Mae Forté Project yn parhau i gyflwyno ei fodel arloesol o ddatblygu talent sy’n cefnogi ac yn dathlu cerddorion ifanc yng Nghymru. Mi fydd y flwyddyn nesaf yn dathlu'r 10fed flwyddyn.
Mae Forté Project yn chwarae rhan annatod wrth lunio dyfodol newydd i’r celfyddydau yng Nghymru. Rydym yn parhau i ehangu ein darpariaeth, ein cyrhaeddiad, ein gweledigaeth a'n heffaith ar draws y wlad. Rydym yn defnyddio amryw o wybodaeth a sgiliau gan weithwyr proffesiynol amrywiol y diwydiant i gefnogi pobl ifanc a'u helpu i nodi llwybrau i ddilyn gyrfaoedd mewn cerddoriaeth.
Mae Prosiect Forté yn galluogi artistiaid i brofi eu gwir botensial yn ystod eu hamser ar y rhaglen, fel y gallant gyflwyno eu gwaith yn y ffordd orau posib a thyfu eu proffil i gynulleidfaoedd yng Nghymru a thu hwnt.
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i ymuno â'n panel recriwtio sydd â diddordeb gwirioneddol mewn llunio dyfodol y diwydiant cerddoriaeth. Rydym yn chwilio am unigolion sydd â phrofiad yn y diwydiant cerddoriaeth i sgorio nifer fach o geisiadau (dim mwy na 10) o'n rhestr hir i helpu i lunio ein rhestr fer. Yn anffodus ni allwn gynnig taliad am hyn oherwydd cyfyngiadau cyllidebol ond, cofiwch fod eich amser yn helpu i siapio dyfodol y diwydiant cerddoriaeth.
Os bod hyn yn swnio fel rhywbeth sydd o ddiddordeb i chi, yna llenwch y ffurflen gais.