Cefndir

Yn dilyn ein hadolygiad rydym yn falch iawn o rannu bod y gronfeydd yn ôl ar agor! A byddwch yn falch o wybod nad yw’r canllawiau ar gyfer y cronfeydd wedi newid, a byddwn bob amser yn ymdrechu i gefnogi cymaint o geisiadau cymwys sy’n bodloni’r meini prawf a amlinellwyd.

Pa welliannau eraill a wnaethom?

* Fe wnaethom wrando ar eich adborth ac rydym wedi lleihau faint o wybodaeth y gofynnwn i chi ei chwblhau wrth gyflwyno eich ffurflenni cwblhau.

* Rydym wedi creu canllawiau ychwanegol ar gyfer partneriaid celfyddydol sy’n dymuno cefnogi ysgolion sy’n cyflwyno ceisiadau i’n cronfeydd Ewch i Weld a Rhowch Gynnig Arni.

* Fe wnaethom ddiweddaru ein llythyrau cymeradwyo/gwrthod fel eu bod yn darparu gwybodaeth fwy defnyddiol wrth roi adborth am eich cais.

* Rydym wedi gwella'r broses ar gyfer rhyddhau taliadau. Bydd ymgeiswyr nawr yn derbyn taliad i'w cyfrif banc enwebedig o fewn 2 wythnos i fodloni amodau eu grant a derbyn eu dyfarniadau.

Roedd cau'r ddwy gronfa dros dro yn ganlyniad uniongyrchol i boblogrwydd cynyddol y cronfeydd. Yn ystod blwyddyn academaidd 2022/23 derbyniasom 375 o geisiadau am gyllid Ewch i Weld a Rho Gynnig Arni. Mewn cymhariaeth, yn ystod 2023/24 roeddem yn falch iawn o dderbyn 894 o geisiadau! Ond, fe sylweddolon ni ein bod ni dal ond wedi cyrraedd 48% o holl ysgolion Cymru, felly roedden ni’n gwybod bod mwy i’w wneud eto i wneud yn siŵr bod y cyllid sydd gennym ni’n cyrraedd mwy o ysgolion yng Nghymru a bod a bod cymaint o ddysgwyr â phosibl yn cael y cyfle i gael eu hysbrydoli a’u cyffroi gan y gorau sydd gan y celfyddydau mynegiannol yng Nghymru i’w gynnig, ble bynnag yng Nghymru y maent yn byw.

Fodd bynnag, mae yna adegau pan fyddwn yn derbyn mwy o geisiadau nag y gall ein cyllideb cyfarfod eu hariannu. O dan yr amgylchiadau hyn, rhaid inni wneud penderfyniadau anodd ynghylch pa geisiadau i'w blaenoriaethu. Byddwn bob amser yn edrych ar yr achos y mae ysgol unigol yn ei wneud dros gyllid, ond mewn rownd ariannu gystadleuol, byddwn hefyd yn ystyried gwybodaeth ychwanegol. Yn yr achosion hyn byddwn yn ystyried:

* Ysgolion nad ydynt wedi elwa o gyllid Dysgu Creadigol Cymru o'r blaen.

* % y dysgwyr eFSM (sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim) yn yr ysgol.

* Canran y dysgwyr yn yr ysgol sydd eisoes wedi elwa o'n cyllid.

* Iaith y gweithgaredd i alluogi dysgwyr o bob cefndir i brofi celfyddydau yn yr iaith Gymraeg, yn ogystal ag yn ddwyieithog, yng Nghymru.

* Daearyddiaeth yr ysgol i hwyluso cyfleoedd cyfartal i holl ddysgwyr Cymru.

* Rydym am ariannu amrywiaeth eang o weithgareddau creadigol sy'n cael eu datblygu gydag ysgolion. Er mwyn cynyddu tegwch yn y modd yr ydym yn buddsoddi ar draws y celfyddydau yng Nghymru, ni ellir enwi Partneriaid Celfyddydol fel rhai sy’n darparu gweithgaredd mewn mwy na thri chais agored Rhowch Gynnig Arni ar unrhyw adeg benodol. Rhaid i'r prif ymgeisydd gyflwyno adroddiadau cwblhau i gau grantiau cyn y gellir enwi Partner Celfyddydol ar geisiadau Rhowch Gynnig Arni ychwanegol.

* Byddwn yn anelu at fuddsoddi’n gyfartal ar draws pob un o’r pum disgyblaeth (celf, drama, dawns, ffilm a chyfryngau digidol a cherddoriaeth) ym Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol. Byddwn yn monitro’r disgyblaethau ar draws awdurdodau lleol yn barhaus i sicrhau ein bod yn rhoi cyfle cyfartal i bob un o’r pum disgyblaeth ledled Cymru.

Gwyddom y bydd rheswm pob ysgol dros wneud cais i ni am gyllid yn wahanol a gall pob ysgol sy’n gwneud cais i ni barhau i gyflwyno achos dros gyllid i ddiwallu anghenion eu dysgwyr. Wrth gyflwyno achos byddem yn eich annog i beidio â chopïo a gludo deunydd marchnata i’ch cais, ond i ystyried yn wirioneddol pa wahaniaeth y bydd ein cyllid yn ei wneud i addysgu a dysgu yn eich ysgol.

Fel bob amser, rydym yn argymell darllen y canllawiau llawn i'n cronfeydd cyn gwneud cais. Er nad ydym wedi gwneud unrhyw newidiadau i'r canllawiau, byddwn yn edrych yn fwy gofalus ar yr achos a wnewch am gyllid felly byddwch yn ofalus wrth gyflwyno'ch cais.

Rhowch Gynnig Arni

Cynlluniwyd Rhowch Gynnig Arni i roi cyfleoedd i ddysgwyr 3 – 16 oed roi cynnig ar weithgaredd neu weithdy untro i gefnogi ysgolion i gyflwyno Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol. Mae'r gronfa'n ymdrin â phum disgyblaeth celf; dawns; drama; cerddoriaeth; ffilm a’r cyfryngau digidol.

Gall sefydliad celfyddydol neu ymarferydd creadigol ddarparu'r gweithgarwch a gall ddigwydd un ai yn yr ysgol neu mewn lleoliad addas yng Nghymru. Gall y gweithgarwch fod yn ystod oriau ysgol neu fel gweithgaredd allgyrsiol. Gall y gweithgarwch fod yn un sesiwn neu gael ei gynnal ar draws sawl diwrnod.
Mae’r gronfa’n cynnig grantiau o hyd at £1,500 a gall ysgolion a gynhelir gan y wladwriaeth, unedau cyfeirio disgyblion a/neu sefydliadau celfyddydol a diwylliannol yng Nghymru wneud ceisiadau.

Mae Rhowch Gynnig Arni yn cefnogi'r Rhaglen ar gyfer Llywodraeth 2021-26 a'r Cynllun Cendlaethol ar gyfer Addysg Gerdd.

Pwy all ymgeisio?

Mae Rhowch Gynnig Arni ar gael i ariannu:

  • pob ysgol a gynhelir gan y wladwriaeth yng Nghymru ar gyfer disgyblion rhwng 3 a 16 oed
  • unedau cyfeirio disgyblion yng Nghymru i’r rhai 3 - 16 oed

Ni allwn gefnogi addysg ôl-16 sy’n cynnwys Colegau Addysg Bellach a’r Chweched Dosbarth.

Gellir cyflwyno ceisiadau Rhowch Gynnig Arni drwy:

  • Ysgol a gynhelir gan y wladwriaeth
  • Uned cyfeirio disgyblion
  • Sefydliad celfyddydol / diwylliannol sydd yng Nghymru

Am fanylion pellach

Rydym yn argymell darllen y canllawiau llawn cyn cyflwyno'ch cais.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, croeso i chi gysylltu â ni.
E-bostiwch ni: dysgu.creadigol@celf.cymru

Cymorth
Nodiadau cymorth gyda chyllid06.11.2023

Rhowch Gynnig Arni: Canllawiau

Nodiadau cymorth gyda chyllid06.11.2023

Rhowch Gynnig Arni: Cwestiynau

Dogfen04.11.2024

Rhowch Gynnig Arni: Canllawiau Ychwanegol

Dechrau

To access the application form you will need to have registered on the online portal.

We recommend that you register at least 5 working days before you wish to start your application. Once you have received your login details, you can use these to access all Creative Learning Cymru application forms and will not need to re-register when you want to apply again.

If you require further assistance in accessing the online portal, please contact our Grants and Information team: grants@arts.wales