Mae Llantarnam Grange yn chwilio am leisiau newydd ym myd celf a chrefft gyfoes i arddangos yn ein sioe flynyddol i raddedigion, Portal. 

Os ydych wedi graddio oddi ar unrhyw gwrs BA neu MA (Anrh) mewn celfyddyd gymhwysol neu o brifysgol yn y DU yn 2024, yna rydych yn gymwys i ymgeisio.

 

Beth yw Portal?

Mae Portal yn gyfle i bymtheg o grefftwyr, artistiaid, dylunwyr, ffotograffwyr a gwneuthurwyr sy’n graddio gymryd rhan yn yr arddangosfa flynyddol o artistiaid graddedig yn Llantarnam Grange, Cwmbrân, De Cymru.

Mae Portal hefyd yn sgwrs ehangach ynglŷn â'ch ymarfer a'ch uchelgeisiau, lle mae'r staff a gweithwyr llawrydd cynorthwyol yn gweithredu fel seinfwrdd a rhwydwaith – ac yn eich helpu i ddatblygu gyrfa iach yn y sector.

 

Beth sydd ar gynnig?

Mae Portal yn gyfle i gymryd rhan mewn arddangosfa grŵp a gynhelir yn Oriel 1 yn Llantarnam Grange. Bydd yr artistiaid ddewiswyd yn cael profiad o arddangos eu gwaith i'r cyhoedd, bod yn rhan o gyhoeddiad, a datblygu cymunedau artistig newydd.

Trwy gydweithio'n agos â'n tîm, byddwch yn cael cyfle dysgu a fydd yn eich helpu i ddatblygu sgiliau ymarferol ac i ddeall sut mae gweithio yn y celfyddydau.

Bydd rhai cyfleoedd mentora mewnol ar gael gyda'n Cyfarwyddwr, ein Swyddog Arddangosfeydd, yr Uwch Swyddog Ymgysylltu neu'r Swyddog Datblygu a Marchnata.

 

Bydd pob artist sy'n arddangos yn derbyn ffi o £100 am gymryd rhan. Bydd angen i chi drefnu cludiant i ddanfon y gwaith at yr oriel eich hunan neu gan gludwr.

Dyddiau cau: 9am, 8 Gorffennaf 2024

Darllenwch ein Pecyn Cais cyn ymgeisio:
Ffurflen Gais Portal yn Gymraeg

Dyddiad cau: 08/07/2024