Mae Cyngor Celfyddydau Cymru mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru yn gwahodd theatrau a lleoliadau’r celfyddydau perfformio yng Nghymru i ymgeisio am arian cyfalaf.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cael £1.25 miliwn gan Lywodraeth Cymru i ddosbarthu am y flwyddyn ariannol 2024/25, i gynnig cymorth cyfalaf a buddsoddiad mewn i adeiladau theatrau a lleoliadau’r celfyddydau perfformio.
Wrth ymgeisio bydd rhaid i’ch cais ddangos bod modd cyflawni’r prosiect yn ystod y flwyddyn ariannol, a byddwch yn gallu hawlio'r grant llawn erbyn 5 Mawrth 2025.
Pwy sy'n gallu ymgeisio?
Dim ond Theatrau a lleoliadau’r celfyddydau perfformio all ymgeisio, hefyd bydd rhaid ichi:
- Gallu cynnal digwyddiad eistedd ar gyfer o leiaf 50 o bobl.
- Bod gennych hanes hysbys o lwyddo i ddarparu gweithgareddau celfyddydau perfformio ar gyfer cynulleidfa neu gyfranogwyr.
- Bod â rhaglen barhaus o ddigwyddiadau sy'n cynnwys o leiaf un digwyddiad proffesiynol y mis mewn man eistedd sy'n addas at y diben.
- Sicrhau bod yr adeilad/prosiect yn bodloni gofynion hygyrchedd y Ddeddf Cydraddoldeb.
Enghreifftiau o brosiectau y byddwn yn eu hystyried:
- Gwella ac adnewyddu theatrau a lleoliadau’r celfyddydau perfformio presennol.
- Ailosod ac uwchraddio offer a phrynu mathau newydd o offer.
- Gwella cyfleusterau a phrynu offer a fydd yn gwella’n benodol hygyrchedd theatrau a lleoliadau neu'n cael effaith gadarnhaol ar leihau eu hôl troed carbon.
Bydd angen hefyd bodloni’r meini prawf cymhwysedd a’r blaenoriaethau syddd yn ein canllawiau.
Pryd y gallaf ymgeisio?
Bydd y gronfa'n agor ar 17 Ebrill 2024 a bydd yn cau am 12 o’r gloch hanner dydd ar 24 Mai 2024.
£250,000 yw’r mwyafswm gallwch ymgeisio am, ond rydym yn disgwyl y bydd y mwyafrif o geisiadau dan £50,000.
- Ar gyfer ceisiadau hyd at £50,000, gallwch ymgeisio am hyd at 90% o'ch costau cymwys.
- Ar gyfer ceisiadau hyd at £250,000, gallwch ymgeisio am hyd at 75% o'ch costau cymwys.
Rhaid ichi ddarparu tystiolaeth o sut rydych yn ariannu o ffynonellau eraill y ganran sy'n weddill.
Rhaid ichi siarad gyda ni cyntaf ynglŷn manylion eich prosiect i gael y ddolen i'r ffurflen gais.
Darllenwch y canllawiau i benderfynu os ydy eich prosiect yn iawn i’r gronfa yma.
Os ydy, cysylltwch gyda ni ar cyfalaf@celf.cymru gydag amlinelliad byr o'ch prosiect, gan gadarnhau’r swm rydych am ymgeisio am.