Ydych chi'n mwynhau siarad â phobl? Ydych chi'n teimlo’n angerddol neu â diddordeb yn y lles a ddaw i bawb drwy’r celfyddydau? Hoffech chi ennill ychydig o arian yn sgwrsio am Joon Dance gyda phobl yn eich cymuned?

 

Mae Joon Dance yn chwilio am ddau berson cymdeithasol, hyderus i'n helpu ni i gyrraedd cyfranwyr newydd a chynulleidfaoedd yn ein cymunedau. Trwy ei waith yn Sir Benfro a Chaerdydd, mae Joon yn cynnig sesiynau dawns a chyfleoedd perfformio creadigol, cynhwysol sy’n canolbwyntio ar y cyfranwyr. Rydym yn gweithio gyda gwaith byrfyfyr, y tirwedd a’r amgylchedd, gyda straeon a thechnegau symud a dawns mewn ffurf amrywiol i ddathlu ymdeimlad o’r corff, a’r creadigrwydd sydd gan pob un. Eleni rydym yn adrodd o’r newydd fersiwn beiddgar a chreadigol o Sinderela gydag agwedd ffeministaidd, niwtral o ran rhywedd, ac rydym yn awyddus i gyrraedd pobl newydd sy'n mwynhau - neu sy’ eisiau rhoi cynnig ar ddawns a symud - i ymuno â ni i greu sioe. Fel rhan o’n strategaeth ymgysylltu rydym yn chwilio am ddau berson, y naill a’r llall ar gyfer y ddau le, i gefnogi ein gwaith drwy siarad â phobl amdanom ni. Efallai eich bod eisoes yn nabod Joon, bod gennych ddiddordeb mewn dawns - neu efallai eich bod yn newydd i'r ddau. Beth bynnag, os ydy’r celfyddydau yn agos at eich calon a’ch bod chi’n agored i ddysgu am Joon, bydden ni wrth ein bodd cael clywed gennych. Bydd rhaid i chi fod yn hyderus wrth siarad â phobl - boed yn ffrindiau, cydnabod neu ddieithriaid - a bod yn hapus i genhadu dros Joon a'r gwaith rydyn ni'n ei wneud.

 

Cewch eich talu am 12 hanner diwrnod o waith dros 6 - 12 wythnos (oriau hyblyg) ac yn ystod y cyfnod hwnnw bydd gofyn i chi dreulio amser byr yn dysgu am ein cynlluniau a’n cynigion ac wedyn yn syml i ganfod ffyrdd i ddweud wrth gymaint o bobl â phosibl amdanon ni ac ym mha fodd y gallan nhw gymryd rhan. Byddwn yn eich helpu wrth gynllunio sut i wneud hyn a byddwn yn cadw mewn cysylltiad â chi drwy gydol y cyfnod gwaith. Rydym yn targedu cyfrannwyr 11+ oed yng Nghaerdydd, ac yn targedu cyfranwyr 6+ oed yn Sir Benfro. Rydym yn croesawu oedolion o bob oed. Rydym yn hapus iawn i addasu ein gwaith i anghenion y cyfranwyr ac yn croesawu pobl sy’n symud o bob allu. Rydym hefyd eisiau cyrraedd cynulleidfaoedd newydd ar gyfer ein sioeau i bob oedran.

 

Byddwch: (hanfodol)

- yn byw NAILL AI yng Nghaerdydd NEU Sir Benfro

- yn hyderus wrth siarad gyda grwpiau a/neu'n gyhoeddus 

- â chymhelliant i weithio'n hapus yn annibynnol

- â chysylltiadau da â’n cynulleidfaoedd targed: teuluoedd, pobl ifanc a/neu oedolion egnïol a allai fod â diddordeb mewn dawns, symud, celf, theatr, hunan fynegiant 

- ar gael ar gyfer 12 sesiwn gwaith hanner diwrnod rhwng canol Mai a chanol Awst 

 

Efallai eich bod: (ddim yn hanfodol)

- yn medru’r Gymraeg 

- eisoes yn gweithio neu’n ymwneud â grwpiau a allai fod yn debygol o ymuno

- yn brofiadol mewn marchnata neu waith maes/cysylltiadau

- â dawns yn agos at eich calon 

 

Tâl:

- £150 y sesiwn am hanner diwrnod o waith

- 12 sesiwn rhwng Mai-Awst i'w cwblhau erbyn Awst 11eg 

- yn cynnwys 2 gyfarfod gyda thîm Joon Dance a 10 sesiwn gwaith yn y gymuned, ar brydiau ochr yn ochr â'r tîm, ar brydiau yn annibynnol

- Amser gwaith hyblyg

 

I wneud cais, anfonwch eich enw llawn, lleoliad, rhif ffôn a fideo byr at joondancecompany@gmail.com gan ateb y cwestiynau canlynol (gallwch uwchlwytho i ddolen breifat youtube neu vimeo, anfon trwy wetransfer neu anfon e-bostio atom i ofyn am gysylltiad whatsapp.)

 

1. Cyflwynwch eich hun: gadewch i ni wybod beth yw eich enw, eich rhagenwau ac o ble rydych chi'n dod a/neu ble rydych chi wedi'ch lleoli ac unrhyw beth arall amdanoch chi'ch hun hoffech chi ei rannu gyda ni. 

2. Pam hoffech chi fod yn siaradwr cymunedol i Joon Dance? 

3. Pa sgiliau/profiadau sy'n eich gwneud chi'n addas i genhadu dros ein gwaith?

4. Sut allai eich cyfraniad ein helpu ni i gyrraedd cynulleidfaoedd/cyfranwyr newydd a/neu fwy amrywiol ar gyfer ein gwaith?

5. Sut allech chi fynd i'r afael â'r rôl hon? A oes gennych unrhyw gysylltiadau neu syniadau ar sut i'n cysylltu â chyfranwyr newydd? 

6. Ychydig am eich amserlen waith / argaeledd. 

 

Dyddiad cau: dychwelwch eich cais atom erbyn Mai 16eg fan bellaf

Dyddiad cau: 16/05/2025