Neuadd Dyfi yw’r neuadd gymunedol ym mhentref Aberdyfi, a chaiff ei rhedeg gan bwyllgor rheoli gwirfoddol.
Mae’r neuadd yn denu dros 100 o bobl leol i sioeau yn rheolaidd, yn amrywio o syrcas i theatr, opera, cerddoriaeth a dawns.
Des George yw hyrwyddwr y neuadd.
“Ledled Cymru, cannoedd o wirfoddolwyr yw’r curiad calon sy’n cynnal cynllun Noson Allan,” medd Peter Gregory, pennaeth Noson Allan.
“Nhw yw’r rhai sy’n gwneud y gwaith caled o drefnu digwyddiadau, gwerthu tocynnau, helpu’r perfformwyr ac wedyn darparu lluniaeth hanner amser. Yn y pen draw, maen nhw’n creu profiadau cofiadwy i bobl leol.”
Hyrwyddwyr Noson Allan
Yn ystod 2017 a 2018, fe wnaeth Noson Allan ariannu 511 o berfformiadau mewn cymunedau ledled Cymru. Cafodd y rhain eu trefnu gan 319 o wahanol grwpiau hyrwyddwyr, gan gynrychioli 349 o wahanol leoliadau a 3225 o wirfoddolwyr unigol, yn union fel Des.
“Mae Noson Allan yn wych am ei fod yn caniatáu i ni gael sioeau proffesiynol o’r safon uchaf fan hyn yn ein cymuned wledig, ac mae’n rhoi i ni a’r perfformwyr yr hyder i ‘gymryd risgiau’,” medd Des.
“Mae Noson Allan yn wych am ei fod yn caniatáu i ni gael sioeau proffesiynol o’r safon uchaf fan hyn yn ein cymuned wledig, ac mae’n rhoi i ni a’r perfformwyr yr hyder i ‘gymryd risgiau’.”
Mae Des wedi llwyfannu pob math o adloniant a pherfformwyr, o syrcas i opera, cerddoriaeth, theatr a dawns. Fis Awst y llynedd, llenwyd Neuadd Dyfi â 132 o bobl a oedd yno i fwynhau The Crow House gan Circo Rum Ba Ba.
"Mae’n siŵr mai Des George yw’r hyrwyddwr mwyaf brwdfrydig welsom ni erioed. Mae ganddo gymaint o egni ac ymrwymiad i wneud yn siŵr bod gofod y theatr yn gweithio i’r gymuned gyfan."