Cefndir

Mae’r Gronfa Ewch i Weld yn cynnig grantiau gwerth hyd at £1,000 er mwyn caniatáu i athrawon mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru fynd â’u dysgwyr allan i weld celfyddydau o safon mewn lleoliadau ar draws Cymru. Gall athrawon ddefnyddio’r gronfa tuag at gost tocynnau a chludiant. Cynigir hyd at £1,000 i dalu hyd at 90% o gost ymweliadau ar gyfer dysgwyr 3-16 oed.

Pwrpas Ewch i Weld yw sicrhau bod y celfyddydau yng Nghymru’n agored i bob dysgwr. Er mwyn caniatáu i ysgolion fynd â dysgwyr allan o’r dosbarth i gael profiad o waith creadigol pobl eraill; a rhoi’r cyfle iddynt ymateb i a myfyrio ar gelfyddyd o safon uchel ledled Cymru.

Gall fod yn ymweliad i weld drama, dawns, cerddoriaeth, celf, gŵyl diwylliannol neu unrhyw brofiad celfyddydol arall o ansawdd uchel.

Dylai ffocws pob ymweliad fod ar weld celfyddyd o safon uchel yng Nghymru.

 

Pwy all ymgeisio?

Dim ond y canlynol gaiff gyflwyno ceisiadau Ewch i Weld:

  • Ysgolion a gynhelir ar gyfer dysgwyr 3-16 oed yng Nghymru.
  • Unedau cyfeirio disgyblion ar gyfer dysgwyr 3-16 oed.

Yn anffodus, ni allwn ddarparu ar gyfer ceisiadau gan ymgeiswyr o’r tu hwnt i ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion a gynhelir.

Gall ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion wneud cais i’r Gronfa Ewch i Weld fwy nag unwaith yn ystod y flwyddyn ond rhaid iddynt gyflwyno adroddiadau cwblhau cyn ailymgeisio.

Gwiriwch y canllawiau i gael rhagor o wybodaeth am gymhwysedd a'r hyn y gallwn ac na allwn ei ariannu.

 

Beth yw'r dyddiad cau?

Nid oes dyddiad cau ar gyfer Ewch i Weld. Mae hyn yn golygu y gallwch wneud cais am arian ar unrhyw adeg. Gan amlaf, byddwch yn clywed mewn 4 wythnos waith a oedd eich cais yn llwyddiannus ai peidio. Rydym yn argymell ichi gyflwyno eich cais o leiaf 5 wythnos waith cyn eich dyddiad cychwyn i ganiatáu amser i ni brosesu eich grant. Gallwn wrthod ceisiadau sy’n ein cyrraedd llai na 5 wythnos waith cyn y gweithgarwch arfaethedig.

Rhoddir grantiau Ewch i Weld i alluogi ymweliadau yn ystod y flwyddyn academaidd. Ni fydd unrhyw geisiadau a gyflwynir ar ôl 12 Gorffennaf yn cael ymateb tan fis Medi 2024.

 

Am fanylion pellach

Rydym yn argymell darllen y canllawiau llawn cyn cyflwyno'ch cais.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, croeso i chi gysylltu â ni.

E-bostiwch ni: dysgu.creadigol@celf.cymru

 

Cymorth
Nodiadau cymorth gyda chyllid15.05.2024

Cronfa Ewch i Weld

Nodiadau cymorth gyda chyllid15.05.2024

Ewch i Weld: Cwestiynau Cais

Cwestiynau mynych

Dylech chi gyflwyno eich cais o leiaf 5 wythnos waith cyn dyddiad eich ymweliad. Rydym ni’n ceisio rhoi gwybod ichi am y penderfyniad mewn 4 wythnos o’r dyddiad cau.

Na allwn. Mae'r gronfa hon yn fodlon talu am docynnau a chludiant yn unig.

Na ellwch. Nod y gronfa yw talu am gost profiadau celfyddydol o safon na allai ddigwydd heb y grant hwn. Ar ôl clywed bod y grant wedi’i ddyfarnu ichi, gellwch brynu tocynnau os gall eich ysgol dalu am y tocynnau cyn derbyn yr arian ei hun yng nghyfrif yr ysgol. Ni fydd hynny’n broblem. Ond ni allwn ariannu gweithgarwch sydd eisoes wedi’i gynllunio neu sydd eisoes yn digwydd. Ni allwn ariannu’n ôl-weithredol brofiadau Ewch i Weld.

Fel rheol, na allwch. Nod yr arian yw cael disgyblion i brofi celfyddyd o safon mewn lleoliadau celfyddydol o safon y tu allan i'r ysgol. Ond dan amgylchiadau eithriadol lle gallwch nodi'n glir pam y byddai raid i’r profiad celfyddydol o safon ddigwydd yn yr ysgol, mae’n bosibl y gallai’r panel ystyried rhoi grant ichi.

Peidiwch ag anfon yr arian cyfatebol yn uniongyrchol atom. Disgwyliwn i’r arian cyfatebol o 10% ddod o arian yr ysgol, costau mewn nwyddau neu arian a godir, er enghraifft.

Nid yw hyn yn eich atal rhag gwneud cais, ond dylai eich cais nodi pryd rydych chi’n rhagweld y bydd yr ymweliad yn digwydd.

Gall. Gall unrhyw ysgol a gynhelir ymgeisio am grant Ewch i Weld.

Na allwch. Mae'r rhaglen wedi'i chlustnodi ar gyfer plant oedran ysgol, o oed meithrin hyd at 16. Ni allwn ni ariannu addysg ôl-16, gan gynnwys colegau addysg bellach a'r chweched dosbarth.

Gallwch, gallwch wneud cais am grantiau lluosog o hyd at £1,000 trwy gydol y flwyddyn academaidd. Ond dim ond un grant y gallwch chi ei agor ar y tro. Rydym yn croesawu ceisiadau yn arbennig gan ysgolion nad ydynt wedi ymgysylltu â'r gronfa.

Bydd angen i chi gofrestru'ch ysgol ar ein porth ar-lein cyn llenwi ffurflen gais. Ar ôl i chi gofrestru ar y porth ar-lein byddwch yn gallu cyrchu'r ffurflen gais. Rydym yn argymell eich bod yn cofrestru'ch ysgol ar ein porth o leiaf 5 diwrnod gwaith cyn eich bod yn dymuno cychwyn eich cais.

Os oes angen cymorth pellach arnoch i gyrchu'r porth ar-lein, cysylltwch â ni trwy: 03301 242733 (llinell gymorth) pob galwad a godir ar brisiau lleol neu e-bostiwch: dysgu.creadigol@celf.cymru

Darllen mwy
Dechrau

I gyrchu’r ffurflen gais, bydd angen i chi fod wedi cofrestru ar y porth ar lein.

Rydyn ni’n argymell eich bod chi’n cofrestru o leiaf 5 diwrnod gwaith cyn y dyddiad pan rydych chi’n dymuno dechrau’r cais. Ar ôl derbyn eich manylion mewngofnodi, gallwch ddefnyddio’r rhain i gyrchu holl ffurflenni cais Dysgu Creadigol Cymru, ac ni fydd angen ailgofrestru pan fyddwch am ymgeisio eto.

Os oes angen cymorth pellach arnoch i gyrchu’r porth ar lein, cysylltwch â’n Tîm Grantiau a Gwybodaeth: grantiau@celf.cymru