Er nad yw, o reidrwydd, yn rhywbeth y byddwch chi’n meddwl amdano o hyd, neu hyd yn oed yn sylwi arni, mae’r Celfyddydau’n greiddiol i fywyd a lles ein cenedl. Mae Cymru ddeinamig, ffyniannus, greadigol yn hanfodol ar gyfer ein dyfodol. Mae’r Celfyddydau’n gwneud Cymru yn lle gwell.

Rydym am weithio gyda chi i wella llesiant a bywyd y genedl trwy'r celfyddydau. Trwy fuddsoddi yn y Celfyddydau, gallwch gyflawni pob un o saith nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Fel un o barteriaid gweithred Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, cymerwn y cyfrifoldeb hwn o ddifrif ac rydym eisoes wedi cael cysylltiad cynhyrchiol â nifer o Fyrddau Gwasanaeth Cyhoeddus ledled Cymru.

Ein gwaith hyd yn hyn

Rydym ni'n ymrwymedig i roi'r egwyddor o ddatblygu cynaliadwy wrth wraidd ein gwaith - o reoli a chynnal ein swyddfeydd yn feunyddiol i ddatblygu polisïau, creu ein hisadeiledd corfforaethol, strategaethau cynllunio, hyfforddi ac ariannu.

Mae'r Cyngor yn cymryd ei dasg o fonitro ei waith o ddifrif. Gosodasom ni darged uchel iawn i ni ein hunain ac rydym ni'n hynod awyddus i ddiwallu ein rhwymedigaethau a hyrwyddo'r egwyddorion sydd ynghlwm wrth y ddeddfwriaeth. Rydym ni o'r farn eu bod nhw'n creu byd tecach, mwy cydymdeimladol a chreadigol. Mae'r cyfrifoldeb o sicrhau ein bod yn gwneud cynnydd gyda'r gwaith hwn wedi'i ddirprwyo i Bwyllgor Cenedlaethau'r Dyfodol.

Darllennwch am ein gwaith hyd yn hyn yn ein hadroddiad blynyddol Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2017-18 isod.

Y Gallu i Greu

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol wedi bod yn datblygu adnoddau i gyrff cyhoeddus, a chyrff tebyg, ledled Cymru er mwyn cyflawni nod diwylliant a Chymraeg Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).

Am inni fod yn rhan o raglen Y Gallu i Greu’, roedd modd inni dynnu sylw at y gwaith rhagorol sydd eisoes yn digwydd i wella lles pobl drwy ddiwylliant a'r Gymraeg yng nghymunedau Cymru. Drwy’r rhaglen llwyddom hefyd i herio ein hunain i fod yn fwy dychmygus am greu’r Gymru a ddymunwn ni – ac ystyried y camau sydd eu hangen i gyflawni hyn.

Creodd y rhaglen ‘Y Gallu i Greu’ wyth siwrnai wahanol, wedi'u cysylltu â phob nod llesiant y Ddeddf. Mae pob taith yn cynnwys sawl pwnc sy'n berthnasol i'r nod ac sy'n cysylltu â nodau eraill. Mae pob pwnc yn amlinellu’r camau tuag at newid – dyma'r camau y gall cyrff cyhoeddus a sefydliadau eraill eu cymryd ar eu siwrnai i gyflawni uchelgais Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).

Gweld y siwrnai ‘Gymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu’

Gweld y siwrneiau eraill