Mae Celf Wyllt yn brosiect peilot cynhyrfus sy'n cyfuno celfyddydau creadigol, technegau rheoleiddio emosiynol a chyswllt â natur er mwyn gwella iechyd meddwl a lles i bobl ifanc oed 14 - 16. Bydd y prosiect yn rhedeg hyd Fehefin 2025 ac fe'i cefnogir gan Nawdd Loteri Celfyddydau, Iechyd a Lles drwy Gyngor Celfyddydau Cymru.

Mae'r bartneriaeth ‘Amethyst Ffynnon’ yn cynnwys Theatr Byd Bach, Gwydnwch Cymuned Ffynnon (Ffynnon) a Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Glasoed (CAMHS). Mae'r tîm arbenigol yn lansio rhaglen 6 wythnos i gefnogi pobl ifanc sy'n brwydro gyda'u hiechyd meddwl er mwyn iddynt greu cyswllt creadigol gyda natur.

Dywedodd cydlynydd y prosiect Deri Morgan o Theatr Byd Bach:

“Rydym ni wedi bod yn siarad am weithio gyda phobl ifanc gan ddefnyddio'r celfyddydau mewn natur fel arf ar gyfer rheoleiddio emosiynol ers tro. Rydym ni wedi'n cyffroi wrth feddwl am ein partneriaeth newydd gyda Ffynnon a CAMHS ac rydym ni'n credu bydd cyfranogwyr yn gweld y sesiynau hyn yn bethau cefnogol sydd yno i'w mwynhau, ac yn brofiad newydd gwerthfawr.”

Ychwanegodd Tessa Stewart, Cydlynydd Prosiect Ffynnon:

"Mae'r prosiect hwn yn ceisio adeiladu ymdeimlad o berthyn a chreu cysylltiadau i'r hunan drwy natur a chelf gan ddefnyddio'r holl synhwyrau a'r elfennau."

A wnaiff y rhai sydd â diddordeb mewn adgyfeirio i'r rhaglen ac sy'n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro neu Geredigion, gysylltu â Deri am fwy o wybodaeth, deri@smallworld.org.uk