Cefndir

** Mae Camau Creadigol bellach ar gau ar gyfer ymholiadau newydd neu geisiadau newydd. Byddwn yn cynnal adolygiad o’r rhaglen ac rydym yn anelu at ailagor y gronfa eto yn yr haf. I'r ymgeiswyr sydd eisoes mewn cysylltiad â swyddogion, ni fydd hyn yn effeithio arnoch chi a’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 31 Mawrth 2024.

Diolchwn ichi am eich amynedd. Cymerwch olwg ar ein hopsiynau ariannu eraill yma. **

 

Nod y rhaglen hon yw cefnogi unigolion a sefydliadau sydd wedi wynebu rhwystrau i gael mynediad at ein cyllid. Nod y Camau Creadigol yw mynd i'r afael â hyn drwy gefnogi artistiaid, pobl greadigol a sefydliadau drwy gydol eu taith ddatblygiadol.

Amdanynt

Fe welwch fanylion llawn am y rhaglen yn y Canllawiau isod.

Pwy a all ymgeisio?

Mae rhaglenni Camau Creadigol ar gyfer Unigolion a Sefydliadau.

Gallwch wneud cais am y maes Unigol os ydych chi'n artist neu'n berson creadigol sy'n nodi eu bod yn amrywiol yn ethnig ac yn ddiwylliannol, yn Fyddar, anabl a/neu niwroamrywiol, neu fel rhywun sydd wedi profi hiliaeth neu wahaniaethu.

Gallwch wneud cais am y maes Sefydliadau os yw eich sefydliad yn cael ei arwain gan bobl sy’n ethnig a diwylliannol amrywiol, pobl Fyddar, anabl a/neu niwroamrywiol, neu bobl sydd wedi profi hiliaeth neu wahaniaethu.

Os hoffech chi gael ffurflen gais i Gamau Creadigol, bydd angen i chi gysylltu â ni drwy’r e-bost: camaucreadigol@celf.cymru gan roi eich enw, eich cyfeiriad e-bost, disgrifiad byr o'ch syniadau a'ch gweledigaeth a'r lleoliad lle bydd y prosiect o bosibl yn digwydd.

Wedyn bydd aelod o’n staff yn cysylltu â chi i drafod hyn a'ch helpu i ddatblygu eich prosiect. Bydd hefyd yn anfon dolen atoch at y ffurflen gais.

Diffiniadau

Rydym yn diffinio 'ethnig ac yn ddiwylliannol amrywiol' fel:

* Unrhyw un o'r diaspora Affricanaidd, Asiaidd, Caribïaidd, Sbaenaidd, Latino, Dwyrain Ewrop neu'r Dwyrain Canol yng Nghymru

* Unrhyw un sy'n rhan o grŵp ethnig nad yw'n wyn yn unig

* Unrhyw un o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr

 

Rydym ni'n diffinio 'anabledd' gan ddefnyddio'r Model Cymdeithasol o Anabledd:

* Mae'r model cymdeithasol o anabledd yn fframwaith a gafodd ei ddatblygu gan bobl anabl i adnabod a gweithredu yn erbyn eu gorthrwm ac mae'r fframwaith yn nodi bod pobl yn anabl gan rwystrau mewn cymdeithas ac nid o reidrwydd gan eu nam. Gallai rhwystrau fod yn gorfforol, fel diffyg toiledau i bobl anabl, neu gallant fod yn agweddol fel cymryd bod pobl anabl yn methu â gwneud rhai pethau.

* Datblygwyd y model cymdeithasol o anabledd i wrthsefyll yn uniongyrchol y model traddodiadol, meddygol o anabledd a oedd yn gweld anableddau a namau fel problemau meddygol i'w hatal, eu gwella neu gyfyngu arnynt gan wneud i'r person anabl deimlo fel y broblem yn lle ein cymdeithas.

Rydym yn diffinio 'niwroamrywiol' fel:

* Edrych ar wahaniaethau niwroddatblygiadol fel amrywiadau naturiol ac arferol o'r genom dynol sy'n annog cymdeithas i wrthod unrhyw negyddiaeth sydd wedi ymwreiddio sy'n gysylltiedig â phobl sy'n dysgu pethau mewn modd penodol neu'r rhai sy'n profi bywyd mewn modd gwahanol o safbwynt niwrolegol.

* Mae gan bob un ohonom systemau nerfol unigryw gyda chyfuniad unigryw o wahanol alluoedd ac anghenion.

* Rydym ni'n cydnabod nad oes ffordd 'gywir' o feddwl, dysgu ac ymddwyn a dylid dathlu'r gwahaniaethau hyn yn hytrach na’u hystyried yn ddiffygion.

Pryd y gallwch ymgeisio?

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau i'r rhaglen Camau Creadigol yw 5pm ar ddiwrnod olaf pob mis. Y dyddiad cau cyntaf fydd 31 Rhagfyr 2022 ac yn dilyn hyn, bydd yn fisol.

Os yw eich cais hyd at £10,000, cofiwch fod angen i chi ganiatáu o leiaf 6 wythnos waith rhwng y dyddiad cau a'r dyddiad cychwyn ar gyfer eich prosiect.

Os yw eich cais dros £10,000, cofiwch fod angen i chi ganiatáu o leiaf 8 wythnos waith rhwng y dyddiad cau a'r dyddiad cychwyn ar gyfer eich prosiect.

Gallwch weld sut i gyflwyno cais fideo/ sain yma.

Os hoffech chi gael ffurflen gais i Gamau Creadigol, bydd angen i chi gysylltu â ni drwy’r e-bost: camaucreadigol@celf.cymru gan roi eich enw, eich cyfeiriad e-bost, disgrifiad byr o'ch syniadau a'ch gweledigaeth a'r lleoliad lle bydd y prosiect o bosibl yn digwydd.

Wedyn bydd aelod o’n staff yn cysylltu â chi i drafod hyn a'ch helpu i ddatblygu eich prosiect. Bydd hefyd yn anfon dolen atoch at y ffurflen gais.

 

** Noder hefyd y bydd llai o allu i ymateb yn ystod proses asesu’r Adolygiad Buddsoddi. Ni fydd dyddiad cau ym mis Ebrill 2023 ar gyfer ceisiadau Camau Creadigol. Bydd gweddill y dyddiadau cau yn aros.

Am yr un rheswm, bydd gan staff gapasiti sylweddol lai i drafod eich cais yn ystod mis Ebrill a mis Mai 2023, gofynnwn i chi ystyried hyn wrth gynllunio amserlen eich prosiect.

Diolch am eich amynedd.

Cymorth
Nodiadau cymorth gyda chyllid07.04.2021

Canllawiau Ariannu’r Loteri Genedlaethol

Nodiadau cymorth gyda chyllid02.11.2022

Camau Creadigol i Sefydliadau: Canllaw

Nodiadau cymorth gyda chyllid02.11.2022

Camau Creadigol i Sefydliadau Nodiadau Cymorth

Nodiadau cymorth gyda chyllid28.10.2022

Templed Cyllideb: Camau Creadigol

Nodiadau cymorth gyda chyllid03.03.2023

Ffurflen gais Camau Creadigol