Sut mae rhoi’r Gymraeg yng nghanol creadigrwydd?
Trwy fod yn chwareus gyda hi a’i synhwyro:
Mae teimlad i iaith y gallwn weld a chlywed. Dyma adnodd sy’n cynnig ffyrdd o fwynhau synhwyrau ieithyddol a’u defnyddio yn hyderus a chreadigol.
Y Consortiwm Celf Cymraeg ac Ysgogydd y Gymraeg sy’n datblygu’r adnodd hwn. Credwn bod modd gosod y Gymraeg yng nghanol creadigrwydd beth bynnag bo lefel sgil ieithyddol person trwy fod yn chwareus gyda hi a’i synhwyro. Ym myd yr unigolyn creadigol mae’r cyfrifoldeb o osod y Gymraeg yn y canol yn cael ei ysgwyddo gan yr unigolyn. Fel hyn mae hi.
Mae’r adnodd hwn yn cynnig arweiniad a syniadau i chi ar sut i ddefnyddio, cynnwys a chyflwyno’r Gymraeg o fewn eich ymarfer creadigol. Bydd yr adnodd yn tyfu ac esblygu wrth i ni dreialu a dod o hyd i ddulliau newydd. Bydd modd i chi ei ddefnyddio wrth iddo ddatblygu. Mae croeso i chi gysylltu gyda ni gydag unrhyw syniadau pellach. Rhowch gynnig arni. Dyma ddechrau’r siwrnai…
10 Peth Pwysig
Cyn dechrau rhoi’r Gymraeg yng nghanol creadigrwydd rhaid gwybod 10 peth pwysig er mwyn sicrhau na fydd yn cael ei chynnwys mewn modd docynistaidd neu negyddol.
- Pobl sy’n siarad iaith; nid peth ydyw
- Mae’r Gymraeg yn iaith leiafrifol ac mae angen creu lle ac amser ar gyfer ei defnyddio
- Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb beth bynnag bo’u cefndir neu allu ieithyddol a gall pawb gyfrannu at ei pharhad a thwf
- Mae iaith yn sgil sy’n bosib i unrhyw un ei dysgu ond mae hefyd yn rhan annatod o ddiwylliant gwlad
- Mae angen cydnabod gwerth y Gymraeg i’r gymdeithas rydyn ni’n byw ynddi
- Gall pawb ddefnyddio’r iaith Gymraeg i greu celfyddyd unigryw
- Mae lle i fod yn chwareus a chreadigol gyda’r Gymraeg
- Mae ffyniant y Gymraeg yn destun dathlu byd eang a gall gysylltu pobl a diwylliannau.
- Mae angen cynnig cefnogaeth i ddefnyddio, perchnogi a dathlu’r Gymraeg
- Mae angen edrych i'r dyfodol gan gofio’r gorffennol a gwrando ar bob oed wrth gynllunio a gweithredu