Mae hon yn rôl amrywiol a chyffrous i Reolwr Lleoliad deinamig, uchelgeisiol a phrofiadol addas i adeiladu ar ein llwyddiannau yn y gorffennol, gan sicrhau datblygiad parhaus ar draws ystod o ddigwyddiadau, prosiectau a mentrau.
Byddwch yn gyfrifol am reoli'r lleoliad ac arwain tîm ymroddedig yn ei weithrediadau, marchnata, digwyddiadau, trosolwg ariannol a chydymffurfiaeth.
Mae'r disgrifiad swydd llawn, a manylion am sut i wneud cais, i'w gweld ar ein gwefan trwy'r ddolen.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 24 Ionawr am 5pm.
Cyfweliadau i'w cynnal yr wythnos yn dechrau 27 Ionawr yn HaverHub.
Dyddiad cau: 24/01/2025