Mae achos busnes cryf dros greu brand dwyieithog hefyd.
Bellach mae 86% o’r boblogaeth yn teimlo bod y Gymraeg yn rhywbeth i ymfalchïo ynddi ac mae 40% o blant a phobl ifanc yn medru’r iaith, gyda llawer mwy yn gallu siarad rhywfaint o Gymraeg.
Mae ymchwil gan Gomisiynydd y Gymraeg ac eraill yn dangos cefnogaeth fawr i’r iaith ymysg siaradwyr Cymraeg a’r di-Gymraeg fel ei gilydd.
Dyma nifer o syniadau ymarferol ar sut i wella eich defnydd o’r ddwy iaith wrth farchnata.
Camau bach
- Beth am gynnal awdit mewnol byr yn nodi ble mae’r mannau coll yn eich delwedd ddwyieithog ar hyn o bryd - er enghraifft, ar eich gwefan, arwyddion neu ddeunyddiau gweledol, ysgrifen ar wisgoedd neu gerbydau, cardiau busnes neu gyhoeddiadau.
-
Oes gan eich cwmni enw uniaith Saesneg a does dim modd ei newid? Rhowch slogan ar ei ôl yn disgrifio natur eich gwaith yn y ddwy iaith.
-
Rhowch lofnod electronig dwyieithog ar waelod e-byst eich cwmni neu sefydliad. Mae’n hawdd iawn rhoi teitl eich swydd yn y ddwy iaith a gallech arwyddo drwy ddefnyddio ‘Cofion Gorau / Best wishes’, neu’n fwy ffurfiol ‘Yn Gywir / Sincerely’.
Tymor Canol
-
Edrychwch ar ganlyniadau eich awdit mewnol ac ystyriwch sut y gallwch chi fynd ati i gynnwys y Gymraeg yn y mannau hyn. Beth am roi camau mewn lle i wneud yn siŵr bod y Gymraeg yn cael ei chynnwys y tro nesaf y byddwch yn archebu deunyddiau neu nwyddau? Yn y cyfamser, oes modd cynnig ateb dros dro ar gyfer rhai elfennau gweledol? Er enghraifft, efallai bod modd creu rhai tudalennau Cymraeg ar eich gwefan hyd yn oed os nad oes modd cael gwefan gwbl ddwyieithog ar hyn o bryd.
-
Wrth greu testun Cymraeg o’r newydd, beth am ddefnyddio gwasanaeth prawf ddarllen am ddim Comisiynydd y Gymraeg? Anfonwch eich drafftiau at hybu@comisiynyddygymraeg.cymru a bydd y gwaith yn cael ei wirio a’i anfon yn ôl atoch. Os oes testun hirach gennych, efallai y byddwch angen trefnu cyfieithiad proffesiynol – cysylltwch â Chymdeithas Cyfieithwyr Cymru i ddod o hyd i gyfieithydd.
-
Gwnewch yn siŵr fod y Gymraeg yn cael ei chynnwys o’r dechrau wrth gynllunio pob deunydd newydd. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi llunio dogfen ddefnyddiol iawn i’ch helpu gyda gwaith dylunio dwyieithog.
Hir-dymor
-
Mae’n bosibl y bydd eich cwmni neu sefydliad am ail-frandio yn y dyfodol. Wrth wneud hynny gwnewch yn siŵr fod aelodau’r Bwrdd neu reolwyr eich sefydliad yn ymwybodol o holl fanteision creu delwedd Gymraeg neu ddwyieithog. Mae gwaith ymchwil Comisiynydd y Gymraeg yn dangos yn glir bod achos busnes dros frandio’n Gymraeg . Dyma ddogfen sy’n crynhoi prif ganfyddiadau'r gwaith ymchwil. Rhannwch y ddogfen hon gydag uwch swyddogion neu Aelodau eich Bwrdd. Rhowch gyflwyniad byr iddynt ar fanteision brandio’n Gymraeg.
Adnoddau Pellach:
Mae gwybodaeth gan Gomisiynydd y Gymraeg ar gynhyrchu deunyddiau dwyieithog (brandio dwyieithog, arwyddion, ffurflenni, hysbysebion, gwefannau, cyflwyniadau PowerPoint ayyb).