Mae pedwar prosiect gwych o Gymru ymhlith yr 17 yn y rownd derfynol o bob rhan o’r DU sy’n apelio am gefnogaeth y cyhoedd er mwyn cael eu coroni’n Brosiect y Flwyddyn yng Ngwobrau’r Loteri Genedlaethol 2023.
Mae Clywch Ni, prosiect sy’n cael ei redeg drwy Ganolfan Gelfyddydau Chapter yng Nghaerdydd i annog sector celfyddydol mwy hygyrch i bobl Fyddar a Thrwm eu Clyw; elusen cymorth iechyd meddwl yn Sir Benfro, Get The Boys A Lift (GTBAL); Prosiect SIARC (Sharks Inspiring Action and Research with Communities), sydd â’r nod o ddiogelu siarcod, morgathod, oddi ar Arfordir Cymru tra’n meithrin gwerthfawrogiad newydd o’r amgylchedd tanddwr yng Nghymru; a chlwb pêl-droed LGBTQ+ cyntaf Cymru, Clwb Pêl-droed Dreigiau Caerdydd - i gyd wedi cyrraedd y cam pleidleisio cyhoeddus yng Ngwobrau’r Loteri Genedlaethol eleni.
Mae Gwobrau’r Loteri Genedlaethol yn dathlu’r bobl a’r prosiectau ysbrydoledig sy’n gwneud pethau rhyfeddol gyda chymorth arian Y Loteri Genedlaethol ac wedi denu mwy na 3,780 o enwebiadau eleni.
Mae’r pedwarawd Cymreig ymhlith 17 ar y rhestr fer o bob rhan o’r DU, a fydd yn cystadlu mewn pleidlais gyhoeddus bedair wythnos o 11 Medi i 9 Hydref i gael ei enwi’n Brosiect y Flwyddyn Loteri Genedlaethol y DU. Bydd yr enillwyr yn derbyn gwobr ariannol o £5,000 ar gyfer eu prosiect a thlws eiconig Gwobrau’r Loteri Genedlaethol.
Yn chwifio’r faner dros Gymru yn y categori Celfyddydau, Diwylliant a Ffilm mae Clywch Ni – prosiect dan arweiniad pobl Fyddar sy’n archwilio safbwyntiau pobl Fyddar a Thrwm eu Clyw, yn enwedig y rhai sy’n gweithio yn y sector creadigol neu sydd wedi’u hallgáu o’r sector creadigol. Ers i’r prosiect ddechrau ym mis Chwefror 2021, mae Clywch Ni wedi gweithio i sefydlu rhwydwaith o fannau diogel i bobl Fyddar a Thrwm eu Clyw ledled Cymru gyfarfod, rhannu profiadau a rhoi cynnig ar syniadau creadigol. Mae Clywch Ni, sy’n cael ei redeg trwy Ganolfan Gelfyddydau Chapter yng Nghaerdydd, yn helpu i feithrin a datblygu talent, gan annog sector celfyddydol mwy hygyrch i bawb wrth ddod o hyd i atebion i faterion a godwyd gan gyfranogwyr.
Yn cynrychioli Cymru yn y categori Cymunedol ac Elusennol mae Get The Boys A Lift (GTBAL), sefydliad dielw a lansiwyd gan grŵp o ffrindiau yn Sir Benfro a oedd yn awyddus i annog trafodaethau am iechyd meddwl. Mae’r prosiect wedi mynd o nerth i nerth ers 2016 ac bellach yn cynnig cymysgedd o wasanaethau cwnsela personol ac ar-lein i unrhyw un dros 17 oed. Mae’r tîm yn rhedeg siop ddillad a choffi yn Hwlffordd o’r enw ‘Our Place’, gan gynnig profiad caffi unigryw lle gall ymwelwyr sgwrsio â chynghorwyr a gwneud ffrindiau newydd. Mae gwasanaeth galw heibio’r prosiect wedi darparu cymorth hawdd a rhad ac am ddim i tua 500 o bobl ac mae ei wasanaeth cwnsela ar-lein, a lansiwyd yn ystod y pandemig, hefyd yn rhoi’r opsiwn i gleientiaid gael sesiynau o bell.
Yn gobeithio gwneud sblash mawr yn y categori Treftadaeth eleni mae Prosiect SIARC (Sharks Inspiring Action and Research with Communities). Mae’r amgylchedd morol ar hyd arfordir Cymru yn gyforiog o fywyd ac mae Prosiect SIARC yn gwneud popeth o fewn ei allu i wneud pethau hyd yn oed yn well. Mae’r rhaglen, a lansiwyd yn 2022, yn dod â chymunedau lleol, pysgotwyr, ymchwilwyr, a’r llywodraeth ynghyd i ddiogelu siarcod a’r morgathod, wrth feithrin gwerthfawrogiad newydd ac agor mynediad i amgylchedd tanddwr Cymru. Cyflwynir y prosiect mewn partneriaeth gan ZSL (Cymdeithas Sŵolegol Llundain), Cyfoeth Naturiol Cymru, Prifysgol Bangor, Blue Abacus, Lleiafrifoedd mewn Gwyddorau Siarcod, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru, Ymddiriedolaeth y Siarcod, Prifysgol Abertawe, a sawl partner cydweithredol.
Yn edrych i sgorio enillydd yn y categori Chwaraeon mae clwb pêl-droed LGBTQ+ cyntaf Cymru, CPD Dreigiau Caerdydd. Wedi'i sefydlu yn 2008, mae'r clwb wedi dod i'r amlwg fel enghraifft ddisglair o sefydliad lle mae cynhwysiant a derbyniad yn ganolog i'r lle; mae wedi arwain y ffordd o ran darparu cyfleoedd i bobl LGBTQ+ gymryd rhan mewn chwaraeon, gan greu amgylchedd cynnes a chroesawgar a chymuned sy’n cynnwys pob hunaniaeth. Gyda’r nod o ddarparu pêl-droed i bawb, mae CPD Dreigiau Caerdydd, sy’n cael ei gefnogi gan arian y Loteri Genedlaethol gan Chwaraeon Cymru, yn gartref i dri thîm.
Meddai Jonathan Tuchner, o’r Loteri Genedlaethol: “Rydym yn falch o fod wedi derbyn cymaint o enwebiadau yn amlygu’r gwaith rhagorol y mae prosiectau a ariennir gan y Loteri Genedlaethol yn ei wneud ar hyd ac ar led y DU. Nid yw’n gyfrinach fod y rhain yn amseroedd anodd, felly mae’n wych gweld cymaint o bobl a phrosiectau yn ymrwymo cymaint o amser ac egni i roi rhywbeth yn ôl i’w cymunedau.
“Mae’r diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, sy’n codi mwy na £30 miliwn bob wythnos ar gyfer achosion da, fod gwaith y prosiectau anhygoel hyn yn cael ei wneud yn bosibl.
“Mae’r prosiectau yma yn cael effaith anhygoel ar eu cymuned leol ac maen nhw’n llwyr haeddu bod yn y rownd derfynol ar gyfer Gwobr Prosiect Loteri Genedlaethol y Flwyddyn. Gyda’ch cefnogaeth chi, gallent fod yn enillydd.”
I bleidleisio dros unrhyw un o’r prosiectau hyn ewch i lotterygoodcauses.org.uk/cy/awards neu defnyddiwch yr hashnod unigryw perthnasol ar X (a elwir yn flaenorol yn Twitter) ar gyfer pob prosiect #NLAHearWeAre , #NLAGTBAL, #NLASIARC a #NLADragons . Mae'r pleidleisio yn rhedeg o 9am ar 11 Medi tan 12pm ar 9 Hydref.