Cefndir

Beth yw'r Rhaglen Arweinyddiaeth Greadigol?

Ydych chi'n arweinydd ysgol sy'n awyddus i gael cefnogaeth i ddefnyddio ffyrdd arloesol a chreadigol i fywiogi’r cwricwlwm newydd mewn ffyrdd dilys a deniadol i'ch disgyblion? Ydych yn barod i gynyddu eich sgiliau arwain yn eich ysgol? Hoffech gael yr amser i roi cynnig ar wahanol ffyrdd o addysgu a dysgu yn eich ysgol i asesu beth sy'n ennyn diddordeb eich disgyblion? Ydych wedi’ch llethu gan faint o newid sydd yn y system addysg ar hyn o bryd? Hoffech gael cyfaill beirniadol i'ch helpu i wneud synnwyr o’r cyfan?

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru yn falch o ail-lansio cyfle cyffrous i reolwyr canol/uwch-reolwyr ysgol i gefnogi arweinwyr i ddatblygu arweinyddiaeth greadigol yn eu hysgol. 

Nod y rhaglen yw annog hyder mewn ffyrdd newydd o weithio, arloesi, meddwl a bod yn wydn a datblygu dealltwriaeth hefyd o greadigrwydd yng nghyd-destun y Cwricwlwm i Gymru, y pedwar diben a'r safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arwain. O fewn y rhaglen, bydd cyfranogwyr yn cael eu hannog i feddwl yn onest am eu harferion a'u cyd-destun proffesiynol a nodi'r rhwystrau a allai amharu ar eu gallu i ddod yn arweinwyr creadigol. Mae'r rhaglen wedi'i theilwra i gam cynnydd presennol pob cyfranogwr o fewn eu gyrfa arweinyddiaeth broffesiynol.

Pwy all wneud cais? 

Mae'r ddarpariaeth hon yn bennaf ar gyfer y rhai sydd mewn rolau arweinyddiaeth ganol neu uwch, neu sy'n anelu atynt, er ein bod yn annog ymwybyddiaeth o arweinyddiaeth ym mhob rôl. Mae ar gyfer arweinwyr dysgu ym mhob Maes Profiad Dysgu ac nid yn unig y Celfyddydau Mynegiannol. Rhaid i chi fod mewn lleoliad blynyddoedd cynnar neu ysgol a gynhelir gan y wladwriaeth yng Nghymru i fod yn gymwys. 
Byddem yn croesawu mynegiadau o ddiddordeb yn arbennig gan ymgeiswyr o gefndiroedd amrywiol yn ddiwylliannol ac yn ethnig.

Beth sydd wedi'i gynnwys?

Mae'r rhaglen yn dechrau â hyfforddiant deuddydd gan dîm Arweinyddiaeth Greadigol Cyngor Celfyddydau Cymru. Yna bydd pob cyfranogwr yn cael ei baru ag Asiant Creadigol, yn seiliedig ar anghenion yr arweinydd, yr ardal ac iaith yr ysgol i ffurfio partneriaeth waith barhaus dros y 23-26 wythnos.

Bydd yr Asiant Creadigol yn hyfforddwr arweinyddiaeth greadigol a chyfaill beirniadol. Bydd yn atgyfnerthu egwyddorion arweinyddiaeth greadigol a chymryd rhan mewn deialog barhaus a chefnogol ac adfyfyriol. Mae hefyd dau gyfle rhwydweithio i rannu cynnydd a chael cefnogaeth gan eraill yn y rhaglen. Mae sesiwn derfynol i rannu popeth a oedd wedi’i ddysgu a fydd yn gyfle i ffurfio rhwydwaith parhaus. 

Mae’n ofyniad hanfodol eich bod yn ymrwymo i dreulio 4 diwrnod gyda’ch Asiant Creadigol yn ystod yr ymholiad. Peidiwch â phoeni, gellir trefnu hyn i fod yn hyblyg i gyd fynd â’ch ymrwymiadau. 

Bydd pob arweinydd ysgol yn cael costau cyflenwi i fynd i’r digwyddiad hyfforddi, cyfarfodydd rhwydweithio a digwyddiadau rhannu. Rhaid ichi fynd i’r diwrnodau hyfforddi, y digwyddiadau rhwydweithio a'r digwyddiad rhannu. Bydd pob cyfranogwr yn cael ei hyfforddi gan yr Asiant Creadigol dros y 23-26 wythnos. Nid oes grant uniongyrchol yn mynd i ysgolion. Noder mai cyfrifoldeb yr ysgol fydd costau teithio a chynhaliaeth ar gyfer y diwrnodau hyfforddi a rhannu.

Amserlen 

Dyddiad cau ar gyfer ffurflen gais:12pm 22 Hydref 2025
Hyfforddiant i arweinwyr canol/uwch: 25 & 26 Tachwedd 2025
Digwyddiadau rhwydweithio (ar-lein):11 Chwefror & 29 Ebrill 2026
Digwyddiad rhannu:10 Mehefin 2026

Dysgwch fwy 

I gael gwybod mwy a gofyn cwestiynau, ymunwch ag un o'n sesiynau briffio ar-lein:

Dydd Llun 6 Hydref 3.30-4.15pm
Cyfarfod: 879 7112 2514
Cyfrinair: 530276

Dydd Llun 13 Hydref 3.30-4.15pm
Cyfarfod: 845 7872 0589
Cyfrinair: 001650  

Dydd Mercher 15 Hydref 3.30-4.15pm
Cyfarfod: 811 1615 2179
Cyfrinair: 578328


 

Cymorth

Am ragor o gwestiynau neu i drafod addasrwydd eich ysgol, cysylltwch â:

gwenfair.hughes@celf.cymru

karen.dellarmi@celf.cymru

rhian.haf@celf.cymru

Nodiadau cymorth gyda chyllid28.08.2025

Arbenigo: Rhaglen Arweinyddiaeth Greadigol - Gwybodaeth

Cwestiynau mynych

Nac oes, dim o gwbl. Efallai eich bod yn Bennaeth y Flwyddyn, Arweinydd Maes Dysgu a Phrofiad, Arweinydd Cwricwlwm, Arweinydd Bugeiliol neu Gydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol. Os oes gennych gyfrifoldeb ysgol gyfan am unrhyw agwedd ar addysgu a dysgu, hoffem glywed oddi wrthych. Yn yr un modd, gallwch fod yn athro dosbarth sydd â diddordeb arbennig mewn archwilio dysgu creadigol a chymryd arweiniad ar gyfer hyn yn eich ysgol.

Nac oes, dim o gwbl. Mae creadigrwydd yn sgil hanfodol ar gyfer bywyd sy'n cyd-fynd â'r 4 Diben Craidd ac mae’n wir am bob Maes Dysgu a Phrofiad arall hefyd. Mae addysgeg dysgu creadigol yn berthnasol a defnyddiol wrth ddyfeisio profiadau arloesol ac atyniadol i bob disgybl.

Oes. Bydd yn amod eich bod yn cymryd rhan ac yn ffordd i sicrhau y cewch y gorau o'r profiad ac elwa o'r cyfleoedd dysgu proffesiynol a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru/Cyngor Celfyddydau Cymru. Peidiwch ag ymgeisio os nad ydych yn siŵr y byddwch ar gael ar gyfer pob un o’r dyddiadau angenrheidiol. Nodwch mai cyfrifoldeb eich ysgol yw costau teithio a chynhaliaeth.

Wrth gefnogi eu harweinwyr, rydym wedi sylwi y gellir nodweddu cefnogaeth Asiantau Creadigol yn aml fel hyfforddi. Ein diffiniad o hyfforddi yw: Partneru mewn proses greadigol sy'n ysgogi'r meddwl ac ysbrydoli rhywun i wneud y mwyaf o'i allu personol a phroffesiynol (Ffederasiwn Hyfforddi Rhyngwladol). Mae manteision o hyfforddi’n cynnwys:

  1. Grymuso drwy sgyrsiau cefnogol a meddylgar tuag at gyflawni nodau
  2. Gweld pethau o’r newydd drwy ymholi
  3. Meddwl yn rhydd a mwy hyblyg drwy gwestiynu sy'n annog yr arweinydd i weld safbwyntiau eraill
  4. Gwell perfformiad o ran agwedd a gallu drwy gael y gorau o dalentau pawb
  5. Gwell cyfathrebu drwy ddatblygu eglurder neges (Insala, 2019)

Oes. Nid yw gweithio gyda'ch Asiant Creadigol dan gontract yn ddewisol ac mae gweithio mewn partneriaeth yn amod ar gyfer cymryd rhan. Rydym yn gwybod bod ysgolion ac arweinwyr yn lleoedd prysur iawn, ac mae'r rhaglen wedi'i chynllunio i fod yn addasadwy i gyd-fynd â'ch ymrwymiadau gwaith. Fodd bynnag, rydym wedi sylwi bod arweinwyr weithiau'n cael trafferth dod o hyd i argaeledd i gwrdd â'u Hasiantau Creadigol. Pan fydd problemau fel 'na'n codi, gall hyn arwain at fethu â chwblhau'r rhaglen - rydym am osgoi hynny. Felly ystyriwch yn ofalus eich ymrwymiad i'r elfen sylfaenol yma cyn ymgeisio.
 

Nac oes. Penderfyniad rhyngoch chi a’r Asiant yw sut rydych yn dewis cynllunio eich amser gyda'ch gilydd. Gallai fod yn gyfarfodydd wyneb yn wyneb a rhai ar-lein am gyfnodau gwahanol (fel sesiwn gynllunio hanner diwrnod yna sesiynau dal i fyny am awr bob wythnos).

Nac ydy. Hyfforddwr personol i chi yw’r Asiant drwy gydol y rhaglen. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar eich profiad chi. Mae’n rhoi amser gwerthfawr ichi feddwl am eich arferion a'ch arweinyddiaeth. Ond bydd yr hyn a ddysgwch drwy arbrofi hefyd o fudd i'r disgyblion yn y pen draw. Nid yw hyn yn ymwneud â dod ag Asiantau Creadigol i mewn i weithio gyda dysgwyr.

Byddwn. Byddwn yn talu am gostau cyflenwi i chi fynd i’r sesiynau hyfforddi, rhwydweithio a rhannu. Byddwn hefyd yn talu am yr Asiant Creadigol. Mae’n amod o gymryd rhan eich bod yn defnyddio’r gwerth 4 diwrnod gyda’ch Asiant Creadigol – ond eich penderfyniad chi yw sut i ddyrannu’r amser.

Eich penderfyniad chi a’r Asiant yw hynny. Mae'r rhaglen yn rhedeg am gyfnod o 23-26 wythnos. Mae wedi'i chynllunio i gyd-fynd â dyddiadau tymhorau a’ch cyfrifoldebau yn yr ysgol. Ond rydym yn hyblyg ac yn deall pa mor brysur yw bywyd yr ysgol a pha mor brysur yr ydych chi.

Na. Bydd pob arweinydd ysgol ac Asiant Creadigol yn penderfynu ar ba nod neu nodau dysgu creadigol ac arweinyddiaeth greadigol sydd gennych a pha feysydd penodol i'w harchwilio a'u datblygu. Bydd hyn yn cael ei droi wedyn yn gwestiwn ymholiad.

Ydych! Cewch Arweinydd Prosiect o dîm Dysgu Creadigol Cyngor Celfyddydau Cymru a’ch Asiant Creadigol eich hun. Mae ein holl Asiantau Creadigol ar y Rhaglen Arweinyddiaeth Greadigol yn ymarferwyr creadigol proffesiynol sy’n brofiadol a medrus iawn. Yn ogystal, byddwn yn gofyn i bobl a fu ar y rhaglen rannu eu profiad â chi. Byddwn hefyd yn dod â'r garfan bresennol at ei gilydd yn rheolaidd ar gyfer rhwydweithio a rhannu.

Yr hyn a ddywedwn wrth ein Hasiantau Creadigol am eu dysgu a’u datblygiad proffesiynol eu hunain wrth weithio ar y rhaglen hon: Mae rôl yr Asiant Creadigol yn y Rhaglen Arweinyddiaeth Greadigol yn benthyg oddi wrth, ond yn wahanol iawn i, rôl Asiant Creadigol draddodiadol ar ymholiad Ysgolion Creadigol Arweiniol. Mae manteision cymryd y rôl hon yn aml-haenog ond maent yn debygol o gynnwys rhai, os nad pob un o’r canlynol:

  • gweld pethau o’r newydd yn ei arferion proffesiynol, ei werthoedd a’i alluoedd proffesiynol
  • safbwyntiau newydd ar ei ddulliau a'i gryfderau unigryw i gefnogi a meithrin creadigrwydd mewn eraill
  • cyfleoedd am gefnogaeth anffurfiol gan bobl eraill yn yr un maes
  • hyfforddiant a chefnogaeth gan Dîm Arweinyddiaeth Greadigol Cyngor Celfyddydau Cymru
  • ymdeimlad gwych o gyflawniad a boddhad dirprwyol wrth iddo weld datblygiad ei arweinydd.

Os yw'r unigolion sy'n cymryd rhan yn wahanol, gall yr ysgol fod yn rhan o Arbrofi a'r Rhaglen Arweinyddiaeth Greadigol. 

Darllen mwy