Mae prosiect Hyrwyddwyr Ifainc Noson Allan yn cael ei redeg wrth ochr cynllun Noson Allan, ac mae’n gweithio gyda grwpiau o blant a phobl ifanc i fynd â nhw drwy’r broses o drefnu digwyddiad i’w cymuned.   

Ers iddo gychwyn yn 2005, rydyn ni wedi ariannu mwy na 300 o brosiectau mewn ysgolion a grwpiau ieuenctid ledled Cymru, a hynny fynchaf mewn ardaloedd o amddifadedd cymdeithasol ac ardaloedd gwledig diarffordd. 

project infographic icon
300+
prosiect

Mae prosiect Hyrwyddwyr Ifainc yn cael ei gynnal dros gyfres o chwech o weithdai wythnosol, lle bydd y cyfranogwyr yn dysgu am y prosesau sy’n rhan o reoli digwyddiad

Ar noson y sioe, y plant sydd yn gyfrifol, yn rhedeg y swyddfa docynnau, hebrwng pobl i’w seddau a chyflwyno areithiau. Yn Ysgol Gynradd St James yng Nghaerffili, meddai Hyrwyddwraig Ifanc wyth oed fod y prosiect wedi gwneud iddi fod yn ‘llai swil a mwy hyderus'.

Gwnaeth y prosiect ychwanegu gwerth i’r cwricwlwm, a helpu’r plant i gymryd camau enfawr ymlaen o ran hyder, ysgogiad a sgiliau rhyngbersonol.

Mrs E Waite, Ysgol Gynradd Bryn Bach

Gall prosiectau Hyrwyddwyr Ifainc gael eu cynnal gyda grwpiau o unrhyw oedran ac unrhyw allu, ond maen nhw’n gweithio orau gyda blynyddoedd 5 neu 6 mewn ysgolion cynradd.