Mae Ffotogallery, asiantaeth genedlaethol Cymru ar gyfer ffotograffiaeth, yn chwilio am Gadeirydd – neu Gyd-Gadeiryddion – i arwain ei Fwrdd, yn ogystal ag Ymddiriedolwyr, sy’n ymroddedig i lwyddiant hirdymor y sefydliad.

Rydym yn chwilio am bobl a fydd yn dod â’u sgiliau, angerdd a phrofiadau unigryw eu hunain i sefydliad celfyddydau gweledol blaenllaw yng Nghymru a thrwy wneud hynny, ein helpu i ehangu’r ystod o safbwyntiau a chyngor sydd ar gael i’r sefydliad.

Mae ymrwymiadau amser yn amrywio yn dibynnu ar y rôl. Mae pob rôl Ymddiriedolwyr yn ddi-dâl, er y gellir talu costau mynychu cyfarfodydd. A allai hwn fod i chi?
 

Dyddiad cau: 30/05/2025