Ni yw Canolfan Mileniwm Cymru. Tanwydd i’r dychymyg
Teitl y Rôl:2 x Cynorthwy-ydd Manwerthu (1 Llawn Amser, 1 Rhan Amser) a 4 swydd achlysurol
Cyflog:
Oriau Gwaith: Llawn Amser - 35 awr yr wythnos /Rhan Amser - 20 awr yr wythnos /Achlysurol
Math o Gytundeb: Llawn Amser a Rhan Amser – Parhaol + 4 cytundeb achlysurol
Dyddiad Cau: 15 Mai 2025
Dyddiad Cyfweld: 20 a 21 Mai 2025
Mae CMC yn gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, ac yn grochan o greadigrwydd i’r genedl. Rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy guradu cynyrchiadau teithiol arobryn o’r radd flaenaf – o sioeau cerdd i gomedi a dawns, cabaret a gŵyl ryngwladol. Rydyn ni’n meithrin doniau newydd gyda’n gweithiau ffres, pryfoclyd a phoblogaidd, wedi eu gwreiddio yn niwylliant ein gwlad. Ac rydyn ni’n ennyn angerdd pobl ifanc dros y celfyddydau, gan roi iddynt gyfleoedd dysgu sy’n newid eu bywydau ac yn rhoi cyfle iddynt ddisgleirio.
Amdanom Ni/Ein Hadran
Mae gennym gyfle newydd cyffrous ar gyfer Cynorthwywyr Manwerthu profiadol i ymuno â'n tîm gweithrediadau cwsmeriaid.
Fel tîm, rydym newydd gwblhau ein blwyddyn fwyaf cyffrous hyd yma, gan lansio cinio Gala flaenllaw ar gyfer pen-blwydd CMC yn 20 oed, ynghyd â dathliad pen-blwydd cyntaf Ffwrnais, ein gofod newydd sbon. Wrth i ni gyrraedd ei 21ain blwyddyn, mae gennym gynlluniau cyffrous sy’n cynnwys lansio siop manwerthu newydd a fydd yn ganolbwynt manwerthu Bae Caerdydd yn Haf 2025.
Ynglŷn â’r Rôl a’r Cyfrifoldebau
Fel rhan o’n tîm manwerthu byddwch yn gyfrifol am agor siop newydd sbon, a fydd yn gartref i'r cynnyrch a gynhyrchir gan CMC ynghyd â gwaith gwneuthurwyr lleol. Byddwch yn cefnogi gyda gwasanaethau cwsmeriaid a gwerthu nwyddau’r siop, yn ogystal â dewis eich tîm eich hun i yrru'r siop yn ei blaen i fod yn gyrchfan ynddi ei hun. Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â busnes sy'n ehangu, gyda chynlluniau a chyfleoedd ar gyfer y dyfodol a fydd yn newid bywydau. Gall eich rôl fod yn amodol ar wiriad DBS.
Beth Sydd Ynddo i Chi?
- 25 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc, yn seiliedig ar wythnos 35 awr, pro rata ar gyfer rhan amser.
- Cynllun pensiwn sy’n uwch na’r statudol
- Gwell absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu, a rhiant a rennir (yn amodol ar hyd gwasanaeth)
- Cynllun arian iechyd: derbyn arian tuag at ofal deintyddol ac optegol, triniaethau cyflenwol megis triniaethau ceiropracteg, osteopathig ac aciwbigo
- Aelodaeth Cymorth Feddygol sy'n cynnwys mynediad o bell at Feddyg Teulu, cwnsela, a sesiynau ffisiotherapi
- Rhaglenni cymorth i weithwyr sy'n cynnwys mynediad at wasanaethau cymorth ar gyfer pryderon cyfreithiol, ariannol a theuluol
- Yswiriant bywyd o 4 x cyflog blynyddol
- Cyfle i wneud cais am docynnau ar gyfer cynyrchiadau
- CLWB – ein grŵp cymdeithasol ar gyfer cyflogeion
- NEWID – ein grŵp rhwydweithio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant sydd yn cwrdd yn fisol i drafod syniadau newydd a chyfleoedd hyfforddi i wella pob agwedd ar gyflogaeth yn y Ganolfan
- Gwersi Cymraeg am ddim ar lein
- Parcio am £5 am ddiwrnod cyfan ar ddiwrnodau gwaith a phan nad ydych yn gweithio.
Yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, mae ein hymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant yn mynd y tu hwnt i eiriau; mae’n agwedd sylfaenol sy’n llywio ein gweithredoedd. Gan gadw at yr egwyddorion a amlinellir yn Adran 158 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, rydym yn mynd ati’n frwd i gymryd camau positif yn ein prosesau recriwtio a dethol. Gan gydnabod y diffyg cynrychiolaeth o grwpiau penodol o fewn ein gweithlu, yn enwedig unigolion ag anableddau a’r rheini o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig amrywiol, rydym wedi rhoi mesurau rhagweithiol ar waith i fynd i’r afael â’r gwahaniaeth hwn.
Trwy ein hymagwedd gweithredu positif, bydd ymgeiswyr ar gyfer y rolau a hysbysebir gennym, sydd o'r grwpiau hynny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ac sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol a nodir yn y proffil rôl, yn cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad. Mae ein hymrwymiad yn ymestyn y tu hwnt i fodloni rhwymedigaethau cyfreithiol. Ein nod yw meithrin gweithle sy'n wir croesawu amrywiaeth gyfoethog ein cymdeithas hollgynhwysol.