Galwad am Artistiaid sydd yn gweithio gyda choed
Rydym yn gwahodd artistiaid sy'n gweithio gyda phren i ymgeisio am breswyliad 4 wythnos gyda chymhorthdal llawn gyda Chymdeithas Ddiwylliant Coed Mt Fuji yn Yamanashi, Japan tua diwedd 2025. Mae'r cyfnod preswyl hwn, sydd yn cael ei gyllido gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru, yn cynnig cyfle amhrisiadwy i unigolyn ymgolli mewn arferion a thraddodiadau gwaith coed Japaneaidd am fis, gan ddysgu a rhannu gwybodaeth, tra hefyd yn ymweld â gweithdai eraill a chyfarfod gwneuthurwyr offer traddodiadol.
Mae ethos Cymdeithas Ddiwylliant Coed Mt Fuji wedi'i osod o fewn pwysigrwydd diwylliant pren. Mae gan y gymdeithas arddangosfa gyhoeddus o gasgliadau o gadeiriau ac eitemau eraill ac mae'n darparu canllawiau technegol a phrofiad ymarferol mewn gwaith coed a thrwy wneud hynny mae'n cyfrannu at wella bywyd diwylliannol dinasyddion, cadwraeth yr amgylchedd naturiol a magwraeth gadarn plant.
CEFNDIR
Ym mis Medi 2024, ymgymerodd Plas Glyn-y-Weddw ym Mhen Llŷn ar brosiect ar y cyd gyda’r artist o Japan, Junko Mori a’i phartner, yr artist Cymreig sy’n gweithio gyda phren John Egan, i gyflwyno Symposiwm Coed Coexist, a gynhaliwyd yn y Plas. Mae hanfod y prosiect yn tynnu ein sylw at goed a choetiroedd, gan chwilio am gysylltiadau ehangach, dyheadau a dibyniaeth ar yr ecosystemau hyn wrth gysylltu cymuned, creadigrwydd a stiwardiaeth amgylcheddol. Mae’r prosiect yn ei gyfanrwydd yn anelu at ddathlu’r ardal leol a’r cymunedau sydd wedi’u lleoli ym Mhen Llŷn.
Gan adeiladu ar lwyddiant y symposiwm, mae Junko, John a Phlas Glyn-y-Weddw yn gweithio i ddatblygu prosiect ehangach Coed Coexist gan gynnwys y prosiect preswyl dwyochrog hwn i sefydlu cyfnewidfa ddiwylliannol a chrefftau parhaol rhwng Cymru a Japan. Y nod yw meithrin cysylltiadau rhwng crefftwyr, rhannu sgiliau a hanes tra'n hybu dealltwriaeth ddiwylliannol.
Mae’r cyfnewid hwn yn cynnig yn y lle cyntaf, i artist o Gymru sy’n gweithio gyda phren gyfle amhrisiadwy i ymgolli mewn arferion a thraddodiadau gwaith coed Japaneaidd am fis. Yn gyfnewid am hyn, bydd gweithiwr coed o Japan yn teithio i Gymru i ymgymryd â phreswyliad mis o hyd ym Mhlas Glyn-y-Weddw, lle byddant yn derbyn arweiniad a mentoriaeth arbenigol yn stiwdio enwog John Egan a Junko Mori. Bydd y ddau artist yn cyfoethogi eu profiad ymhellach trwy ymgysylltu â chrefftwyr lleol ac archwilio siopau offer traddodiadol, gan gael mewnwelediad dyfnach i dreftadaeth gwaith coed unigryw eu gwledydd lletyol.
DS Sylwch nad yw cyfleuster Cymdeithas Ddiwylliant Mt Fuji Wood yn hygyrch i bobl ag anableddau corfforol. Yn ogystal, mae'r Gymdeithas wedi'i lleoli ar allt serth iawn ac ni ddarperir cludiant yn gyffredinol ac eithrio o bosibl unwaith yr wythnos i fynd i archfarchnad. Fel arall mae’n rhaid teithio ar droed neu ar feic i'r dref agosaf. Mae trafnidiaeth gyhoeddus o fewn y dref ond nid oes darpariaeth ar gyfer y rhai ag anabledd corfforol.
Hyd:
4 wythnos yn olynol rhwng 8 Tachwedd a diwedd Rhagfyr 2025
Mae’r Preswyliad yn cynnwys:
- Mynediad i ofod ac amser gweithdy gyda'r meistr Tak-san
- Hedfan a throsglwyddiadau
- Llety
- Cynhaliaeth
- Cyfle i brynu offer gwaith coed Japaneaidd arbenigol ond bydd rhaid i’r artist ariannu’r rhain eu hunain, (sylwer bod croeso i artistiaid ddod â’u hoffer llaw eu hunain i’r preswyliad hefyd)
- Cyfle i ymweld â gweithdai a gwneuthurwyr offer eraill
- Cefnogaeth gan Blas Glyn y Weddw yn arwain at, a thrwy gydol y Preswyliad (gan gynnwys unrhyw gefnogaeth weinyddol, bugeiliol ac ati)
Beth sydd heb ei gynnwys:
- Personau ychwanegol
- Yswiriant Teithio
- Unrhyw imiwneiddiadau / meddyginiaeth angenrheidiol
- Effeithiau personol (dillad ac ati)
- Bagiau ychwanegol
- VISA https://www.gov.uk/foreign-travel-advice/japan/entry-requirements
- Teithiau i weithdai a gwneuthurwyr offer eraill
Pwy all wneud cais:
- Canolbwyntir yn arbennig ar artistiaid ar ddechrau eu gyrfa a chanol eu gyrfa sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru sy'n awyddus i ddatblygu eu hymarfer mewn ffyrdd newydd cyffrous.
- Artistiaid sydd ar gael am 4 wythnos rhwng 8 Tachwedd a diwedd Rhagfyr 2025
- Rydym yn annog ceisiadau gan artistiaid sydd heb gynrychiolaeth ddigonol gan gynnwys o rhai gefndiroedd incwm isel, rhai sy’n niwroddargyfeiriol, artistiaid LGBTQIA+ ac artistiaid o’r Mwyafrif Byd-eang. Croesewir cynigion gan artistiaid Cymraeg eu hiaith. (Oherwydd cyfyngiadau a lleoliad y cyfleusterau yn Japan cynghorir unrhyw artistiaid sydd â chyflyrau iechyd hirdymor neu anableddau i gysylltu â ni cyn gwneud cais).
- Rydym yn croesawu ceisiadau gan artistiaid o wahanol gefndiroedd.
Gofynion ar gyfer y Cais:
- Datganiad artist (500 gair ar y mwyaf) yn amlinellu eich ymarfer a sut mae'n cyd-fynd â thema'r preswyliad.
- Artist biog neu cv
- Cynnig prosiect (500 gair ar y mwyaf) yn amlinellu sut rydych chi'n gweld y cyfle hwn yn cyfrannu at eich ymarfer a'r effaith ehangach bosibl ar y ddwy wlad.
- Portffolio o waith diweddar (hyd at 10 delwedd jpeg a/neu ddolenni i fideos).
Dyddiad cau:
Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn: 5yh, 30 Mai 2025
Y Broses Ddethol:
Bydd panel o ddetholwyr yn adolygu ceisiadau ar sail teilyngdod artistig, dichonoldeb y prosiect, ac os yw’n cyd-fynd â thema'r cyfnod preswyl. Bydd y detholwyr yn cynnwys Junko Mori, John Egan, Mr. Yoshino/ Tak-san o Gymdeithas Ddiwylliant Mt Fuji Wood, cynrychiolydd/wyr Plas Glyn y Weddw.
Sut i Wneud Cais:
Am unrhyw ymholiad: E-bostiwch john@makinglittle.co.uk neu alex@oriel.org.uk
Sut i Wneud Cais: Cyflwyno ceisiadau trwy e-bost i alex@oriel.org.uk