechyd fod yn fwrdd Iechyd / Ymddiriedolaeth GIG / clwstwr o feddygon teulu neu'n sefydliad sy'n darparu gofal cymdeithasol. Hefyd gallai fod yn sefydliad trydydd sector y mae ei waith yn canolbwyntio ar iechyd a lles. Os nad ydych yn siŵr a fyddai eich partner yn cael ei gydnabod fel partner iechyd, cysylltwch â ni cyn dechrau ar eich cais.

Gallwch, ond fel arfer mae’r ceisiadau am  symiau rhwng £500 a £50,000. Mewn achosion prin ac eithriadol (lle mae rhaglen eisoes wedi'i datblygu'n llwyddiannus ac yn barod i’w thyfu sylweddol neu ei hymestyn dros ychydig flynyddoedd) gallwn ystyried ceisiadau am dros £50,000. Trafodwch gyda ni os credwch fod gennych raglen sy’n gymwys i haeddu dros £50,000. Rhagwelwn y daw gormod o geisiadau i’r gronfa ac felly cynghorwn ymgeiswyr i ystyried swm eu cais a pheidio â gofyn am fwy nac sydd ei angen arnynt.

Gallant. Ond dylent drafod eu cynnig gyda'u swyddog arweiniol cyn ymgeisio fel y gwyddom sut mae eu prosiect yn cyd-fynd â'u gweithgarwch arall a ariannwn.

Gallwch, gallwch fod yn bartner arweiniol i un cais a phartner i un arall. Ond os ydych, rhaid ichi sicrhau bod gan eich sefydliad y gallu i gyflawni’r prosiectau'n effeithiol. Dylech hefyd wneud hyn yn glir yn eich cais  a chofio y bydd unrhyw geisiadau a wnewch yn cystadlu'n uniongyrchol â'i gilydd am yr arian mewn rownd gystadleuol iawn.

Mae'n anodd dweud. Mae dal llawer yn gofyn am ein harian o’r Loteri Genedlaethol. Disgwyliwn hefyd i Gronfa'r Celfyddydau, Iechyd a Lles gael llawer iawn o geisiadau. Os nad oes raid cynnal eich prosiect nawr, dylech ystyried gohirio eich cais tan y rownd nesaf.

Bydd rownd arall yn agor Tachwedd 2024. Os hoffech e-bostio'r tîm am eich prosiect, dyma eu cyfeiriad: celfyddydauaciechyd@celf.cymru

Mae sefydliadau’n gallu ymgeisio am arian i ddylunio a darparu hyfforddiant sy'n gysylltiedig â'r Celfyddydau ac Iechyd yn y meysydd yma o flaenoriaeth: iechyd meddwl gwell; mynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd cymdeithasol; atal; modelau presgripsiynu cymdeithasol; iechyd meddwl amenedigol; dementia / heneiddio'n iach; rheoli cyflyrau hirdymor ac sy’n cyfyngu ar fywyd; gofal cymdeithasol; gwerthuso'r celfyddydau ac iechyd. Gallai’r prosiect hyfforddi fod yn brosiect annibynnol neu'n rhan o'r lefelau profi, buddsoddi neu dyfu. Gall hyn fod ar gyfer staff i gyflawni prosiect. Mae angen 10% o arian cyfatebol ar gyfer prosiect hyfforddi.

 

Gallai hyn fod yn elusen, asiantaeth neu gorff cyhoeddus amgylcheddol neu sefydliad sy'n berchen ar fannau awyr agored neu eu cynnal  (fel yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol) neu sefydliad sy'n ymgyrchu dros gyfiawnder hinsawdd.

Arian cyfatebol (10%, 25% neu 40% gan ddibynnu ar lefel y prosiect) yw’r ganran o gyfanswm y prosiect. Yn ddelfrydol, dylai rhywfaint (os nad y cyfan) o'r arian cyfatebol ddod oddi wrth y partner iechyd i ddangos ei ymrwymiad. Ond gall hyn ddod o bobl eraill fel y partner natur (os yw'n berthnasol). Hefyd gall rhywfaint ddod o arian allanol, eich arian chi a chefnogaeth mewn nwyddau.