Mae arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer y Celfyddydau, Iechyd a Lles yn cefnogi partneriaethau o bob rhan o'r celfyddydau, iechyd, gofal cymdeithasol a'r trydydd sector i ddarparu prosiectau creadigol o ansawdd uchel sy'n rhoi buddion iechyd a lles i bobl Cymru.
Dysgwch fwy fan hyn.
Beth rydym wedi'i ariannu?
Isod, dyma rai o'r prosiectau celfyddydol ac iechyd rydym yn eu hariannu.
Samba sPARKY
Mae pobl sy'n byw gyda diagnosis o glefyd Parkinson yn profi llawenydd a buddion lles diwylliant Samba drwy bartneriaeth beilot rhwng Clefyd Parkinson y DU a Baracwda Samba. Darllenwch fwy.
Cydnerthedd creadigol
Gan adeiladu ar y llwyddiant blaenorol gyda chleifion mewnol sy'n profi salwch meddwl, nod y bartneriaeth rhwng Gofal Celf, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Gweithredu dros Iechyd Meddwl Gorllewin Cymru yw cynnig offer creadigol iddyn nhw sy’n helpu i feithrin gwell lles a chydnerthedd.
Dawnsio i Iechyd
Mae atal cwympiadau ymhlith pobl hŷn yn flaenoriaeth i fyrddau iechyd Cymru. Llwyddodd rhaglen Aesop, Dawns i Iechyd, i ddefnyddio dawns greadigol i fynd i'r afael â chwympiadau ac unigrwydd, drwy ei phartneriaeth pum mlynedd gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mwy fan hyn.
Rhaglen ddatblygu rhagnodi creadigol
Mae'r fenter gelfyddydol hon ar ragnodi aml-bartner, dan arweiniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd a gwella iechyd meddwl a lles cymunedau mewn ffordd gydlynol a chydgysylltiedig. Dysgwch fwy.
Llun: Samba sPARKY/ Barracwda Samba