Mae'r arolygiadau blynyddol hyn yn craffu ar elfennau pwysig fel presenoldeb, cyfranogiad ac ymagweddau yn y celfyddydau yng Nghymru.
Rydym yn cynnal sawl arolwg blynyddol at wahanol ddibenion.
Arolwg Omnibws Cymru
Rydym wedi cynnal arolwg ymchwil am fynychu ac ymgyfranogi bob blwyddyn ers 1993.
Cesglir gwybodaeth am fynychu digwyddiadau celfyddydol ac ymgyfranogi o weithgareddau celfyddydol drwy gyfres o gwestiynau sy'n ymddangos yn arolwg omnibws Cymru gan Ymchwil Beaufort Cyfyngedig ym mis Tachwedd. Mae o leiaf fil o gyfweliadau'n cael eu cynnal bob blwyddyn gyda sampl sy'n cael ei chynllunio i fod yn gynrychioliadol o'r boblogaeth yn ei hoed yng Nghymru sydd dros eu hun ar bymtheg oed.
Arolwg Omnibws y Plant
Rydym wedi cynnal arolwg o gyfraddau mynychu a chyfranogi ymhlith plant a phobl ifanc bob blwyddyn ers 2007.
Caiff gwybodaeth am gyfraddau mynychu digwyddiadau celfyddydol a chyfraddau cyfranogi mewn gweithgareddau artistig ei chasglu drwy gyfres o gwestiynau a ofynnir fel rhan o arolwg Omnibws Plant Beaufort Research bob blwyddyn.
Arolwg o Wariant Awdurdodau Lleol ar y Celfyddydau
Er 2013 mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gweithio mewn partneriaeth gyda Datblygu'r Celfyddydau, Prydain ar arolwg cyfunol o bartneriaethau a buddsoddi celfyddydol yr awdurdodau lleol i ddiwallu anghenion y ddau sefydliad.
Anfonodd Datblygu'r Celfyddydau, Prydain arolwg ar-lein at bob awdurdod lleol yng Nghymru i asesu lefel rhagolwg gwariant ar y celfyddydau ar gyfer 2015/16 ac am y tro cyntaf, arolwg ar wahân ond cymaradwy, parthed gwasanaethau a gontractir allan.