Rydym wedi bod yn llwyddiannus yn ennill cyllid ar gyfer *swyddog cyllid a gweinyddu* yr hoffem ni weld yn cefnogi gwasanaethau ariannol a gweinyddol, gan weithio’n agos gyda’r Rheolwr Prosiect a’r Ymddiriedolwyr. Rydym yn gyffrous i allu cynnig y rôl hon a hoffem weithio gyda’r person yma er mwyn datblygu hyn wrth i’r elusen dyfu.
Oriau, Ffïoedd a Lleoliad
- Cytundeb hunangyflogedig dros 12 mis.
- £200 y diwrnod, 36 diwrnod, tua 3 diwrnod y mis.
- Gall y rôl hon gael ei chyflawni o unrhyw le yn y DU a gellir ei chyflawni’n hyblyg, o gartref.
Sut i Wneud Cais
Anfonwch os gwelwch yn dda:
- CV cyfredol
- llythyr cais, heb fod yn hirach nag 1 ochr A4
at Becca May Collins, Rheolwr Prosiect Inside Out: engage@inside-out-cymru.org
Ein nod yw bod y broses yn un gyfeillgar. Os ydych chi am drafod ein gwaith, y swydd a’ch cais, ac os ydych angen unrhyw addasiad neu gefnogaeth, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda Becca, fydd yn hapus i siarad â chi: engage@inside-out-cymru.org. Gallwch hefyd gysylltu â ni drwy’r cyfryngau cymdeithasol.
Dyddiad cau: Dydd Sul 16 Chwefror 2025
Cyfweliadau dros Zoom: wythnos yn dechrau 24 Chwefror 2025 neu wythnos yn dechrau 03 Mawrth 2025.
Penodi: dechrau mis Ebrill 2025.
Inside Out Cymru
Mae Inside Out Cymru yn elusen sy’n tyfu sydd wedi’i lleoli yn ne Cymru, ac sy’n arbenigo mewn defnyddio ymyriadau creadigol er mwyn rhoi hwb i iechyd meddwl a lles a’u cynnal ar draws ein cymunedau lleol. Rydym yn bodoli er mwyn annog lles positif, drwy weithdai celfyddydau, digwyddiadau, cyd-greu a gweithgareddau eraill a gynhelir o fewn cymunedau, ac mewn lleoliadau clinigol a phreswyl. Rydym yn rhoi pobl ynghanol yr hyn rydym ni’n ei wneud ac rydym yn cael ein harwain gan gyfranogwyr.