Mae’r Dirprwy Reolwr Sain a Chlyweledol yn gweithio fel rhan o’r teulu Creu Theatr yn Theatr Clwyd ac yn gweithio’n agos gyda’r Rheolwr Sain a Chlyweledol ym mhob maes Sain a Chlyweledol yn yr Adran Gynhyrchu, yn gysylltiedig ag ethos cwmni a gweledigaeth artistig Theatr Clwyd. Mae'r rôl yn gofyn am gyfrifoldeb personol, barn a blaengaredd, gyda lefel dda o wybodaeth am adnoddau sain a chlyweledol o fewn cyddestun creu theatr. Mae’r Dirprwy Reolwr Sain a Chlyweledol yn cefnogi’r Rheolwr Sain a Chlyweledol i weithio gyda thimau creadigol sy’n gweithio ar ein gwaith ni sy’n cael ei gynhyrchu, yn ogystal â chefnogi’r cwmnïau sy’n ymweld rydyn ni’n eu gwahodd i’n hadeilad. Gan weithio'n bennaf ym maes Sain a Chlyweledol, bydd y Dirprwy Reolwr Sain a Chlyweledol yn dangos gallu a pharodrwydd i weithio, o bryd i'w gilydd, ochr yn ochr â chydweithwyr mewn meysydd eraill o fewn y tîm, yn ogystal â dirprwyo ar gyfer y Rheolwr Sain a Chlyweledol lle bo hynny'n briodol.

Math o Gontract - Parhaol

Teulu - Creu Theatr

Arbenigedd tîm - LX, Sain a Chlyweldol

Oriau - 37 awr yr wythnos

Cyflog - £24,545 - £27,514 (yn aros dyfarniad cyflog)

Gradd cyflog - OP4

Yn atebol i - Rheolwr Sain a Chlyweledol

Yn gyfrifol am - N/A

Dyddiad cau: 22/03/2024