Rydyn ni’n chwilio am berson i ymuno â’n tîm Cyllid, i weithio ochr yn ochr â’r Swyddog Cyllid cyfredol a chefnogi’r Rheolwr Cyllid yn y dasg o ymdrin â holl anghenion cyfrifyddu yr elusen.

Ffeithiau allweddol am y swydd

Teitl y swydd: Swyddog Cyllid

Yn atebol i’r: Rheolwr Cyllid

Math o gytundeb: Parhaol

Oriau: Rhagwelir y bydd y swydd yn golygu 40 awr (amser llawn), ond byddem hefyd yn croesawu ceisiadau am 32 awr (yn gyfwerth ag 0.8 amser llawn), yn cynnwys toriadau am egwyl.

Cyflog: £29,757 y flwyddyn, pro rata

Dyddiad cau: 29/11/2024