Dyma’r 2 ddyddiad cau cyntaf i grantiau mawr Creu yn 2025/26:

  • 1pm ddydd Mercher 14 Mai 2025 
  • 1pm ddydd Mercher 20 Awst 2025 

Y dyddiad cau i grantiau bach Creu yn 2025/26 fydd dydd Gwener 1 Awst 2025. Ni fydd yn bosib cyflwyno cais wedi’r dyddiad yma.

Ar ôl y dyddiadau cau, byddwn yn ailstrwythuro Creu fel rhan o adolygiad ehangach o'n rhaglenni Loteri. Bydd Creu ar ei newydd wedd yn parhau i ariannu unigolion a sefydliadau. Bydd y newidiadau yn dod i rym ar 1 Medi. Byddwch yn cael rhagor o wybodaeth amdanynt dros y misoedd nesaf. 

Gwybodaeth bwysig:

Os ydych yn bwriadu ymgeisio erbyn y dyddiad cau dydd Mercher 20 Awst 2025 am grant mawr Creu:

  • dechreuwch eich cais cyn dydd Gwener 1 Awst 2025 – sef y dyddiad olaf i ddechrau unrhyw gais newydd 

Byddwn yn cysylltu eto cyn i'r gronfa Creu gau.