Blaenoriaethau drafft ar gyfer Diwylliant
Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar Flaenoriaethau drafft ar gyfer Diwylliant. Mae’n bwysig ein bod yn clywed gan holl gymunedau Cymru a gan ein holl randdeiliaid, a dim ond ychydig dros fis sydd ar ôl i chi roi eich barn.
Gallwch ymateb ar-lein, gan ddefnyddio’r botwm ymateb sydd i’w weld ar y dudalen we isod:
Blaenoriaethau Drafft ar gyfer Diwylliant yng Nghymru 2024 i 2030 | LLYW.CYMRU
Gallwch hefyd lawrlwytho ac argraffu’r dogfennau ymateb sydd ar y wefan a’u postio at:
Ymgynghoriad Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant 2024
Is-adran Diwylliant
Llywodraeth Cymru
Sarn Mynach
Cyffordd Llandudno
Conwy LL31 9RZ
Neu gallwch ebostio gyda’ch sylwadau. Defnyddiwch y cyfeiriad e-bost: Diwylliant@llyw.cymru a nodwch ‘Ymgynghoriad ar Strategaeth Diwyllaint 2024’ fel teitl eich e-bost.
Rydym yn awyddus i glywed gennych cyn i ni symud ymlaen i greu fersiwn terfynol o’r Blaenoriaethau. Ydyn ni wedi llwyddo i greu strategaeth sy’n gweithio i bawb? Rhannwch eich barn ar y Blaenoriaethau a’r Uchelgeisiau sy’n ymddangos yn y ddogfen drafft.
Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 4 Medi 2024.