Dyddiad cau: 6pm ddydd Mercher, 19 Mawrth 2025
Dyddiad dechrau yn y swydd: cyn gynted â phosibl
Oriau: Amser llawn, amserlen waith hyblyg
Lleoliad: gartref, gweithio o bell, unrhyw le yn y DU
Cyflog: £30–35,000 yn ddibynnol ar brofiad
Yn adrodd i: Y Cyfarwyddwr, Little Wander
Cyfweliadau: byddan nhw’n cael eu cynnal o bell ddydd Mawrth, 1 Ebrill 2025, a dydd Mercher, 2 Ebrill 2025
Mae Little Wander yn gwmni cynhyrchu comedi sy’n creu gwyliau, teithiau, digwyddiadau byw, teledu, radio a phodlediadau. Bydd y swydd hon yn gofyn i chi ddyfeisio a chyflwyno ymgyrchoedd marchnata strategol ar draws ein portffolio o waith, a hynny gyda chymorth y Cynorthwyydd Gweinyddol a Marchnata a'r Cydlynydd Cynhyrchu. Dylai ymgeiswyr fod yn chwilio am swydd sy’n cynnwys llawer o dasgau gweinyddol yn ogystal â rhai creadigol. Mae’n gwmni eithriadol o brysur, felly dylai ymgeiswyr fod yn barod ar gyfer amrywiaeth enfawr o gyfrifoldebau ar draws pob adran a meddu ar y gallu i ail-flaenoriaethu gwaith yn rheolaidd.
Gan fod holl aelodau'r tîm yn gweithio o bell, mae cyfathrebu gonest ac agwedd ragweithiol heb ficroreoli yn hanfodol.
Prif gyfrifoldebau:
- Dyfeisio a rheoli cyllideb a strategaeth farchnata ar gyfer prosiectau byw, teledu a sain
- Cysylltu â'r tîm ynghylch yr hyn sydd angen ei hyrwyddo a rheoli'r calendr marchnata
- Gweithio gyda lleoliadau ac artistiaid i hyrwyddo sioeau a gwerthu tocynnau
- Creu asedau cyfryngau cymdeithasol, posteri, clipiau sain capsiwn a golygu fideo sylfaenol
- Goruchwylio cyfrifon gwahanol gyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys creu cynnwys, ymgysylltu ac amserlennu postiadau rheolaidd gyda naws neilltuedig (assigned)
- Trefnu a monitro hysbysebion ar y cyfryngau cymdeithasol sydd wedi'u targedu
- Diweddaru gwefan y cwmni
- Ysgrifennu datganiadau i'r wasg a chopi gyda naws neilltuedig
- Trefnu argraffu a dosbarthu
- Optimeiddio rhestr bostio'r cwmni
- Sicrhau bod yr holl allbwn yn hygyrch, gan gynnwys capsiynau, maint y ffont, lliwiau ac iaith
Profiad hanfodol:
- 3 blynedd neu ragor mewn rôl farchnata o fewn sefydliad celfyddydol
- Dirprwyo tasgau i gyd-weithwyr a goruchwylio eu cwblhau
- Gweithio ar draws sawl prosiect ar yr un pryd
- Gweithio o bell fel rhan o dîm
- Profiad helaeth o ddyfeisio a gweithredu strategaethau marchnata ar draws ystod o brosiectau a chyllidebau, gan gynnwys byw a sain
- Hyfedredd mewn meddalwedd Adobe Creative Suite, Canva a golygu fideo (darperir cyfrifon)
- Gwybodaeth am derminoleg marchnata digidol a dehongli dadansoddeg (analytics)
- Ymrwymiad i wneud cynnwys yn hygyrch
- Diddordeb mewn comedi
Manyleb y person:
- Greddfau (instincts) marchnata eithriadol, creadigrwydd ac arloesedd
- Gwydnwch i reoli llwyth gwaith anhrefnus sy'n newid yn barhaus
- Sgiliau trefnu ac effeithlonrwydd rhagorol i weithio ar draws gwahanol adrannau prysur
- Hyder i ofyn am help neu ddirprwyo yn ôl yr angen
- Sylw manwl i fanylion
- Yn ddibynadwy wrth weithio'n annibynnol ac o bell i gymryd perchnogaeth o ofynion marchnata'r cwmni
Dymunol ond ddim yn hanfodol:
- Profiad gyda Mail Chimp a Ticketsolve
- Profiad o weithio gyda pherfformwyr
- Gwybodaeth am y diwydiant comedi
- O Gymru a/neu yn byw yng Nghymru a/neu yn siaradwr Cymraeg
Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bawb, yn enwedig y rhai sy’n nodi eu bod yn BIPOC a/neu’n aelodau o’r mwyafrif byd-eang a/neu’n anabl a/neu rywedd sy’n cael ei dangynrychioli a/neu sydd wedi’u difreinio’n economaidd a/neu fel aelod o unrhyw gymuned arall nad yw’n cael ei hystyried digon.
Proses ymgeisio:
Gwahoddir ymgeiswyr ar y rhestr hir i gwblhau rhai tasgau damcaniaethol er mwyn rhoi cyfle i'r ddwy ochr weld a yw'r swydd yn gweddu. Ddylai'r rhain ddim cymryd mwy na 30 munud a fydd atebion ddim yn cael eu defnyddio y tu allan i'r broses ymgeisio. Bydd rhestr hir yn cael ei chreu ddydd Gwener, 21 Mawrth. Y dyddiad cau i ddychwelyd y tasgau yw 9am ddydd Iau, 27 Mawrth.
Ddydd Iau, 27 Mawrth, bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd i gyfweliad naill ai ddydd Mawrth, 1 Ebrill 2025, neu ddydd Mercher, 2 Ebrill 2025.
Anfonwch e-bost at jo@littlewander.co.uk gydag unrhyw gwestiynau neu gyda llythyr eglurhaol byr a CV i wneud cais. Croesewir ceisiadau ar ffurf fideo hefyd.