Cefndir

Er 1997 rydym wedi dosbarthu dros £130 miliwn o arian y Loteri Genedlaethol i brosiectau cyfalaf ledled Cymru. Nid oes amheuaeth bod yr arian hwn wedi trawsnewid seilwaith celfyddydau Cymru, gan fod o fudd i weithwyr proffesiynol creadigol, sefydliadau celfyddydol a'r rhai sy'n mynychu ac yn cymryd rhan yn y celfyddydau fel ei gilydd.

Ein huchelgais ar gyfer ein Rhaglen Gyfalaf yw parhau i sicrhau bod y celfyddydau yng Nghymru yn gweld manteision mawr o fuddsoddiadau cyfalaf. Byddwn yn gwneud hyn drwy sicrhau bod gan sefydliadau celfyddydol yng Nghymru adeiladau a chyfarpar sy'n addas at y diben sy'n eu galluogi i gyflawni eu potensial a'u gwneud yn fwy gwydn. Byddwn yn rhoi blaenoriaeth benodol i sefydliadau sy'n rhan o Bortffolio Celfyddydau Cymru.

Mae'r mwyafrif o'n cyllideb cyfalaf bellach wedi'i ddyrannu ac nid ydym yn gallu derbyn ceisiadau am gyllid tuag at brosiectau cyfalaf mawr newydd. Mae hyn yn cynnwys mentrau celf gyhoeddus.

Os oes gennych brosiect yr ydym wedi bod yn ei ddatblygu gyda chi eisoes, gweler y canllawiau perthnasol isod i lywio'ch ffordd drwy ein proses ymgeisio tri cham.

Arian ar gyfer prosiectau bach

Mae gennym gronfa fach o arian cyfalaf ar gael i sefydliadau ymgeisio am gyfraniad tuag at brosiectau cyfalaf bach ac astudiaethau dichonoldeb. I wneud y defnydd llawnaf o’r arian, byddwn yn blaenoriaethu’r math yma o brosiectau:

  • Astudiaethau dichonoldeb. Rydym am i sefydliadau â syniad am brosiect cyfalaf ymchwilio i ba mor hyfyw ydyw. Felly, gallem gynnig eich cynorthwyo gyda hyd at 75% o gost yr astudiaeth ddichonoldeb. Darllenwch y canllawiau isod, yn enwedig y ddogfen - Rhaglen Gyfalaf y Loteri: Nodiadau Cymorth ar gyfer Gwneud Cais - sydd yn esbonio beth rydym am ei weld mewn unrhyw gais am astudiaeth dichonoldeb.  Welwch rydym yn cyfeirio at ein proses ymgeision 3 cham, mae hwn ar gyfer prosiectau rydym eisoes wedi gweithio gydag ers cychwyn ein 2012 strategaeth cyfalaf. Ar hyn o bryd nid oes gennym ddigon o arian i symud heibio'r cam dichonoldeb. Felly ein ffocws yw hwyluso adroddiad a strategaeth i sefydliadau i’w helpu gyda’u ceisiadau i gyrff ariannu eraill neu ar gyfer amser pan fyddwn mewn sefyllfa i gynnig arian cyfalaf mwy 

  • Grantiau bach i wella cyfleusterau a phrynu offer. Byddem yn ystyried pob math o gais sy’n unol â’n canllawiau, ond hoffem weld prosiectau a fydd yn gwella hygyrchedd eich gwaith neu'n lleihau ôl eich troed carbon a gwella eich cynaliadwyedd amgylcheddol

Nid oes dyddiad cau ymgeisio ond rhaid cysylltwch â'r tîm cyfalaf yn gyntaf gyda disgrifiad o'ch prosiect i drafod sut y bydd yn cyflawni ein blaenoriaethau a thrafod pryd i gyflwyno eich cais. Byddem yn disgwyl i'r rhan fwyaf o brosiectau ofyn am hyd at £30,000.

Cymorth

Os ydych yn ystyried ymgeisio i Raglen Gyfalaf y Loteri, cysylltwch â ni cyn gwneud cais.

Gallwch ebostio cyfalaf@celf.cymru am fwy o wybodaeth neu i gychwyn sgwrs am brosiect.

Adnoddau Artist06.02.2019

Strategaeth Cyfalaf 2012-17

Nodiadau cymorth gyda chyllid18.01.2022

Rhaglen Gyfalaf y Loteri- Canllaw Cyffredinol

Nodiadau cymorth gyda chyllid19.01.2022

Rhaglen Gyfalaf y Loteri: Nodiadau Cymorth ar gyfer Gwneud Cais

Nodiadau cymorth gyda chyllid19.01.2022

Rhaglen Gyfalaf y Loteri: Nodiadau Canllaw Ychwanegol, Prosiectau Cyfalaf Mawr

Nodiadau cymorth gyda chyllid20.01.2022

Templed Cyllideb Rhaglen Gyfalaf y Loteri