Gyda'r nifer fwyaf erioed o gylchoedd ariannu’n cael eu cyhoeddi’r un pryd, mae Media Cymru'n cyflwyno cnwd toreithiog o gyfleoedd ariannu i fusnesau, sefydliadau ac unigolion sy’n gweithio yn sector y cyfryngau yng Nghymru, gyda chyfanswm cyfunol o dros £1.2 miliwn ar gael ar draws pum cronfa wahanol.     

Gyda thros 75 o brosiectau wedi'u hariannu'n llwyddiannus hyd yma, mae’r Consortiwm Cyfryngau a ariennir gan UKRI hefyd wedi cyhoeddi dwy gronfa newydd sbon sydd wedi’u cynllunio i roi hwb mawr i’w uchelgais teg, gwyrdd a byd-eang i gynyddu arloesedd cyfryngau Cymru.   

Mae’r cyfleoedd ariannu newydd hyn yn dilyn y newyddion fod Caerdydd a dinasoedd cyfagos Casnewydd ac Abertawe yn “glwstwr creadigol” sy’n datblygu i fod yr ail glwstwr mwyaf yn y DU o ran allbwn economaidd.   

Mewn ymchwil a gyhoeddir yn fuan gan dîm ymchwil Media Cymru, mae data’n datgelu bod trosiant ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi cynyddu 55% yn y blynyddoedd ers sefydlu Media Cymru – yr uchaf ar gyfer unrhyw ddinas yn y DU, ac eithrio Llundain. 

Meddai Cyfarwyddwr Impactonomix, Dr Máté Fodor: “Trwy gyfuniad o raglenni strategol, hyfforddiant a digwyddiadau “mannau arloesi” a chyfres o gylchoedd buddsoddi wedi'u targedu, rydyn ni'n gweld yr ymdrechion cyfunol hyn yn talu ar eu canfed o ran twf a chynhyrchiant yn y rhanbarth. Trwy ymyriadau wedi’u targedu a chymorth ac ymgysylltiad busnesau yn y rhanbarth, mae’n glir ein bod yn gweld hwb pendant mewn twf economaidd. 

“Mae amcangyfrifon rhagarweiniol yn dangos bod trosiant yn sector y cyfryngau clyweledol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi cynyddu dros 40% rhwng 2021 a 2023, gyda chyflogaeth amser llawn yn codi mwy na 30%. Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd bellach yn ail i Fanceinion Fwyaf ym maes cynhyrchu cyfryngau, ac eithrio Llundain. Cafodd y sector ei daro’n galetach gan COVID-19 yma nag yng ngweddill y DU. Felly, er mwyn sicrhau statws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn rhywle canolog ar gyfer y cyfryngau, bydd parhau i ganolbwyntio ar arloesedd a chynhyrchiant yn hollbwysig.’’ 

Ychwanegodd yr Athro Sara Pepper OBE, Cyd-gyfarwyddwr Media Cymru: “Dwy flynedd a hanner ers i Media Cymru lansio, rydym eisoes yn gweld effeithiau sylweddol ar gynhyrchiant a thwf yn y rhanbarth. Mae nifer y cwmnïau yn sector y cyfryngau yng Nghaerdydd sydd â throsiant o £1miliwn neu fwy wedi dyblu yn ystod ein daliadaeth, gan gynyddu o 21 i 40. Mae llawer o’r busnesau creadigol hyn wedi bod yn rhan o naill ai Clwstwr neu Media Cymru. Mae hyn yn newyddion gwych i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd a Chymru gyfan wrth i ni agosáu at hanner ffordd drwy gylch oes Media Cymru.  

“Wrth i ni lansio pum cyfle ariannu gyda chyfanswm o dros £1m yr hydref hwn, rydym yn awyddus bod ymgeiswyr tro cyntaf, busnesau sy’n tyfu a chwmnïau sefydledig yn gwneud cais i’n cronfeydd ac yn gweithio gyda ni i greu sector cyfryngau teg a gwyrdd sy’n addas ar gyfer y dyfodol.” 

Cylch ariannu arloesi toreithiog: cyfleoedd yn mynd yn fyw ym mis Hydref   

  • Cronfa Sbarduno (7 i 31 Hydref): Hyd at £10,000 i weithwyr llawrydd a BBaChau yng Nghymru i ddatblygu syniadau ar gyfer cynnyrch, gwasanaethau a phrofiadau newydd yn sector y cyfryngau. 
  • Cronfa Uwchraddio (7 Hydref i 4 Rhagfyr 2024): Hyd at £250,000 ar gyfer prosiectau o bwys ac uchelgeisiol sylweddol sydd â’r potensial i drawsnewid sector y cyfryngau a chael effaith ryngwladol. 
  • Cronfa Arloesedd Cynnwys y BBC (2 Hydref i 8 Tachwedd 2024): Bydd ail gylch Cronfa Arloesedd Cynnwys y BBC yn canolbwyntio ar gynnwys arloesol yn seiliedig ar newid yn yr hinsawdd wedi’i anelu at gynulleidfa brif ffrwd.  

Mae cronfeydd eraill fydd yn agor ddechrau'r flwyddyn nesaf yn cynnwys Cronfa Datblygu Media Cymru (yn fyw yn Chwefror) a Chronfa Cynnwys Ffilm Gwyrddu’r Sgrin Prifysgol Caerdydd a Ffilm Cymru Wales (yn lansio Tachwedd).  

Un cwmni sydd wedi elwa o gylchoedd ariannu blaenorol Media Cymru yw Elemental Health.  Dywedodd Angela McMillan, cynghorydd achrededig a sylfaenydd Elemental Health Ltd: “Mae’r Gronfa Ddatblygu wedi cynyddu ein gallu i gefnogi pobl ifanc yn eu harddegau sy’n profi gorbryder gyda thechnolegau trochi ac wedi rhoi cyfle gwych i ni gynllunio, datblygu a phrofi ymyriad therapiwtig realiti estynedig arloesol i helpu pobl ifanc i leddfu eu symptomau a meithrin cysylltiadau cymdeithasol.”  

Derbyniodd Sugar Creative dros £250k gan Gronfa Uwchraddio Media Cymru i barhau â’u gwaith sy’n arwain y byd yn ymwneud â chreu gemau a phrofiadau geo-leoli XR. Dywedodd Cyfarwyddwr Creadigol Sugar, Will Humphrey: “Mae’r gronfa wedi ein galluogi i barhau i gyflwyno arloesedd yn y sector, adeiladu ar ein gwaith arobryn blaenorol, cyflogi sawl aelod newydd o’r tîm, a chyflawni prosiectau mewn partneriaeth â brandiau byd-eang sy’n gallu dangos potensial technolegau sy’n uno.”  

Mae Andy Taylor wedi gallu datblygu ei gynnyrch, Accordion, diolch i Gyllid Datblygu Media Cymru. Mae Accordion yn dechnoleg arloesol sy'n caniatáu i ddefnyddwyr reoli hyd cynnwys sain a fideo. Dywedodd Andy Taylor, Prif Weithredwr Accordion: "Mae'r gronfa wedi galluogi cynyddu uchelgais, ymarferoldeb ac effaith fasnachol Accordion - gallwn nawr ddatrys problemau mwy i gwsmeriaid proffil uwch a chynhyrchu refeniw uwch."   

Nawr mae buddiolwyr blaenorol cylchoedd ariannu Media Cymru yn annog busnesau creadigol yng Nghymru i wneud cais am y cyfleoedd sydd ar gael, wrth i Media Cymru baratoi i lansio cyfres newydd o alwadau ariannu.  

Rhagor o wybodaeth am 5 cyfle ariannu Media Cymru 
 

Dyddiad cau: 04/12/2024