Rydyn ni’n chwilio am berson sydd ag angerdd am gerddoriaeth a chymuned sy'n awyddus i wneud gwahaniaeth yng Nghymuned Casnewydd.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rheolwr prosiectau a phartneriaethau trefnus a manwl. Bydd yn gyfathrebwr da, ac yn fedrus wrth ddatblygu perthnasoedd, cyllidebu a chynllunio digwyddiadau.
Bydd y Rheolwr Prosiect yn atebol i'r Cynhyrchydd Gweithredol a bydd hefyd yn adrodd i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr.
Disgrifiad Rôl
Contract: Contract tymor penodol Mehefin 2025 - Mehefin 2026
Cyflog: tua £28,000 y flwyddyn (Cyfwerth ag amser llawn)
Oriau: 21 awr yr wythnos
Lleoliad: Swyddfa Operasonic yng Nghasnewydd a lleoliadau cymunedol lleol
Sut i wneud cais
Darllenwch y disgrifiad o’r rôl a manyleb y person isod ac anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol yn dweud wrthyn ni bod y rôl o ddiddordeb i chi a sut mae eich sgiliau a'ch profiad yn cyd-fynd â'r rôl. Anfonwch bopeth i danielle@operasonic.co.uk
Fel dewis arall yn lle llythyr eglurhaol, gallwch ddweud wrthyn ni am eich sgiliau a'ch profiad mewn fideo byr (dim mwy na thri munud). Rydyn ni’n awgrymu eich bod yn defnyddio We Transfer i anfon y fideo i wneud yn siŵr bod y fideo yn cyrraedd.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw Dydd Llun 2ail Mehefin
Byddwch yn cael gwybod os ydych wedi cael eich gwahodd am gyfweliad erbyn dydd Gwener 6ed o Fehefin. Caiff cyfweliadau eu cynnal ddydd Gwener 13eg o Fehefin
Os oes gennych unrhyw ofynion arbennig eraill i’ch galluogi i wneud cais am y rôl hon, rhowch wybod i ni drwy anfon e-bost i danielle@operasonic.co.uk