Rydym yn cymryd agwedd strategol, gynhwysol a chydweithredol at ein gwaith ym maes y celfyddydau ac iechyd yng Nghymru er budd pawb - cleifion, cymunedau, artistiaid a staff iechyd a gofal.
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein gwaith yn amrywiol a chynhwysol a bod y bobl fwyaf ymylol a bregus yn ein cymunedau yn profi manteision cymryd rhan yn y celfyddydau creadigol.
Mae ein dull strategol o weithio gyda'r GIG wedi cael ei gydnabod fel model o’r arfer orau gan Sefydliad Baring yn ei adroddiad Creatively Minded and the NHS. Cafodd ein dull o ddefnyddio'r celfyddydau i wella iechyd y cyhoedd, gan gynnwys ein partneriaeth â Chydffederasiwn GIG Cymru, ei gydnabod hefyd yng nghylchgrawn y Lancet am y celfyddydau ym maes polisi iechyd cyhoeddus: cynnydd a chyfleoedd.
Mae ein dull o gefnogi datblygiad y celfyddydau ac iechyd yng Nghymru wedi'i adeiladu ar y canlynol:
- Partneriaethau - Roedd gweithio mewn partneriaeth â Chydffederasiwn GIG Cymru yn 2018 yn garreg filltir dyngedfennol i ddatblygiad y celfyddydau ac iechyd yng Nghymru. Rydym wastad yn gweithio gyda'n partneriaid ym maes y celfyddydau ac iechyd, yn aml drwy Rwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru. Mae'r partneriaethau hyn yn ffynnu ar gyd-gynhyrchu, cydweithio a chyd-berchnogaeth. Rydym yn gweithio ar ein cyd-flaenoriaethau gan feithrin y gallu i gyflwyno a gwreiddio'r celfyddydau a chreadigrwydd yn ein systemau iechyd a gofal.
- Cysylltu â'r system iechyd bresennol - Er mwyn i'r celfyddydau ac iechyd ffynnu a thrawsnewid bywydau, mae'n rhaid i ni weithio gyda system bresennol y GIG a gofal cymdeithasol ac oddi mewn iddi. Mae ennill cefnogaeth staff iechyd a gofal cymdeithasol ar bob lefel, drwy ddefnyddio tystiolaeth o effaith ac ymateb i anghenion a heriau iechyd, yn hanfodol i ysgogi newid positif. (Rhaglen Meithrin Gallu, Cwtsh)
- Adeiladu seilwaith cenedlaethol cydlynus i’r Celfyddydau ac Iechyd Rydym yn cyd-ariannu swydd cydlynydd y Celfyddydau ac Iechyd ym mhob bwrdd iechyd gyda chorff cefnogi cryf a bywiog o’r sector sef Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru. Rydym yn creu cyfleoedd i gydweithio ar raglenni cenedlaethol sy'n cefnogi ein cyd-flaenoriaethau fel y Celfyddydau a’r Meddwl [LINK] a'r Cwtsh Creadigol.
- Codi ymwybyddiaeth
Rydym wedi ymrwymo i amlygu arferion gwych ac i rannu llwyddiannau gyda’n cynulleidfaoedd, er mwyn parhau i godi ymwybyddiaeth o fanteision iechyd a lles y celfyddydau. - Datblygu diwylliant o ddysgu Rydym yn annog arloesedd a chreadigrwydd a rhannu arferion gorau a’r hyn a ddysgwyd ar draws y sector a thu hwnt, gan gynnwys drwy astudiaethau achos, hwyluso dysgu a hyfforddi gan gymheiriaid, buddsoddi mewn gwerthuso a dysgu ac ymchwil barhaus.
- Hwyluso deialog genedlaethol am y celfyddydau ac iechyd
Rydym yn cyfrannu at sgyrsiau am bolisi cenedlaethol perthnasol, gan gynnwys drwy ein gwaith fel Ysgrifenyddiaeth Grŵp Trawsbleidiol Cymru ar y Celfyddydau ac Iechyd.