Rhaglen Arweinyddiaeth Newid Diwylliant | Culture Change
Ydych chi'n weithiwr proffesiynol o'r Mwyafrif Byd-eang ar ddechrau eich gyrfa sy'n gweithio yn sector diwylliannol Cymru? Ydych chi’n barod i ddatblygu eich potensial i arwain a sbarduno newid cadarnhaol yn y diwydiant?
Rhaglen Arweinyddiaeth Newid Diwylliant | Culture Change yw eich cyfle i ddatblygu'r sgiliau, yr hyder a'r cysylltiadau sydd eu hangen arnoch i ddod yn ysgogwr newid yn y sector diwylliannol.
Ar gyfer pwy mae’r rhaglen hon?
Mae Rhaglen Arweinyddiaeth Newid Diwylliant | Culture Change wedi'i chynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol o'r Mwyafrif Byd-eang sy'n gweithio yn y sector diwylliannol yng Nghymru ac sydd ar ddechrau eu gyrfa. Mae'n berffaith i'r rhai sydd â rhywfaint o brofiad o reoli prosiectau neu dimau ac sy'n awyddus i gamu i rolau arwain. P'un a ydych yn artist, cynhyrchydd, gweithiwr diwylliannol neu reolwr, mae'r rhaglen hon ar gyfer unrhyw un sy'n barod i ehangu eu dylanwad a chael effaith barhaol yn y sector.
Beth yw’r trefniadau?
Bydd y cwrs preswyl 5 diwrnod trochol hwn yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd rhwng 18 a 22 Tachwedd 2024.
Mae'r rhaglen yn cynnwys:
- Sesiynau rhyngweithiol ar arweinyddiaeth, newid diwylliannol, a rheoli prosiectau wedi'u teilwra i'r sector diwylliannol
- Siaradwyr gwadd yn rhannu eu profiadau a'u harbenigedd arweinyddiaeth bersonol
- Cyfleoedd rhwydweithio i gysylltu â chyfoedion ac arweinwyr diwydiant
- Gweithdai a thrafodaethau wedi'u cynllunio i feithrin cydweithredu, arloesi a meddwl strategol
Mae mwy o wybodaeth am y trefniadau, yn cynnwys yr hwylsuwyr, i'w weld yma
Dyddiadau ac Amseroedd
18-22 Tachwedd 2024. Mae hon yn rhaglen breswyl, a bydd yr holl gyfranogwyr yn ymgysylltu'n llawn ar draws y pum diwrnod hyn.
Ffioedd Rhaglen
Diolch i gyllid gan Gronfa Gwrth-hiliol Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon Cymru Llywodraeth Cymru, nid oes angen i gyfranogwyr dalu ffi i gymryd rhan yn y rhaglen hon.
Yn ogystal, rydym yn cydnabod y gallai rhai cyfranogwyr fod yn hunangyflogedig neu'n methu â mynychu yn ystod oriau gwaith. I gefnogi hyn, rydym yn cynnig ffi cyfranogiad o £500 i dalu am eich amser ar gyfer mynychu.
Llety a phrydau bwyd
Ar gyfer cyfranogwyr sy'n byw y tu allan i Gaerdydd, darperir llety a brecwast. Bydd cinio a rhai prydau gyda'r nos hefyd yn cael eu darparu ar gyfer y garfan gyfan drwy gydol y rhaglen.
Mynediad
Rydym wedi ymrwymo i wneud y rhaglen hon yn hygyrch i bawb. Byddwn yn gofyn am eich gofynion mynediad fel rhan o'r broses recriwtio. Gallai hyn gynnwys (ond nid yw'n gyfyngedig i):
- Pennawd lleferydd-i-destun byw
- Darparu neu gymorth ar gyfer costau dehongli BSL
- Tynnu nodiadau neu ddisgrifiad sain
Os hoffech drafod eich anghenion mynediad neu os oes angen cymorth arnoch gyda'r broses ymgeisio, mae croeso i chi gysylltu â ni yn newiddiwylliant@theatr.com.
Ydych chi’n gymwys i gymryd rhan?
Rydym yn chwilio am amrywiaeth o gyfranogwyr ar gyfer Rhaglen Arweinyddiaeth Newid Diwylliant | Culture Change, gyda'r nod o greu deinamig grŵp bywiog a chyfoethog. Er mwyn sicrhau ein bod yn denu unigolion a fydd yn gwella'r profiad dysgu ar y cyd, rydym yn chwilio am ymgeiswyr mwyafrif byd-eang sy'n bodloni'r meini prawf canlynol:
- Profiad: 2+ mlynedd o brofiad o weithio yn y sector diwylliannol – fel gweithiwr llawrydd neu wedi eich cyflogi - gan gynnwys rhywfaint o brofiad o gychwyn a/neu reoli prosiectau a thimau.
- Uchelgais Arweinyddiaeth: Uchelgais gref i arwain, ynghyd ag ymdeimlad clir o bwrpas a gweledigaeth ar gyfer eich dyfodol yn y maes diwylliannol.
- Awydd am Dwf: Diddordeb gwirioneddol mewn deall arweinyddiaeth yn well a gwella'ch sgiliau.
- Hunanymwybyddi.aeth: Sgiliau myfyriol ac yn agored i ddysgu o brofiadau ac adborth.
- Ymrwymiad i Ddiwylliant: Angerdd dwfn dros y sector diwylliannol ac ymrwymiad i sbarduno newid cadarnhaol ynddo.
- Chwilfrydedd: awydd i ddysgu am gyd-destun ehangach diwylliant a sut mae'n rhyngweithio a materion cymdeithasol amrywiol.
- Lleoliad: Yn gweithio yn y sector ddiwylliannol yng Nghymru ar hyn o bryd.
Os ydych yn bodloni'r meini prawf hyn ac yn awyddus i gychwyn ar daith drawsnewidiol o ddatblygu arweinyddiaeth, rydym yn eich annog i wneud cais am y Rhaglen Arweinyddiaeth.
Sut i ymgeisio?
Ewch i'n gwefan am fwy o wybodaeth am sut i ymgeisio: https://theatr.cymru/y-cwmni/swyddi-a-chyfleodd/rhaglen-arweinyddiaeth-newid-diwylliant-galwad-agored/
Ariennir Newid Diwylliant | Culture Change gan Lywodraseth Cymru trwy Gronfa Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon Cymru Wrth-hiliol. Am fwy o wybodaeth am y rhaglen gyfan, cliciwch yma.