Rydym yn helpu sefydliadau i greu busnesau gwydn. Trwy eu harfogi â'r sgiliau i reoli newidiadau, rydym yn eu hannog i ystyried eu hallbwn creadigol dros y tymor hir.
Sut yr ydym yn cyrraedd cynulleidfaoedd ehangach.
Er mwyn gwneud y celfyddydau yn ganolog i fywyd a lles y genedl, rydym am i'r celfyddydau gyffwrdd â phawb a chreadigrwydd i fod mor ganolog â darllen, ysgrifennu a rhifo yn ysgolion Cymru. I wneud hyn, rydym yn gweithio gyda'r ysgolion hynny, yn helpu grwpiau cymunedol i gynnal adloniant ac yn meithrin partneriaethau i sicrhau bod y celfyddydau ar gael i bawb.
Sut yr ydym yn helpu creu celf
Rydym eisiau meithrin amgylchedd lle gall ein hartistiaid, sefydliadau celfyddydol a selogion creadigol greu eu gwaith gorau. Trwy wneud hyn, dylai pawb yng Nghymru allu mwynhau a chymryd rhan yn y gweithgaredd creadigol gorau sydd gan ein cenedl i'w gynnig.