Rydyn ni am recriwtio ymddiriedolwr newydd i ymuno â’n Bwrdd medrus ac angerddol.
Cenhadaeth Tŷ Cerdd yw cefnogi artistiaid, cymunedau a chynulleidfaoedd i greu, perfformio a chymryd rhan yng ngherddoriaeth Cymru. A’n gweledigaeth: rydyn ni’n dychmygu Cymru lle y galluogir crewyr cerddoriaeth o bob genre a chefndir i gerddora a datblygu gyrfaoedd; lle y gall amrywiaeth o bobl a chymunedau ymgysylltu â cherddoriaeth Gymreig a’i mwynhau.
Mae ein Bwrdd yn cyfarfod bob chwarter, ac rydym yn trefnu 12 mis o gyfarfodydd ar ddechrau pob blwyddyn galendr, gan geisio ymateb cymaint ag y gallwn i amserlenni ac argaeledd ein hymddiriedolwyr.
Nid yw rôl ymddiriedolwr yn un feichus, ond wrth gwrs mae ganddi'r cyfrifoldebau cyfreithlon sy'n gysylltiedig â bod yn gyfarwyddwr elusen.
Ochr yn ochr â'r busnes difrifol o oruchwylio elusen, mae aelodaeth bwrdd TC yn gyfle gwych i gefnogi cerddoriaeth Gymreig, cwrdd â phobl newydd a rhannu eich profiad a’ch arbenigedd eich hun.
Dysgwch fwy ar ein gwefan (dolen isod)