Rydym yn recriwtio Rheolwr Datblygu Artistiaid rhan amser, parhaol i ymuno â’n tîm staff bach ond deinamig.
Bydd derbyn swydd Rheolwr Datblygu Artistiaid yn Nhŷ Cerdd yn rhoi’r cyfle i chi gysylltu’n uniongyrchol ag artistiaid ac i ffurfio gwaith ein sefydliad, sef sefydliad sy’n cael cyllid yn rheolaidd – yn ogystal â chwarae rhan weithredol yn y sector cerddoriaeth Gymreig yn ehangach.
Gan weithio yn rhan o dîm arbenigol, bydd gennych gysylltiad uniongyrchol ag artistiaid a sefydliadau o bob rhan o Gymru a thu hwnt – gan gynnwys cyfleoedd i gynrychioli’r sefydliad, yn enwedig ymhlith Rhwydwaith Datblygu Talent Sefydliad y PRS ledled y DU.
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi datblygiad aelodau ein staff, ac yn awyddus i ddarparu hyfforddiant a chyfleoedd i ddatblygu sgiliau newydd, ehangu gorwelion a rhannu dysgu gydag eraill ac oddi wrth eraill.
Darllenwch mwy: JOB: Artist Development Manager 29.07.24 (tycerdd.org)
Dyddiad cau: 1200 canol dydd, Dydd Llun 29 Gorffennaf