Llawn amser, 37 awr yr wythnos
Cytundeb parhaol
Gradd C: Graddfa Cyflog - £34,561 - £39,927 (yn ddibynnol ar brofiad)
Lleoliad: Gellir lleoli’r rôl hon yn unrhyw un o swyddfeydd Cyngor Celfyddydau Cymru (Bae Caerdydd, Caerfyrddin, Bae Colwyn). Ar hyn o bryd rydym yn gweithio mewn ffordd hybrid.
Mae ein buddion yn cynnwys 30 diwrnod o wyliau blynyddol, 2.5 diwrnod braint, oriau/patrwm gweithio hyblyg, , cynllun beicio i'r gwaith a phensiwn cyflog terfynol (6%).
Am y rôl
Rydym yn chwilio am Swyddog Rheoli Prosiect medrus a brwdfrydig iawn a fydd yn gyfrifol am gynllunio ac amserlennu, monitro ac adrodd ar ystod eang o brosiectau mewnol. Mae hon yn rôl newydd i Gyngor Celfyddydau Cymru, ac rydym yn chwilio am rywun a fydd yn ategu ein tîm presennol ac yn helpu i ysgogi eglurder, effeithlonrwydd a pherchnogaeth ar ein gwaith prosiect.
Amdanoch chi
Byddwch yn gallu goruchwylio nifer o brosiectau o gymhlethdod amrywiol, a dylech fod yn drefnus gyda sgiliau cyfathrebu, rheoli amser a rheoli pobl. Bydd gennych brofiad o gefnogi a grymuso cydweithwyr i gyflawni eu prosiectau o fewn strwythur ein trefniadau llywodraethu.
Bydd gennych sgiliau adrodd rhagorol, gan allu darparu adroddiadau cryno, perthnasol ac amserol i'r rheolwyr a'r Tîm Arweinyddiaeth Gweithredol. Mae'r rôl hon yn gofyn am ddealltwriaeth gref o ddadansoddi busnes i gasglu gofynion yn effeithiol, dadansoddi data, a darparu mewnwelediadau ymarferol.
Bydd gennych ardystiad Ymarferydd PRINCE2 neu gymhwyster cyfatebol a phrofiad profedig o gymhwyso methodolegau perthnasol o fewn rheoli prosiectau.
Yr Iaith Gymraeg
Rydym yn gweithio yn Gymraeg a Saesneg. Mae rhuglder yn y Gymraeg (yn ysgrifenedig ac ar lafar) yn ddymunol ond nid yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Ar ôl cael eich penodi gallwn eich cefnogi chi i ddysgu, datblygu a gwella’ch sgiliau iaith ymhellach ac i gynyddu eich hyder wrth siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg.
Amrywiaeth a chynhwysiant
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr cynhwysol, a dymunwn adlewyrchu’r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae ceisiadau gan bobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu hannog a’u croesawu’n gynnes. Croesewir ceisiadau yng Nghymraeg neu Saesneg a byddwn yn gohebu â chi yn eich dewis iaith. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Ein nod yw cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei ddewis ar gyfer swyddi yn ôl eu haddasrwydd ar gyfer y rôl yn unig.
Bydd y Cyngor Celfyddydau yn darparu cefnogaeth i sicrhau eich bod yn teimlo’n gyffyrddus yn ymuno â’r sefydliad, y math a all fod yn newydd neu’n anghyfarwydd i chi, fel y gallwch deimlo’ch gorau yn y gwaith. Bydd mentora neu hyfforddiant hefyd yn cael ei ddarparu yn ystod y cyfnod ymsefydlu, os bydd angen
Cynllun Hyderus o ran Anabledd
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd, sy'n ymroddedig i gyfweld pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r holl feini prawf hanfodol a nodir yn y fanyleb person.
Cyfeiriwch at ddolen Cynllun Cyflogwr hyderus o ran anabledd Gov.uk am ragor o fanylion.
Sut i ymgeisio
Cyflwynwch Ffurflen Gais a Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant mewn fformat Word i AD@celf.cymru. Os hoffech chi gyflwyno’ch cais mewn fformat arall, fel nodyn llais, fideo neu fideo Iaith Arwyddion Prydain, cysylltwch â ni yn gyntaf os gwelwch yn dda.
Dyddiad cau: 5yh, Dydd Llun 9fed Mehefin 2025
Cyfweliadau: Wythnos 23ain – 27ain Mehefin 2025
Gweithio hyblyg
Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol byddwn hefyd yn ystyried cynigion ar gyfer trefniadau gweithio hyblyg neu rannu swydd.
Nodwch yn glir yn eich cynnig ar gyfer unrhyw beth heblaw gweithio’r oriau a hysbysebwyd yn eich e-bost eglurhaol wrth gyflwyno’ch cais.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr cynhwysol, a dymunwn adlewyrchu’r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae ceisiadau gan bobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu hannog a’u croesawu’n gynnes. Croesewir ceisiadau yng Nghymraeg neu Saesneg a byddwn yn gohebu â chi yn eich dewis iaith. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Ein nod yw cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei ddewis ar gyfer swyddi yn ôl eu haddasrwydd ar gyfer y rôl yn unig.